Yr wythnos yma, bu farw un o sêr y byd darlledu yng Nghymru, Vaughan Hughes. Dechreuodd ei yrfa yn ohebydd newyddion ar raglen Y Dydd gyda HTV yn niwedd y 1960au, a bu’n cyflwyno rhai o raglenni materion cyfoes mwyaf poblogaidd S4C yn y 1980au, gan gynnwys Y Byd Yn Ei Le a’r rhaglen sgwrsio O Vaughan i Fynwy. Roedd yn gyd-sefydlydd cwmni Ffilmiau’r Bont, yn sgriptio ac yn cynhyrchu rhaglenni, ac ers 2009 bu’n cyd-olygu’r cylchgrawn Barn, ac roedd yn adolygydd llyfrau poblogaidd.

Yn 2014, bu’n sgwrsio gyda chylchgrawn Golwg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli am ei gyfrol Cymru Fawr: Pan oedd Gwlad Fach yn Arwain y Byd. Roedd y llyfr yn trafod grym cyfnod y diwydiannau trymion yng Nghymru, gyda llawer o’r ymchwil yn seiliedig ar y cyfresi teledu ar hanes Cymru gynhyrchodd e dros gyfnod o ddeng mlynedd gyda Ffilmiau’r Bont. Dyma flas ar yr erthygl honno…


Pe bae’r Cymry yn gwybod rhagor am flaengarwch eu cyndeidiau adeg y Chwyldro Diwydiannol, fe fydden ni yn genedl hyderus, gryfach.

Dyna farn yr awdur a’r gwleidydd o Fôn, Vaughan Hughes, sydd wedi cyhoeddi cyfrol am lewyrch diwydiannol Cymru’r oes fodern. Dyma â’n gwnaeth yn genedl, yn ôl yr awdur, a heblaw’r llewyrch yma, dim ond “talaith” neu Western Britain fyddai Cymru wedi bod.

Mae Cymru Fawr yn dathlu dylanwad a grym pellgyrhaeddol y diwydiant glo a’r chwareli, ynghyd â phrysurdeb y diwydiannau copr, aur, arian, manganîs a gwlân.

“Dw i’n gwirioneddol gasáu clywed pobol yn sôn, naill ai’n sentimental neu’n nawddoglyd – neu’r ddau – am ‘Gymru Fach’,” meddai Vaughan Hughes. “Neu yn Saesneg, gallant little Wales. Y collwyr tragwyddol, fel pe baen ni wedi’n tynghedu fel mewn drama Groeg, yn tynghedu i fethu.

“D’yn ni heb ddysgu’n hanes. Tasan ni’n gwybod pa mor flaengar oeddan ni, siawns na fyddai hynny wedi effeithio ar ein hunan-hyder ni ac ar y psyche cenedlaethol hefyd. Un o’r pethau gwaetha’ fedrwch chi ei wneud efo unrhyw genedl ydi eu hamddifadu nhw o’u hanes. Mi gawson ni ein hamddifadu o’u hanes – hanes Prydain gawson ni.”

Mae yn llawn ffeithiau i gynnal ei ddadl – fel taw yn y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd yr arwyddwyd y siec gyntaf erioed yng ngwledydd Prydain am filiwn o bunnau, nid yn Llundain. Dywed bod mwyafrif y Cymry yn ennill bywoliaeth yn gweithio mewn diwydiant pan oedd mwyafrif y Saeson yn dal i drin y tir.

“Mi rydan ni yn gwybod am y chwareli ac mi ydan ni’n gwybod am y pyllau glo, ond dydan ni ddim yn gwybod am ddim byd arall,” meddai’r awdur, sy’n gynghorydd Plaid Cymru ym Môn. “Dydan ni ddim yn gwybod am y bwrlwm o weithgarwch diwydiannol oedd yna yng Nghymru. Pe taswn ni’n gwybod hynny, dw i’n meddwl y buasa’n hagwedd ni wedi bod yn wahanol. Mi fuasa’ gynnon ni fwy o hyder a mwy o ffydd ynon ni’n hunain.”

‘Entrepreneurs mwya’ Prydain’

Mae hi’n anodd peidio â chael eich perswadio ganddo wrth wrando arno yn sgwrsio mor huawdl ac afieithus am y pwnc. “Caerdydd oedd yn gosod pris glo drwy’r byd i gyd,” meddai. “Yn union fel mae OPEC yn gosod pris olew trwy’r byd, rhaid i ni gofio mai glo, tan ychydig flynyddoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, oedd y tanwydd oedd yn gyrru llyngesau’r byd. Mi oedd glo yr adeg honno mor bwysig bob tamed ag ydi olew heddiw – dydyn ni ddim yn sylweddoli hynny. Ni oedd OPEC y cyfnod. Cymru oedd yn gosod pris yr aur du yma drwy’r byd.”

