Mae Plaid Cymru yn galw o’r newydd ar i Lywodraeth Lafur Cymru ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl uwchradd Blwyddyn 7-11 o deuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, heb unrhyw gap ar enillion.

Mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Ionawr 10), mae disgwyl i’r Blaid dynnu sylw at fethiannau’r Llywodraeth wrth fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru o ran cyrhaeddiad addysgol.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae 28% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol, unwaith y bydd costau tai wedi cael eu hystyried.

‘Angen rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru’

Wrth nodi’r gydberthynas rhwng tlodi plant a’r bwlch cyrhaeddiad addysg i blant yng Nghymru, bydd Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, yn dyfynnu canlyniadau PISA a’r adroddiad cenedlaethol diweddaraf ddangosodd fod 11% o ddysgwyr yng Nghymru wedi colli pryd o fwyd oherwydd tlodi.

“Dylai’r ffaith bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi fod yn achos sgandal cenedlaethol,” meddai.

“Ond pan wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru ddileu ei thargedau ei hun ar gyfer dileu tlodi plant, ac wedi gohirio cyhoeddi strategaeth tlodi plant newydd, a yw’n syndod bod y nifer yn parhau i fod mor ystyfnig o uchel?

“Yng Nghymru, rydym yn ffodus o gael gweision cyhoeddus gweithgar – athrawon, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cyngor – a gweithwyr trydydd sector, i gyd wedi ymrwymo i helpu datblygiad ein plant a mynd i’r afael â thlodi plant.

“Ond dro ar ôl tro mae eu gwaith yn cael ei danseilio gan bwysau cyllidebol cystadleuol a diffyg ffocws clir gan Lywodraeth Cymru.

“Mae cymaint sydd angen ei wneud, gan gynnwys cyhoeddi a gweithredu cynllun statudol sy’n cael ei yrru gan darged i fynd i’r afael â thlodi plant, i helpu i gau’r bwlch cyrhaeddiad a gwella canlyniadau addysg.

“Mae darparu pryd ysgol faethlon am ddim i fwy o blant yn un ffordd o helpu i lefelu’r cae chwarae.

“Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw ar bob plentyn ym mlynyddoedd saith i 11 gyda theuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol – heb gap ar enillion – i dderbyn pryd ysgol am ddim.

“Gan nad yw tlodi yn dod i ben yn yr ysgol gynradd.

“Dylai mynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru fod yn flaenoriaeth i Lafur ac mae angen iddynt wneud popeth o fewn eu gallu i liniaru effeithiau dinistriol tlodi ar gyrhaeddiad a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.”

Cost o £28 miliwn y flwyddyn

“Mae amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu y byddai’r gost o ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd sy’n derbyn credyd cynhwysol oddeutu £28 miliwn y flwyddyn, ac mae hyn cyn unrhyw gostau cyfalaf neu weinyddol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Realiti’r sefyllfa ariannol bresennol yw bod ein cyllideb werth £1.3bn yn llai mewn termau real yn 2024-25 na phan gafodd ei gosod yn 2021, ac rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau heriol wrth bennu ein cyllideb ddrafft.

“Fel llywodraeth, rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi teuluoedd sydd ei angen fwyaf.

“Rydyn ni’n canolbwyntio’n gyntaf ar gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd.

“Rydyn ni hefyd wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol yn eu hatgoffa o’u disgresiwn i allu darparu prydau bwyd heb godi tâl, ac o’r disgwyliad na ddylid gwrthod cynnig pryd o fwyd i unrhyw blentyn os yw’n cyrraedd yr ysgol yn llwglyd.”