Mae dynes 41 oed sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio bachgen chwech oed yn Abertawe wedi cael ei chadw yn y ddalfa.

Bu farw Alexander Zurawski mewn eiddo yn ardal Gendros nos Iau (Awst 29).

Mae Karolina Zurawska wedi’i chyhuddo o lofruddio’r bachgen bach, ac o geisio llofruddio dyn 67 oed mewn digwyddiad arall ar yr un diwrnod.

Aeth hi gerbron ynadon yn Abertawe heddiw i wynebu’r cyhuddiadau.

Yn ystod y gwrandawiad, cadarnhaodd hi ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, ond wnaeth hi ddim cyflwyno ple.

Bydd hi’n ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe fory (dydd Mawrth, Medi 3).

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r achos.