Cafwyd hyd i fachgen bach chwech oed o Abertawe ag “anafiadau sylweddol i’w wddf”, yn ôl y cwest i’w farwolaeth.

Daeth yr heddlu o hyd i Alexander Zurawski yn ei gartref yn ardal Gendros yn Abertawe ar Awst 29.

Yn ôl yr heddlu, cawson nhw a pharafeddygon eu galw i’r eiddo yn dilyn pryderon cymdogion, ac roedd y bachgen bach wedi colli cryn dipyn o waed.

Cafodd Karolina Zurawska ei chyhuddo o lofruddio’i mab, ac mae hi wedi’i chadw yn y ddalfa.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad fod y bachgen bach wedi marw o ganlyniad i anaf ag arf miniog i’w wddf.

Dywedodd y crwner iddo farw’n “annaturiol”.

Mae’r cwest i farwolaeth y bachgen bach bellach wedi cael ei ohirio tan bod ymchwiliad yr heddlu wedi dod i ben.

Alexander Zurawski: Dynes, 41, am sefyll ei phrawf fis Chwefror nesaf

Mae Karolina Zurawska o ardal Gendros yn Abertawe wedi’i chyhuddo o lofruddio’i mab chwech oed

Cadw dynes, 41, yn y ddalfa wedi’i chyhuddo o lofruddio bachgen chwech oed

Bu farw Alexander Zurawski mewn eiddo yn ardal Gendros yn Abertawe nos Iau (Awst 29)

Cyhuddo dynes, 41, o lofruddio bachgen chwech oed

Bu farw Alexander Zurawski yn ardal Gendros yn Abertawe nos Iau (Awst 29)