Bydd arbenigwyr TB yn ymgynnull yn Aberystwyth ar Fedi 18 i drafod sut allai cydweithio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol helpu i reoli lledaeniad TB mewn gwartheg.
Bydd grwpiau sy’n cynrychioli milfeddygon, ffermwyr, y Llywodraeth, cadwraethwyr a’r byd academaidd yn ymgynnull i drafod dimensiynau cymdeithasol rheoli TB mewn gwartheg.
Caiff y gynhadledd ei chynnal gan Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB mewn gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r ganolfan yn y brifysgol yn darparu cyngor annibynnol arbenigol ar reoli TB gwartheg, ac mae’n gwella ymchwil da byw yng Nghymru gyda’i labordai ymchwil milfeddygol.
Y gynhadledd
Ymysg y siaradwyr yn y gynhadledd fydd Dr Damien Barrett o Adran Amaeth Llywodraeth Iwerddon, Dr Ruth Little o Adran yr Amgylchedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, yr Athro Gareth Enticott o Brifysgol Caerdydd a Dr Henry Grub o Goleg Imperial Llundain.
Hefyd yn annerch y gynulleidfa fydd Helen Forester a Chris Addison o Cumbria, a Michael Williams a Rhiannon Lewis o Sir Benfro, sy’n ffermwyr a milfeddygon sy’n ymwneud â mentrau lleol i reoli TB.
Dywed yr Athro Glyn Hewinson, Pennaeth Canolfan Ragoriaeth Tuberculosis Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, fod “cydweithio, grymuso a meithrin cysylltiadau yn hanfodol ar gyfer y frwydr barhaus yn erbyn TB mewn gwartheg yma yng Nghymru”.
“Mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi cynnal cynadleddau sy’n canolbwyntio ar brofi TB, bioddiogelwch, a bywyd gwyllt,” meddai.
“Mae thema eleni, sef ‘Dimensiynau Cymdeithasol Rheoli TB’, yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, ar gyfer rheoli clefydau’n effeithiol a’u dileu.”
Dywed eu bod yn “bwriadu trin a thrafod y dimensiynau cymdeithasol TB mewn gwartheg gan gynnwys gwyddoniaeth newid ymddygiad a phwysigrwydd cynnwys yr holl randdeiliaid wrth gyd-ddylunio polisïau ac ymyriadau rheoli clefydau”.
“Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl o wahanol gefndiroedd yn gallu ymuno â ni ar gyfer cynhadledd sy’n ysgogi’r meddwl a lle byddwn yn gofyn i’n hunain sut y gallwn sicrhau dull rhanbarthol llwyddiannus o ddileu TB yng Nghymru,” meddai.
Mae modd cofrestru a chael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd drwy fynd i https://vethub1.co.uk/cms/events/?lang=cy