Dydy’r Fformiwla Barnett “hen ffasiwn” ddim yn adlewyrchu gwir anghenion economaidd Cymru, yn ôl cyn-ddarlithydd Economeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Er hynny, dydy Dr John Ball ddim yn hyderus mai dyfeisio fformiwla newydd yw’r ateb chwaith.
Daw ei sylwadau wedi i Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, alw am Fil Tegwch Economaidd i Gymru i ddisodli Fformiwla Barnett, gan obeithio y byddai’r Bil yn rhoi terfyn ar “danariannu Cymru”.
Mae’r awgrym yn un o bump o gynigion yr arweinydd ar gyfer ffyniant economaidd a chymdeithasol i Gymru yn 2024.
Ymysg ei gynigion eraill mae:
- gosod targedau er mwyn sicrhau bod rhagolygon yn cael eu cyrraedd
- caniatáu i Gymru osod ei threthi ei hun
- sefydlu asiantaeth ddatblygu addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain
- cyflwyno deddfwriaeth sy’n sicrhau cyfran gyfartal o wariant cyhoeddus ledled Cymru.
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, dydy Fformiwla Barnett, gafodd ei ddyfeisio yn 1978, ddim yn ffordd effeithlon o ddyrannu cyllid erbyn hyn.
Hafaliad sy’n penderfynu faint o arian ddylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei ddyrannu i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yw’r fformiwla, ond mae rhai yn pryderu nad yw’n arwain at gyllideb deg.
Senedd “erioed” wedi defnyddio pwerau datblygu economaidd
Mae Dr John Ball yn cytuno â’r sylwadau nad yw’r fformiwla bellach yn addas ar gyfer anghenion Cymru, ond dydy e ddim o reidrwydd yn credu mai dyfeisio fformiwla newydd yw’r ffordd ymlaen.
“Yn amlwg, mae Fformiwla Barnett yn hen ffasiwn, a dydy ei pharamedrau ddim yn debyg i wir anghenion economi Cymru,” meddai wrth golwg360.
“Fodd bynnag, dw i’n amheus a ddylai gael ei ddisodli gan fformiwla arall.
“Yr hyn sy’n fy mhryderu yw fod gan y Senedd bwerau datblygu economaidd eithaf clir ers cael ei sefydlu yn 1999, ond dydy’r pwerau hynny erioed wedi cael eu defnyddio.”
Ychwanega na fyddai dadleuon dros addasrwydd Fformiwla Barnett yn berthnasol pe bai economi Cymru’n iachach yn y lle cyntaf.
“Dydy hi ddim yn economi iach, oherwydd dydy’r Senedd ddim yn defnyddio’r pwerau sydd ganddyn nhw,” meddai.
“Mae Fformiwla Barnett yn bendant yn anaddas i’r diben, ond pe bai fformiwla newydd yna byddai’n rhaid i hynny adlewyrchu anghenion Cymru, nid yn unig o ran lefelau tlodi ond hefyd o ran buddsoddiadau.”
Ychwanega fod cyflwr yr economi hefyd yn rhannol yn ganlyniad i gyfres o Weinidogion yr Economi sydd â sgiliau “amheus”, na “wnaeth fyth fynd i’r afael â’r angen i ailadeiladu’r economi Gymreig.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Er bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau rhai newidiadau pwysig i fformiwla Barnett yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw hynny’n ddigon i wneud yn iawn am fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i neilltuo digon o adnoddau i wasanaethau cyhoeddus dros y 13 blynedd diwethaf,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Byddai cyllideb Llywodraeth Cymru £3bn yn uwch yn 2024-25 pe bai wedi tyfu’n unol â’r economi ers 2010.
“Oherwydd y sioc chwyddiant ddiweddar, mae ein setliad y flwyddyn nesaf hefyd yn werth hyd at £1.3bn yn llai mewn termau real nag a ddisgwylid pan gafodd ei osod gyntaf yn 2021.
“Rydym yn parhau i alw am ddull newydd, sy’n seiliedig ar egwyddorion, ar gyfer trefniadau ariannu’r Deyrnas Unedig.
“I ategu hynny dylid cael system ariannu ar sail anghenion, y cytunwyd arni ar y cyd, sy’n gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig ac sy’n cael ei goruchwylio gan gorff annibynnol.
“Rydym yn credu hefyd fod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig adolygu a diwygio’r broses ar gyfer cytuno ar bwerau trethu datganoledig newydd.”