Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud y bydd gweithwyr dur Port Talbot yn cael cytundeb gwell yn dilyn trafodaethau rhwng Tata ac undebau llafur.

Yn ôl y llywodraeth, mae’r cytundeb yn arwydd o “gyfnod newydd aeddfed o ran perthnasau diwydiannol”.

Bydd y cytundeb newydd yn sicrhau isafswm tâl diswyddo o £15,000 ar gyfer gweithwyr llawn amser, ynghyd â thaliad ’dargadw’ o £5,000 a thâl hyfforddiant i sicrhau incwm sefydlog a gwell sgiliau i weithwyr at y dyfodol.

Yn sgil y cytundeb, mae Tata wedi ymrwymo i gydweithio â’r llywodraeth i werthuso buddsoddiadau newydd mewn dur.

Bydd Tata yn cynnig hyfforddiant, a chymwysterau, i weithwyr sydd mewn perygl o golli eu swyddi.

Bydd gweithwyr sy’n rhan o’r rhaglen hyfforddiant yn derbyn cyflog llawn am fis, ac wedyn £27,000 ar gyfer gweddill y flwyddyn.

Tata fydd yn ariannu costau’r cyflogau, ac mae disgwyl i o leiaf 500 o swyddi newydd gael eu creu er mwyn cefnogi’r gwaith o adeiladu ffwrnais arc trydan newydd.

Lleihau diswyddiadau gwirfoddol

Mae Jonathan Reynolds, Ysgrifennydd Busnes a Masnach San Steffan, wedi pwysleisio’r angen i leihau diswyddiadau gwirfoddol gymaint â phosib.

Mae 2,000 o aelodau o staff Tata wedi mynegi diddordeb mewn diswyddiadau gwirfoddol yn rhan o’r cytundeb hwn, wrth i’r cwmni gynnig y pecyn diswyddo “mwyaf hael erioed”, gyda’r rhai sy’n dewis diswyddiad yn derbyn gwerth 2.8 wythnos o gyflog am bob blwyddyn maen nhw wedi bod yn gweithio i’r cwmni, hyd at 25 mlynedd.

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyfrannu £500m tuag at y cynllun, ac mae amodau’n golygu y bydd modd iddyn nhw hawlio’r arian yn ôl pe na bai Tata yn gwireddu eu hymrwymiadau, gan gynnwys taliadau cosb os na chaiff 5,000 o swyddi eu cadw ar draws y busnes yn y Deyrnas Unedig.

Port Talbot yn flaenoriaeth

Yn ôl llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, mae dyfodol safle dur Port Talbot yn flaenoriaeth iddyn nhw o hyd.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd ailosod eu perthynas â Llywodraeth Cymru’n sicrhau buddiannau i weithwyr dur Cymru.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Busnes a Masnach gyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer y diwydiant dur heddiw (dydd Mercher, Medi 11), a bydd honno’n cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn yn dilyn ymgynghoriad â’r diwydiant a rhanddeiliad.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Tata fis Ionawr eu bod nhw am gau dwy ffwrnais chwyth Port Talbot, gan beryglu 2,800 o swyddi.

Fis Gorffennaf, roedd pryderon am ddyfodol y safle yn sgil amheuon y byddai’r cytundeb yn cael ei ddileu yn ystod wythnos yr etholiad cyffredinol, gan beryglu dyfodol cwmni Tata yn ei gyfanrwydd.

“Dechrau” ymrwymiad Llafur yn unig yw’r cytundeb diweddaraf, meddai’r blaid, ynghyd â “dechrau dyfodol disglair sy’n harneisio diwydiannu a datgarboneiddio fel pileri ar gyfer strategaeth hirdymor a chlir”.

“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad cyllid yma heddiw,” meddai Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll ochr yn ochr â Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi gweithwyr Tata Steel a sicrhau dyfodol newydd i gynhyrchu dur yng Nghymru.

“Mewn sefyllfa sy’n parhau i fod yn hynod gythryblus i lawer, byddwn yn parhau i weithio gyda phob parti i sicrhau bod gweithwyr, cyflenwyr a’r gymuned ehangach yn cael eu cefnogi wrth i’r diwydiant drawsnewid i ddur gwyrdd, fydd yn hanfodol i ddyfodol economi’r Deyrnas Unedig.”

