Mae penderfyniad dadleuol i dorri oriau agor llyfrgelloedd Sir Ddinbych wedi cael ei alw i mewn, ac fe fydd trafodaeth yn cael ei chynnal o’r newydd yn ystod cyfarfod arbennig o’r Cyngor ddydd Iau (Ionawr 11).
Daw’r cyfarfod arbennig yn dilyn sêl bendith gan y Cyngor ar Ragfyr 19 i’r cynlluniau dadleuol i dorri oriau agor llyfrgelloedd Sir Ddinbych.
Rhoddodd y Cabinet y golau gwyrdd i dorri oriau agor llyfrgelloedd gan 40% er mwyn arbed £360,000 y flwyddyn.
Achosodd y penderfyniad helynt ymhlith rhai cynghorwyr, wrth i ymgynghoriad cyhoeddus ddenodd 4,500 o ymatebion ddatgelu bod 90% o bobol yn anghytuno’n gryf â’r cynigion.
Ond mae’r Cyngor yn honni iddyn nhw wynebu pwysau ariannol “digynsail” gyda diffyg o bron i £25m yn eu cyllideb y flwyddyn nesaf.
Ond mae’r penderfyniad bellach wedi cael ei alw i mewn gan aelodau sy’n gwrthwynebu’r cam, yn dilyn cyflwyno hysbysiad ‘galw i mewn’ gan bump o gynghorwyr o’r tu allan i’r Cabinet.
Gwrthwynebiad i benderfyniad “diwelediad”
Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn un o ryw ugain o gynghorwyr oedd yn gwrthwynebu penderfyniad y Cabinet.
“Mae’n wasanaeth anhygoel, ac mae ei dorri bron yn ei hanner yn ddiwelediad,” meddai.
“Yn fy marn i, mae’n anghywir.
“Dw i’n credu bod bwrw’r fath wasanaeth bach gymaint er mwyn ennill £350,000 yn ddiwelediad, oherwydd mae’r llyfrgelloedd yn gwneud llawer mwy.
“Dydy hi ddim yn fater o fynd i ôl llyfr o’r llyfrgell ragor.
“Mae’r gwasanaeth llyfrgelloedd yn gwneud tipyn mwy na rhoi benthyg llyfrau erbyn hyn.
“Maen nhw’n trin incwm drwy beiriant arian.
“Mae gwasanaethau cwsmeriaid eraill oherwydd fod cymaint ar-lein rŵan.
“Mae o’n ymholiadau wyneb-yn-wyneb, sy’n diflannu.
“Mae ganddyn nhw lawer o ddigwyddiadau cymunedol lle mae pobol yn dod ynghyd o bob rhan o Sir Ddinbych.
“Mae’n bosib fod 10,000 o bobol sy’n mynd i ddigwyddiadau cymunedol mewn llyfrgelloedd.
“Mae llawer o bobol yn fregus.
“Clywais i am un achos lle’r oedd merch ysgol â bywyd anodd gartref yn defnyddio llyfrgelloedd i wneud ei gwaith cartref.
“Wel, os ydyn nhw am dorri’r gwasanaethau, all pethau felly ddim digwydd.
“Mae argaeledd sesiynau TGCh o fewn llyfrgelloedd a’r gwasanaeth cartref, sy’n wasanaeth hanfodol.
“Mae 50% o bobol yn Sir Ddinbych yn defnyddio llyfrgelloedd.
“Mae’n wasanaeth bach, dim ond £1.7m o gymharu â bron i £100m ar gyfer addysg a gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau mawr eraill, felly mae toriad fel hwn yn hollol anghymesur â maint y gwasanaeth.
“Yn bersonol, dw i’n credu eu bod nhw ond yn potsian ar yr ymylon oherwydd mae ganddyn nhw fwlch cyllido o £26m.
Dychwelyd y mater i’r Cabinet?
Gallai’r mater gael ei ddychwelyd i’r Cabinet.
Ond wrth siarad yn ystod y cyfarfod fis diwethaf, dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr arweinydd, fod y Cyngor dan bwysau enfawr.
“Rydyn ni wedi cydnabod ei fod yn wasanaeth rheng flaen,” meddai.
“Rydyn ni wedi cydnabod fod yr ymgynghoriad yn enfawr.
“Rydyn ni wedi cydnabod fod yr ymgynghoriad yn sylweddol yn erbyn toriadau.
“Ond dydy hynny ddim yn ein symud oddi wrth y ffaith fod hyn yn rhan o bwysau cyllidebol enfawr rydyn ni’n ei wynebu.
“Does neb ohonom yn ymdrin â hyn mewn modd ysgafn.”