Dylai cymdogion gael dweud eu dweud pan fydd perchnogion llety gwyliau yn dechrau gwneud cais am drwydded, yn ôl deiseb newydd.
Mae disgwyl i gynllun trwyddedu llety gwyliau yng Nghymru gael ei gyflwyno yn y Senedd cyn diwedd y flwyddyn, ac mae’r ddeiseb am iddyn nhw ddilyn cynllun yr Alban, lle mae’n caniatáu i gymdogion ymateb i geisiadau am drwydded.
Golyga hynny y gall ymatebion y cymdogion gael eu hystyried fel sail bosibl dros wrthod cais.
Yn yr Alban, caiff cymdogion eu hysbysu ynghylch ceisiadau am drwyddedau newydd a cheisiadau i adnewyddu trwyddedau.
Jaci Cullimore sydd wedi dechrau’r ddeiseb, a dywed bod tri fflat drws nesaf i’w chartref wedi newid yn lletyau gwyliau flwyddyn yn ôl a bod hynny’n golygu bo dy nifer o bobol sy’n defnyddio’r fflatiau “wedi mwy na dyblu”.
“Mae’r ardal breifat o gwmpas fy nghartref wedi troi yn un gyhoeddus: nifer fawr o bobol dwi ddim yn adnabod yn mynd a dod bob awr o’r dydd, y glanhau a’r newidiadau cyson, ac mae’r sŵn sy’n cael ei gynhyrchu gan bobol sydd ar wyliau yn effeithio ar fy mywyd,” meddai Jaci Cullimore wrth golwg360.
“Dw i’n adnabod llawer o bobol sydd mewn sefyllfa debyg i mi, ac fel trigolion parhaol, dw i’n teimlo fel y dylen ni gael mwy o lais na thwristiaid sy’n ymweld a’r landlordiaid absennol.
“Dydw i ddim yn meddwl y dylai lletyau prysur i dwristiaid fod mewn ardaloedd preswyl, ond os ydyn nhw yna dylid cael rheolau llawer llymach, a dylai trigolion parhaol gael dweud eu dweud yn y mater.”
Trwyddedu llety gwyliau
Bwriad y cynllun yw cyflwyno cofrestr o’r mathau o lety sydd ar gael i ymwelwyr, a sicrhau profiad gwell i ymwelwyr o ran diogelwch.
Y cam cyntaf fyddai cofnodi pob darparwr llety, fyddai’n creu cofrestr o’r holl lety ymwelwyr sydd ar gael ledled y wlad am y tro cyntaf.
Unwaith fydd y cynllun cofrestru wedi’i sefydlu, y bwriad yw dilyn cynllun trwyddedu ar gyfer pob llety.
I ddechrau, bydd hyn yn canolbwyntio ar gadarnhau bod y llety’n cydymffurfio â gofynion diogelwch, cyn ystyried cyflwyno safonau ansawdd yn nes ymlaen.
“Pan fydd y gofrestr lletyau gwyliau wedi’i chwblhau, dwi’n meddwl y bydd pobl yn cael sioc o ddarganfod faint ohonynt sydd yng Nghymru,” ychwanega Jaci Cullimore.
“Os yw pobol yn cytuno â’r ddeiseb, byddai’n wych pe baen nhw yn ei chefnogi os ydyn nhw’n yn byw drws nesaf i lety gwyliau ai peidio, oherwydd tra bod yr hawliau datblygu yn bodoli gall unrhyw un tu allan i ardal gynllunio Gwynedd newid tŷ preswyl i lety gwyliau.”
Mae cynllun ardystio Gogledd Iwerddon mewn grym ar gyfer pob llety ers 1992, a chyflwynodd yr Alban gynllun trwyddedu ar gyfer gosod tymor byr yn ddiweddar.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn bwriadu dilyn dull cofrestru ar gyfer gosod tymor byr.
“Yn ogystal â galluogi darparwyr llety gwyliau i ddangos eu bod yn cydymffurfio â gofynion ansawdd a diogelwch, credwn y dylai’r cynllun trwyddedu yng Nghymru hefyd fynd i’r afael â’r materion mae cymdogion yn eu hwynebu,” medd y ddeiseb.
Newidiadau yng Ngwynedd
Gwynedd yw’r sir gyntaf yng Nghymru i weithredu Erthygl 4, ac mae Parc Cenedlaethol Eryri’n bwriadu eu dilyn.
Cafodd awdurdodau lleol ledled Cymru ragor o bwerau gan y Llywodraeth fis Hydref 2022 i reoli nifer yr ail gartrefi.
Bellach, mae tri dosbarth gwahanol o ran y defnydd o eiddo, sef prif gartref, ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.
Fydd y newid ddim yn berthnasol i eiddo sydd eisoes wedi’i sefydlu fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr cyn i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ddod yn weithredol.
Fe wnaeth bron i 4,000 o bobol ymateb i’r ymgynghoriad, llawer ohonyn nhw’n gwrthwynebu, ond dywed y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, eu bod nhw am weld pobol leol yn “gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol”.
“Yn anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobol Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac mae hynny i’w weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau,” meddai.
“Mae’n anorfod felly fod y nifer sylweddol o dai sy’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr yn effeithio ar allu pobl Gwynedd i gael mynediad at gartrefi yn eu cymunedau.
“Trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, bydd gan y Cyngor arf newydd i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau.”
‘Angen adeiladu mwy o dai’
Dywed Mark Isherwood, llefarydd tai y Ceidwadwyr Cymreig, fod angen i Lywodraeth Cymru adeiladu mwy o dai.
“Yr hyn sydd wrth wraidd y ddadl yw rhwystredigaeth bod pobol leol yn cael trafferth cael tai fforddiadwy, yn enwedig mewn cymunedau lle mae galw uchel am ail gartrefi,” meddai wrth ymateb i gyflwyno Erthygl 4.
“Â hwythau wedi anwybyddu rhybuddion a datrysiadau posib am dros ddau ddegawd, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu cyrraedd eu targedau codi tai dro ar ôl tro.
“Mae eu polisïau’n gostwng fforddiadwyedd tai, ac mae’r ffocws ar dwristiaeth ac ail gartrefi’n tynnu’r sylw oddi ar yr angen ehangach am fwy o dai.”