Yn ddiweddar, mae cyllid grant gan Gyngor Sir Powys wedi cwblhau prosiect gwerth £53,000 i wneud coetir yng Ngwm Elan yn fwy hygyrch i ymwelwyr.
Roedd y prosiect yn cynnwys creu llwybrau hygyrch, arwyneb gwell, gatiau hygyrch a grisiau i ben Argae Pen y Garreg, yng Nghoed Penbont, ynghyd â llwyfan gwylio a bwrdd picnic hygyrch.
Mae dwy loches wedi’u hadeiladu hefyd, sy’n darparu mwy o wybodaeth am y goedwig law Geltaidd yng Nghwm Elan a Cheunant y Diafol, ac wedi ailagor yn ddiweddar.
“Mae twristiaeth yn bwysig iawn i economi Powys a rydym ni, felly, eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r asedau sydd gennym a gwneud ein sir hardd yn lle mwy deniadol i ymweld â hi,” meddai’r Cynghorydd David Selby, yr Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys â chyfrifoldeb dros Bowys Fwy Llewyrchus.
“Rwy’n gobeithio y bydd llawer mwy o bobol nawr yn cael eu hannog i gerdded o amgylch Cwm Elan.”
Fe wnaeth Gwasanaeth Economi a Hinsawdd y Cyngor Sir sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gynllun y Pethau Pwysig.
Roedd Dŵr Cymru hefyd wedi darparu cyllid, ac yn ôl Mike Book, eu Rheolwr Atyniadau Ymwelwyr ar gyfer Cwm Elan, maen nhw’n “ddiolchgar iawn bod cyllid y Pethau Pwysig, drwy Gyngor Sir Powys, wedi ein cefnogi eto eleni i wella mynediad i ymwelwyr â Chwm Elan”.
“Rydym yn cynnal teithiau ac ymweliadau addysgol drwy gydol y flwyddyn ac yn cynnal diwrnodau agored rheolaidd drwy gydol yr haf i roi cyfle i ymwelwyr weld y tu mewn i un o’n hargaeau ysblennydd, gan roi profiad unigryw,” meddai.
“Mae ychwanegu’r llochesi gwybodaeth yn rhoi cipolwg i ymwelwyr o ansawdd arbennig a phwysigrwydd Cwm Elan y daw pobl yma i’w fwynhau.”
Y cynllun Pethau Pwysig
Mae cynllun Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru wedi arwain at ddyrannu £5m i wella seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru ar gyfer 2023-25.
Maen nhw am sicrhau bod “harddwch syfrdanol Cymru yn agored ac yn hygyrch i bawb”, ac “mae’r buddsoddiad yng Nghwm Elan wedi arwain at lu o welliannau ac ychwanegiadau i un o fannau mwyaf trawiadol Cymru, hyd yn oed yn fwy arbennig,” yn ôl Jack Sargeant, Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol Cymru.