Ar y pen arall, meddai, roedd gwaith copr Mynydd Parys. “Fan’no ’roedd pris copr drwy’r byd yn cael ei osod, o Fôn i Forgannwg yn llythrennol. Mae sôn bod Nelson wedi ennill yn Trafalgar am fod ei longau o wedi gallu troi yn gyflymach na llongau pobol eraill, oherwydd bod copr yn cael ei roi ar waelodion pren.

“Y dyn gafodd y syniad o roi copr ar waelodion llongau oedd Thomas Williams, ‘Twm Chwara’ Teg’ o Sir Fôn – un o’r entrepreneurs mwya’ welodd Prydain yn sicr.”

Yn fwy na hyn, fe ddefnyddiwyd “arian a golud y glo” i ariannu sefydliadau cenedlaethol fel Prifysgol Cymru, ac Amgueddfa a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddechrau’r ganrif ddiwetha’.

“Heb sefydliadau efallai mai dim ond gorllewin Prydain fuasem ni wedi bod; talaith,” meddai. “Western Britain. Ond mi oeddan ni’n genedl. Building-blocks cenedl oedd y sefydliadau yma.”

‘Fe greodd y Chwyldro Diwydiannol genedl’

Arwyr Cymreig a gafodd eu rhoi ar bedestal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd yn nechrau’r 20fed ganrif, yn ôl Vaughan Hughes, nid arwyr Prydeinig.

“Mae Williams Pantycelyn yna, mae Esgob William Morgan yna, mae Dafydd ap Gwilym yna. Llywelyn ein Llyw Olaf, Owain Glyndŵr… arwyr Cymru,” meddai. “Ydi, mae General Picton, Caerfyrddin o Waterloo yna, ond at ei gilydd… roeddan nhw’n dweud rhywbeth mai balchder cenedlaethol Cymreig oedd yn cael ei fynegi yn fan’na, a Chymraeg. Fe greodd y Chwyldro Diwydiannol genedl. Dw i’n sicr o hynny.”

Un o’r pethau eraill yr oedd yn ceisio’i wneud yn y llyfr oedd “dad-fytholegu”, meddai.

“Mae pobol yn tueddu i feddwl, ar wahân i chwareli yn y gogledd a’r pyllau yn y de, mae dim ond tyddynnod a mân ffermydd oedd yna. Lol botas maip!” meddai. “Roedd yna 10,000 o siafftiau plwm yn Sir Aberteifi yn unig! Roeddan ni’n cloddio am aur yn Nolgellau, yr unig fwynfeydd aur gwerth sôn amdanyn nhw ar Ynys Prydain. Roedd manganîs hyd yn oed yn cael ei ddefnyddio i galedu dur i wneud arfau adeg y Rhyfel ar Fynydd Nefyn ym Mhen Llŷn. Roedden ni ar flaen y gad.”

Mae gennym ni “gylch dieflig” o ran dysgu hanes Cymru i’n plant, yn ôl Vaughan Hughes. “Gan nad ydi athrawon at ei gilydd wedi cael eu dysgu yn hanes Cymru, tydan nhw ddim yn teimlo’n hyderus i drosglwyddo hynny i’r plant.”

‘Rydan ni’n negyddol ofnadwy tuag at waith’

Mae’r awdur yn tristháu bod gwladgarwyr Cymreig a chefnogwyr “selog” y Gymraeg yn tueddu i ofni pob datblygiad gwaith gan ei weld yn fygythiad i’r Gymraeg.

‘Yn Cymru Fawr ceisiaf ddadlau yn erbyn agweddau negyddol tuag at gyflogaeth,’ meddai yn y llyfr, ar ôl dweud bod pryderon am fewnfudwyr yn sgil atomfa niwclear Wylfa Newydd ym Môn yn ‘anghysurus o debyg i wasg y dde eithaf’.

“Mae hi mor drist bod yna gynifer o Gymry yn pryderu ac yn mynegi negyddiaeth bob tro mae yna unrhyw fath o gynllun gwaith yn cael ei gynnig,” meddai. “Rydan ni’n negyddol ofnadwy tuag at waith. Heb waith, does yna ddim iaith. Mae’r geiriau yn gwneud mwy nag odli yn y Gymraeg.”

  • Vaughan Hughes, newyddiadurwr, cyflwynydd, cynhyrchydd a chynghorydd (Tachwedd 16, 1947 – Ionawr 2024). Mae Cymru Fawr: Pan oedd Gwlad Fach yn Arwain y Byd mewn print, ac ar gael drwy Wasg Carreg Gwalch