Fel pob dadl arlywyddol yn yr Unol Daleithiau, roedd y ddadl fore Iau (Medi 11) rhwng y cyn- Arlywydd Donald Trump a’r Dirprwy Arlywydd presennol Kamala Harris yn un oedd yn cael ei dadansoddi ymhell cyn i’r ddau ymgeisydd ddod i’r llwyfan, hyd yn oed.

Er hyn, roedd yna deimlad bod mwy yn y fantol i’r ddau ymgeisydd y tro hwn, yn sgil y ffaith fod y ddau mor agos yn yr arolygon barn, eu bod nhw’n cynnal y ddadl yn Pennsylvania (un o daleithiau allweddol yr etholiad), a hefyd mai hon fwy na thebyg fydd yr unig ddadl rhwng y ddau cyn yr etholiad.

Fis Mehefin, mi ddaru perfformiad yr Arlywydd Joe Biden yn erbyn Donald Trump fwy neu lai ddod ag ymgyrch yr arlywydd presennol i ben. I nifer, roedd yn gadarnhad nad yw’n ddigon effeithiol yn feddyliol i fedru llywodraethu am bedair blynedd arall.

Ond y tro hwn, hen yn erbyn [gweddol] ifanc oedd hi, gyda Trump dan y chwyddwydr o ran ei gapasiti meddyliol gyda nifer o enghreifftiau lle mae’r cyn-Arlywydd yn ymddangos fel rhywun sydd ddim yn gwneud synnwyr.

I Kamala Harris, does dim amheuaeth fod y ddadl wedi bod yn llwyddiant. Yn arolwg barn CNN yn dilyn y ddadl, dywedodd 63% o bobol mai hi oedd yr ymgeisydd buddugol, a dydi hi ddim yn anodd gweld pam.

Roedd ambell achlysur lle’r oedd Donald Trump i’w weld yn amddiffynnol, yn cychwyn gydag ysgwyd llaw lle’r oedd e i’w weld yn gyndyn o wneud hynny gyda rhywun mae o wedi ei galw’n “dwp” wrth ymgyrchu.

Hefyd, ddaru Kamala Harris wneud yn dda i dynnu Donald Trump oddi ar ei brif neges o gwmpas mewnfudo, a hynny drwy dynnu sylw ato fel rhyw fath o gi bach yn dilyn cyhuddiad bod ei ralïau yn “diflasu” pobol sydd yn eu mynychu.

Wedyn daeth cyhuddiad “gwallgof”, chwedl Kamala Harris, fod mewnfudwyr “yn lladd ac yn bwyta cŵn” yn Ohio.

Felly, os mai hunanladdiad gwleidyddol oedd perfformiad Joe Biden yn y ddadl ddiwethaf, mae modd dehongli perfformiad Trump yn yr un modd hefyd.

Mae yna gwestiynau o hyd o gwmpas Kamala Harris – be’ ydi ei pholisïau hi yw un ohonyn nhw. Yn amlwg, y strategaeth ydi dangos pa mor “wallgof” yw Trump, ac fel y dywedodd Kamala Harris yn y ddadl, fod “America yn haeddu gwell”.

Ond i bobol sydd yn pryderu am eu sefyllfaoedd ariannol, ac yn beirniadu’r rhyddfrydwyr am beidio â gwneud digon ar fater mewnfudo, mae Donald Trump yn sicr yn dal yn y ras.

Mae llai na dau fis tan yr etholiad ac, ar hyn o bryd, mae’n annhebygol y bydd dadl arall rhwng y ddau cyn mis Tachwedd.

Ond yn dibynnu ar yr arolygon barn, efallai y bydd y cyfle i gynnal dadl arall yn rhywbeth fydd yn rhaid i Donald Trump wthio amdano, ac efallai y bydd yn gyfle rhy dda i Kamala Harris ei wrthod i roi cweir go iawn i’r cyn-Arlywydd.

Noson go dda i Kamala Harris, felly, ac un aeth hyd yn oed yn well ar ôl i ‘Tay Tay’ [Taylor Swift] ddod allan i gefnogi Tîm Kamala.