Mae aelodau o’r Blaid Lafur wedi cyhuddo Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig o wneud dim i fynd i’r afael â helynt S4C.

Daw hyn wrth i Rhodri Williams, cadeirydd Bwrdd y sianel, a Chris Jones, aelod o’r Bwrdd, fynd gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan heddiw (dydd Mercher, Ionawr 10).

Yn benodol, Lucy Frazer, yr Ysgrifennydd Diwylliant, sydd dan y lach ac mae’r llywodraeth wedi’u cyhuddo gan Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur, a Thangam Debbonaire, eu llefarydd diwylliant, o “beidio gwirio” y “sefyllfa niweidiol”.

Ond mae’r Llywodraeth yn mynnu eu bod nhw’n parhau i drafod y sefyllfa ag S4C.

Cefndir

Cafodd Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C, ei diswyddo y llynedd cyn i adroddiad gael ei gyhoeddi yn beirniadu diwylliant o fwlio a’i rheolaeth “unbenaethol” hi ei hun.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty ar ôl cael ei diswyddo, ac roedd honiadau gan ei theulu iddi hithau hefyd gael ei bwlio.

Cafodd Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C, ei diswyddo hefyd yn dilyn honiadau ei bod hi wedi beirniadu safon Cymraeg Mike Phillips, fu’n gweithio i’r sianel, ac y gallai hi ddirwyn ei yrfa i ben pe bai’n dymuno.

Yn ei dro, cafodd Rhodri Williams yntau ei gyhuddo gan Llinos Griffin-Williams o ymddwyn yn amhriodol, ac mae lle i gredu ei fod e wedi ymddiheuro am weiddi.

Llythyr

Yn eu llythyr at Lucy Frazer, dywed Jo Stevens a Thangam Debbonaire na all sefyllfa S4C barhau fel ag y mae.

Maen nhw’n dweud bod yr ymdrechion i ddiweddaru’r sianel yn y cysgodion o gymharu â “chyfres o argyfyngau sy’n awgrymu problemau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn arweinyddiaeth, rheolaeth a diwylliant y sefydliad” ac y dylai hynny fod yn destun “pryder mawr”.

Dywed aelodau seneddol fod “cwestiynau o hyd” am brosesau’r sianel mewn perthynas â’r adroddiad annibynnol arweiniodd at ddiswyddo Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams, ac ynghylch gallu S4C i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Ond maen nhw’n cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd o “dawelwch llwyr” ar y mater.

Maen nhw’n gofyn i Lucy Frazer i ystyried cynnal ymchwiliad neu adolygiad brys o’r sefyllfa, ac i gadw llygad barcud ar yr hyn sy’n digwydd.

Mae hithau’n dweud bod y Llywodraeth yn cymryd y sefyllfa “o ddifri”, a’u bod nhw’n “poeni” am gasgliadau’r adroddiad annibynnol.

Dywed fod rhaid i gadeirydd ac aelodau anweithredol o Fwrdd S4C “ddangos a chydymffurfio â’r safonau uchel sy’n ddisgwyliedig”.

‘Dylai darlledu Cymraeg fod yn atebol i bobol Cymru’

“Dylai darlledu Cymraeg fod yn atebol i bobol Cymru,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Mae’n bryd i Lafur yn San Steffan ymrwymo i fabwysiadu polisi Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru o ddatganoli darlledu i Gymru.

“Ni fydd ymyrraeth gan Lywodraeth y DU ar ei phen ei hun yn datrys problemau yn S4C.

“Cred Plaid Cymru y dylai penodiadau i fwrdd S4C a throsolwg ohono orwedd gyda’r Senedd, sy’n rhedeg polisïau iaith a diwylliant Cymraeg, tra’n cadw ei hannibyniaeth.

“Ni ddylem ganiatáu i faterion diweddar danseilio annibyniaeth S4C fel darlledwr.”