‘Cytundeb gwell na’r llywodraeth ddiwethaf’

“Mae’r cytundeb gwell hwn yn diogelu gweithfeydd dur Port Talbot i’r dyfodol agos, yn gosod y sylfeini ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol, ac yn gwella’r warchodaeth ar gyfer y gweithlu ledled de Cymru, a’r cyfan heb gost bellach i drethdalwyr,” meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Yn ogystal â thrafod cytundeb gwell na’r llywodraeth ddiwethaf, rydyn ni eisoes wedi rhyddhau miliynau o bunnoedd o arian gan y Bwrdd Trawsnewid i gefnogi busnesau a gweithwyr ym Mhort Talbot ac ar draws de Cymru.

“Tra bod hwn yn gyfnod anodd iawn i weithwyr Tata, eu teuluoedd a’u cymuned, mae’r llywodraeth hon yn benderfynol o gefnogi gweithwyr a busnesau yn ein diwydiant dur yng Nghymru, waeth beth fydd yn digwydd.”

Ychwanega Jonathan Reynolds y “bu Port Talbot yn dref ddur erioed, ac mi fydd hi am byth”.

“Mae’r cytundeb hwn yn gwneud yr hyn y gwnaeth cytundebau blaenorol fethu â’i wneud – mae’n rhoi gobaith i ddyfodol gwneud dur yn ne Cymru,” meddai.

‘Ffuantus’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llafur o fod yn “ffuantus gyda’u haddewidion i bobol Cymru”, ac o roi swyddi mewn perygl.

“Yn anffodus, does dim arian newydd wedi’i ddyrannu eto gan y Llywodraeth Lafur oedd wedi addo cymaint mwy yn ystod yr ymgyrch etholiadol,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd y blaid ar yr economi ac ynni.

“Mae’r telerau newydd hefyd yn achosi perygl o golli swyddi yn y dyfodol drwy fygwth tynnu’r pecyn cefnogaeth hanfodol hwn gafodd ei gytuno gan y Llywodraeth Geidwadol yn ôl.

“Mae hyn yn anghyfiawn.”

‘Dim byd mwy na fersiwn arall o’r fargen Geidwadol’

Yn ôl Luke Fletcher, llefarydd economi ac ynni Plaid Cymru, dydy’r cytundeb hwn “yn ddim byd mwy na fersiwn arall o’r fargen gafodd ei chyflwyno gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol”.

Daw hynny “er gwaethaf addewidion Llafur dro ar ôl tro o ‘gytundeb gwell’ i Gymru”, meddai.

“Dyma enghraifft arall eto o fethiant cronig San Steffan i ddarparu cefnogaeth ystyrlon i ddiwydiannau a gweithwyr Cymru.

“Mae’r diwydiant dur yn rhan sylfaenol o’n treftadaeth ddiwydiannol ac yn ased strategol hanfodol.

“Mae Plaid Cymru yn galw ar y Llywodraeth Lafur i gymryd camau pendant – i ddiogelu swyddi ac i sicrhau hyfywedd tymor hir cynhyrchu dur yng Nghymru trwy berchnogaeth gyhoeddus strategol.

“Rydym yn gweld y pleidiau Llafur a’r Ceidwadwyr yn llywyddu dros y polisi diwydiannol mwyaf trychinebus ers cau’r pyllau glo a datgymalu diwydiant arall yng Nghymru.

“Rydym yn mynnu atebion ac arweinyddiaeth go iawn i atal erydiad pellach o sylfaen ddiwydiannol Cymru.

“Mae’n bryd i Lafur gyflawni eu haddewidion, nid ailadrodd camgymeriadau eu rhagflaenwyr.

“Mae angen i ni ddeall beth mae Llafur yn ei gynnig yn wahanol i’r hyn mae’r Ceidwadwyr eisoes wedi’i gynnig.”

‘Dim byd mwy nag addewidion gwag’

Dydy’r cytundeb yn “ddim byd mwy nag addewidion gwag”, yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Bydd methiant Llafur i atal colli swyddi’n cael canlyniadau byd go iawn i’r gweithwyr sy’n wynebu diswyddiadau a’r gymuned leol sy’n dibynnu ar fasnach â’r gweithfeydd dur,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.

“Mae Tata wedi addo cynllun ailhyfforddi â thâl i’r rhai sydd mewn perygl o golli eu swyddi, ond hyd nes bod manylion llawn hyn yn cael eu datgelu, dw i’n ofni y byddaf fi a chymuned ehangach Port Talbot yn parhau’n amheus.”