Mae cynlluniau fyddai’n golygu bod rhaid i bob llety ymwelwyr yng Nghymru gael eu cofrestru a’u trwyddedu wedi cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 9).
Bwriad y cynllun yw cyflwyno cofrestr o’r mathau o lety sydd ar gael i ymwelwyr, a sicrhau profiad gwell i ymwelwyr o ran diogelwch.
Y cam cyntaf fyddai cofnodi pob darparwr llety, fyddai’n creu cofrestr o’r holl lety ymwelwyr sydd ar gael ledled y wlad am y tro cyntaf.
Unwaith y bydd y cynllun cofrestru wedi’i sefydlu, y bwriad yw dilyn cynllun trwyddedu ar gyfer pob llety.
I ddechrau, bydd hyn yn canolbwyntio ar gadarnhau bod y llety’n cydymffurfio â gofynion diogelwch, cyn ystyried cyflwyno safonau ansawdd yn nes ymlaen.
‘Deall y sector’
Mae disgwyl i’r cynllun gael ei gyflwyno fel deddfwriaeth yn y Senedd cyn diwedd y flwyddyn.
“Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru ac i fywyd Cymru felly bydd yr wybodaeth hon yn hanfodol i’n helpu i ddeall y sector yn well, yn ogystal â helpu i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol ar lefel leol a chenedlaethol,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru.
“Mae’r economi ymwelwyr yn newid yn gyflym, ac er bod twf llwyfannau archebu ar-lein wedi dod â llawer o fanteision, mae pryderon ynghylch cydymffurfio â’r gofynion presennol ac effaith gosod tai yn y tymor byr ar y stoc tai a’n cymunedau.”
Daw’r cynllun yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac ymgysylltu â’r sector, ynghyd ag arolwg ddangosodd fod 89% o ymwelwyr o’r farn ei bod hi’n bwysig bod y llety maen nhw’n aros ynddo’n gweithredu’n ddiogel.
Mae cynllun ardystio Gogledd Iwerddon mewn grym ar gyfer pob llety ers 1992, a chyflwynodd yr Alban gynllun trwyddedu ar gyfer gosod tymor byr yn ddiweddar.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn bwriadu dilyn dull cofrestru ar gyfer gosod tymor byr.
‘Twristiaeth fwy cynaliadwy’
O dan y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynllun trwyddedu ar gyfer pob llety gwyliau fel rhan o becyn o fesurau i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a llety gwyliau ar y farchnad dai.
“Bydd ein cynlluniau ar gyfer cynllun cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer pob llety ymwelwyr yng Nghymru yn helpu i sicrhau diogelwch ymwelwyr ac yn ceisio gwella profiad yr ymwelwyr,” meddai Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru.
“Bydd y cynlluniau hefyd yn creu cynnig twristiaeth fwy cynaliadwy – wedi’i ddarparu yn unol ag anghenion a phryderon cymunedau, yn enwedig o ran tai.
“Bydd hyn yn arwain at reolaethau cryfach ar eiddo preswyl sy’n gweithredu fel llety gwyliau tymor byr, gan arwain at fwy o degwch i bawb.”
‘Dathlu nid mygu twristiaeth’
Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’n cynllun, gan ddweud y dylai Llywodraeth Cymru ddathlu twristiaeth yn hytrach na mygu’r diwydiant.
“Mae yna berygl fod y cynllun trwyddedu hwn yn fargen wael i’r sector dwristiaeth,” meddai Tom Giffard, llefarydd twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
“Ymhell o fod yn codi safonau, mae’n ymddangos y gallai cynllun Llywodraeth Cymru gynyddu faint o dâp coch sydd ar y sector a gweithio fel sylfaen i’w treth dwristiaeth.”