Mae tua hanner gweithwyr Cymru’n credu y dylid datganoli hawliau gweithwyr, yn ôl ymchwil newydd.
Mae pôl newydd gan Opinium Research yn dangos bod 45% yn credu y dylai’r mater fod yn nwylo Llywodraeth Cymru, tra bod 44% o’r farn y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gadw’r grym.
Cafodd yr ymchwil ei wneud fel rhan o adroddiad newydd ar Ddyfodol Gwaith a Datganoli yng Nghymru, adroddiad sy’n dweud y dylid creu Gweinidog Gwaith yng nghabinet newydd Llywodraeth Cymru.
Mae’r adroddiad gan yr Athro Jean Jenkins o Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd yn galw am newid y ffordd mae Llywodraeth Cymru’n ymdrin â gwaith a hawliau llafur.
Ynghyd ag argymell creu Gweinidog Gwaith, mae’r adroddiad – sydd wedi cael ei gyhoeddi gan TUC Cymru – yn argymell fod undebau llafur yn sefydlu gweithgor i edrych ar faterion ymarferol datganoli hawliau gweithwyr.
Mae adroddiad terfynol Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith yng Nghymru, gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Ionawr 10), yn edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r arfau sydd ganddyn nhw i gefnogi gweithwyr yng Nghymru hefyd.
Ar hyn o bryd, dim ond £10.45 fesul gweithiwr sy’n cael ei wario ar orfodi hawliau gweithwyr yng Nghymru.
‘Cyfreithiau’n bodoli ar bapur’
Dydy datganoli hawliau gweithwyr ddim yn debygol o fod yn ddigon i greu gwelliannau sylweddol i weithwyr medd yr adroddiad, oni bai bod cynllunio manwl iawn wedyn a mwy o gyllid.
Yn ôl yr ymchwil, mae mwy o bobol ifanc o blaid datganoli hawliau gweithwyr na gweithwyr hŷn.
“Mae fy adroddiad yn asesiad onest o sefyllfa gweithwyr yng Nghymru yn 2024,” meddai Jean Jenkins, sy’n Athro mewn Perthnasau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.
“I ormod o weithwyr, mae eu profiadau’n llawn ansicrwydd, cyflogau sydd ddim yn cynyddu, a system hawliau gweithwyr sy’n cynnig ychydig iawn o amddiffyniad gwirioneddol.
“Y realiti yw bod nifer o’r cyfreithiau sydd i fod i gefnogi gweithwyr yn bodoli ar bapur yn unig.
“Does yna ddim llawer o wledydd sydd gan ffordd mor wan o weithredu hawliau gweithwyr, ac rydyn ni angen blaenoriaethu newid os yw’r weledigaeth ar gyfer Gwaith Teg yng Nghymru am ddod yn realiti.
“Dw i wedi amlinellu set uchelgeisiol o argymhellion sy’n canolbwyntio ar yr hyn ellir ei wneud nawr yng Nghymru i wella pethau, ac wedi creu map ar gyfer gwaith ymarferol fyddai angen ei wneud cyn ystyried mwy ar ddatganoli hawliau gweithwyr i Gymru.
“Fy ngobaith yw y bydd ein gwleidyddion, undebau a gweithwyr yn cydnabod yr angen am ddiwygio ar frys.”
‘Ail-siapio radical’
Ychwanega Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, y bydd undebau yn myfyrio ar yr adroddiad ac yn meddwl mwy am eu barn am ddatganoli hawliau gweithwyr mewn cyfarfod ym mis Mai.
“Mae argymhellion yr Athro Jenkins yn canolbwyntio ar ail-siapio bywyd gwaith Cymru mewn ffordd radical – drwy fuddsoddi mewn gorfodi hawliau gweithwyr ac arwain y wladwriaeth ddatganoledig tuag at ailadeiladu’r amodau sydd eu hangen i weithwyr adnabod eu hawliau gwaith sylfaenol,” meddai.
“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig sydd gan ddim diddordeb mewn cefnogi gweithwyr wedi’n gadael ni i lawr ers 14 mlynedd.”