Bydd dynes 41 oed sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio’i mab chwech oed yn eu cartref yn Abertawe, yn mynd gerbron llys fis Chwefror nesaf.
Cafodd Karolina Zurawska o ardal Gendros ei harestio yn dilyn digwyddiad nos Iau (Awst 29), a’i chadw yn y ddalfa ar ôl mynd gerbron ynadon.
Heddiw, yn Llys y Goron Abertawe, mae hi wedi wynebu’r cyhuddiadau o lofruddio Alexander Zurawski ac o geisio llofruddio’i thad, Krzysztof Siwi, 67 oed, ar yr un diwrnod.
Yn ystod y gwrandawiad byr, cadarnhaodd y ddynes ei henw, a’i bod hi’n gallu clywed y gwrandawiad drwy gyswllt fideo o’r ddalfa.
Wnaeth hi ddim cyflwyno ple.
Cadarnhaodd y barnwr Paul Thomas y bydd yr achos llys yn dechrau ar Chwefror 17, 2025.
Mae Karolina Zurawska wedi’i chadw yn y ddalfa tan hynny.
Bydd gwrandawiad ple a pharatoi’r achos yn cael ei gynnal ar Fedi 26, a gwrandawiad paratoadol pellach ar Ragfyr 12.
Mae disgwyl i’r achos llys bara rhwng wythnos a phythefnos.