Mae Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys wedi ymateb i gais gan golwg360 am sylw ar ôl i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ddweud bod angen gwrando ar anghenion cymunedau pan ddaw i faterion diogelwch.

Bu Jane Dodds yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Comisiynwyr Heddlu Cymru’n ymgysylltu’n briodol â chymunedau lleol pan ddaw i’w pryderon diogelwch.

Roedd ymgyrchu dros ddatganoli plismona yn rhan o faniffesto’r blaid yn 2021.

“Mae toriadau i wasanaethau a thynnu cyllid mae mawr ei angen wedi effeithio ar wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys ein heddluoedd,” meddai.

“Mae’n bosibl y gallai ailflaenoriaethu cyllid arfaethedig i ffwrdd o Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu [PCSOs] yn y gyllideb ddrafft anfon neges i gymunedau lleol ledled Cymru nad yw eu diogelwch yn flaenoriaeth.”

Cynlluniau “heb weld golau dydd”

Dywed Jane Dodds ei bod hi wedi cynnal cyfarfod cymunedol gyda’r Cynghorydd Mair Benjamin, Heddlu Dyfed Powys a Chomisiynydd yr Heddlu yn Ebrill 2022 er mwyn trafod y posibilrwydd o sefydlu mentrau diogelwch cymunedol yn y dref.

“Symud ymlaen dwy flynedd, a dydy’r mentrau hyn ddim wedi gweld golau dydd o hyd,” meddai.

“A thra bod y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn honni eu bod nhw’n mynd ar drywydd y mater, mae’r Cynghorydd Benjamin wedi dweud wrtha i nad ydyn nhw eu hunain wedi derbyn unrhyw ddiweddariadau.

“Mae’r hyn ddylai fod wedi bod yn sgwrs ddwy ffordd ystyrlon a buddiol rhwng y gymuned leol a’i heddlu, yn hytrach, wedi mynd yn hen.”

Ychwanega fod angen canolbwyntio ar “gryfhau’r cwlwm” rhwng yr heddlu a’r cyhoedd mewn amseroedd o ansicrwydd yn hytrach na thorri’r cyswllt hwnnw.

Pryderon ynghylch torri cyllid

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi mynegi pryderon am gynigion yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru i dorri’r cyllid ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO).

Mae 600 o swyddogion yn cael eu hariannu ar draws y wlad ar hyn o bryd, yn dilyn cynnydd o fwy na £22m mewn cyllid yn 2021.

Mae’r swyddogion yn ddolen gyswllt bwysig rhwng yr heddlu a chymunedau.

Fodd bynnag, mae Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024 i 2025 yn cynnig toriad o £7.5m yn y gyllideb ar gyfer y swyddogion, o dros £22m i £15.5m, gan amlinellu’r angen i “bartneriaid plismona ail-lunio eu gweithlu”.

Cafodd effaith y toriad arfaethedig i gyllideb PCSO, a’i effaith bosibl ar droseddu a chydlyniant cymunedol ei godi yn y Senedd gan Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

“Does dim amheuaeth bod PCSOs yn chwarae rôl amhrisiadwy mewn cymunedau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn amlach na pheidio maent yn gweithredu fel llygaid a chlustiau pwysig o fewn ein cymunedau lleol,” meddai yn y Senedd.

“Er fy mod yn ymwybodol iawn o’r cyfyngiadau presennol ar y gyllideb, mae gennyf bryderon gwirioneddol y gallai’r toriad aruthrol hwn yng nghyllid PCSO esgeuluso’r berthynas agos rhwng cymunedau a’r heddlu a niweidio’u gallu i fynd i’r afael â throseddau.”

Mynegodd e bryderon hefyd am fwriad Llywodraeth Cymru i ddiddymu rhaglen ysgolion heddlu Cymru, sy’n darparu cymorth ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, diogelwch ar-lein a lles personol.

“Bydd y toriadau arfaethedig hyn i gyllideb PCSO a rhaglen ysgolion heddlu Cymru yn ergyd sylweddol – a bydd yn rhwystro’r ymdrechion cydlyniant rheng flaen rhwng cymunedau a’r heddlu wrth fynd i’r afael â throseddau a chodi ymwybyddiaeth o faterion dybryd megis camddefnyddio sylweddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol,” meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys.

“Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, byddaf yn ceisio sicrhau bod plismona yn y gymdogaeth yn parhau i gael ei ddiogelu er gwaethaf toriadau Llywodraeth Cymru a chamreoli’r Torïaid yn San Steffan, a lle bo’n bosibl bydd niferoedd PCSO yn cael eu cadw ar lefelau 2023.”

Ymateb y Prif Weinidog

“Rydyn ni yn gwerthfawrogi’r gwaith mae PCSOs yn ei wneud yma yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn y Senedd.

“Dyna pam wnaeth y Llywodraeth fuddsoddi mewn PCSOs ar adeg pan roedd y nifer o bobol oedd yn gweithio i’r heddlu wedi mynd i lawr ar ôl toriadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Ac rydyn ni wedi cefnogi’r rhaglen yn ein hysgolion ni hefyd.

“Ond rydyn ni wedi dod at y pwynt ble mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar y cyfrifoldebau sydd wedi cael eu datganoli i’r Senedd.”

Ymateb y Comisiynydd

Dywed Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, wrth golwg360 ei fod e “wedi ymrwymo i sicrhau bod cymunedau ardal Dyfed-Powys yn ddiogel i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr”.

Ychwanega ei fod yn ymgysylltu yn fisol ar lawr gwlad â grwpiau a chynrychiolwyr cymunedol er mwyn deall anghenion lleol.

Mae hyn yn cynnwys yn Aberystwyth, drwy ychwanegu camerâu mewn lleoliadau sydd wedi bod yn dioddef yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol dros y blynyddoedd diwethaf.

“Rydym hefyd yn y broses o osod seilwaith Teledu Cylch Cyfyng o’r newydd yn nhref Aberaeron er mwyn cefnogi gwaith yr Heddlu yn lleol yno, a sicrhau fod pobol yn teimlo’n ddiogel yn ein trefi,” meddai.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi cyllido nifer o fentrau cymunedol er mwyn ceisio ymyrryd ac atal troseddau yn lleol.

“Mae’r mentrau hyn yn cynnwys cynlluniau megis sesiynau pêl-droed a bocsio am ddim, PL Kicks a Boxwise, i bobol ifanc yn Aberystwyth, sydd â’r nod o adeiladu perthynas gadarnhaol rhwng pobol ifanc a’r Heddlu, ac i’w dargyfeirio rhag trosedd trwy eu hysbrydoli a dod â chymunedau ynghyd.”

Dywed ei fod e wedi cydweithio â Chyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion er mwyn dod â cherflun cenedlaethol yr Angel Gyllyll i Aberystwyth am gyfnod o fis.

“Roedd digwyddiadau ymgysylltu dyddiol yn cael eu cynnal fel rhan o ymweliad yr Angel, er mwyn rhannu negeseuon atal, gwrth-drais a gwrth-ymosod allweddol, trwy addysgu plant, pobol ifanc ac oedolion am yr effeithiau niweidiol y mae ymddygiad treisgar yn eu cael ar ein cymunedau,” meddai.

“Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda’n cymunedau yn rhagweithiol er mwyn sicrhau diogelwch.

“Rwy’n annog trigolion a chynrychiolwyr cymunedol i estyn allan at fy Swyddfa os hoffech drafod unrhyw broblemau lleol penodol, a hefyd i ymgysylltu gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol Heddlu o fewn eich Timau Plismona Cymunedol lleol.”