Gallai hen gartref nyrsio ym Mae Colwyn gael ei droi’n 23 o fflatiau fforddiadwy.

Mae Tai Wales & West wedi cyflwyno cais i adran gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i geisio caniatâd i ddatblygu hen Gartref Nyrsio Guy’s Cliff ar Ffordd Conwy.

Fe wnaeth cyn-berchennog y cartref nyrsio ymddeol a gwerthu’r adeilad cyn y Nadolig 2022.

Bydd y cynlluniau’n cynnwys mynediad ar droed a pharcio, ond fydd e ddim yn creu swyddi yn y dref.

Datganiad treftadaeth

Eglura datganiad treftadaeth gafodd ei ddarparu fel rhan o’r cais fod hen adeilad y cartref nyrsio’n gyfuniad o ddau gartref gwahanol.

Ychwanega’r datganiad nad oes gan yr adeiladau gydnabyddiaeth na gwarchodaeth o ran treftadaeth, a dydyn nhw ddim wedi’u rhestru nac o fewn ardal gadwraeth.

“Yn unigol, does gan yr adeiladau ddim rhinweddau treftadaeth arbennig, a hwythau’n enghreifftiau nodweddiadol o adeiladau dechrau’r ugeinfed ganrif, wedi’u glastwreiddio gan ymyrraeth fodern sydd i’w cael mewn trefi a dinasoedd ledled y Deyrnas Unedig,” meddai.

Awgryma’r datganiad treftadaeth y dylai’r dyluniad newydd gyd-fynd â’r ardal.

“Yn nhermau amgylchedd adeiledig cyffredinol, fodd bynnag, gall fod rhywfaint o werth yn sut mae’r raddfa’n datblygu a sut mae ymddangosiad cyffredinol Guy’s Cliffs yn cyd-fynd ac yn atgyfnerthu cymeriad y gymdogaeth,” meddai.

Mae Conwy’n wynebu argyfwng tai ar hyn o bryd, gyda’r Cyngor hyd yn oed yn codi gwaharddiad cyffredinol ar fflatiau un ystafell (bedsit) mewn ymgais i ateb y galw am gartrefi.

Dywed cynghorwyr fod angen mawr am dai fforddiadwy ledled y sir er mwyn ateb galw cynyddol, ac er mwyn helpu i ddatrys problemau digartrefedd.