Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno deddf newydd er mwyn gwyrdroi euogfarnau dros 700 o is-bostfeistri gafwyd yn euog ar gam o dwyll yn dilyn helynt Horizon.
Byddan nhw hefyd yn derbyn iawndal o hyd at £75,000.
Roedd pryderon gan rai na fydden nhw ond yn cael pardwn, gyda Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, yn un o’r rhai oedd yn dadlau bod pardwn yn awgrymu eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth o’i le yn y lle cyntaf.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yw’r amserlen ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth.
Ers darlledu’r ddrama Mr Bates vs The Post Office yn ddiweddar, fe fu Llywodraeth y Deyrnas Unedig dan bwysau i weithredu.
Arweiniodd yr helynt yr wythnos hon at Paula Vennells, y cyn-Brif Weithredwr, yn dychwelyd ei CBE yn dilyn ymgyrch.
‘Camweinyddu cyfiawnder’
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Rishi Sunak fod yr helynt yn un o’r “achosion gwaethaf erioed o gamweinyddu cyfiawnder”.
Ychwanegodd fod yr helynt wedi dinistrio enw da’r is-bostfeistri a’u bywoliaeth “heb fod bai arnyn nhw o gwbl”, gan ychwanegu bod rhaid iddyn nhw gael “cyfiawnder ac iawndal”.
Dywedodd fod bron i £150m o iawndal eisoes wedi’i dalu i fwy na 2,500 o bobol ddioddefodd yn sgil yr helynt.
Galw am asesiad o’r effaith ar gymunedau
Mae Plaid Cymru bellach yn galw am asesiad o effaith yr helynt ar gymunedau, gan ddweud bod unigolion a chymunedau cyfan wedi dioddef wrth golli gwasanaethau hanfodol.
Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd y Blaid yn San Steffan, mae angen ystyried effaith yr helynt ar gymunedau gwledig yn benodol.
Dywed fod tystiolaeth gan unigolion yn awgrymu bod cyhuddo is-bostfeistri ar gam o dwyll ariannol, eu carcharu a’u gwneud yn fethdal wedi golygu bod pobol wedi bod yn gyndyn o fynd i weithio i Swyddfa’r Post mewn cymunedau gwledig.
Mae hi wedi tynnu sylw’n benodol at achos Noel Thomas o Ynys Môn, gafodd ei garcharu yn dilyn yr helynt.
Mae Kevin Hollinrake, Gweinidog y Post yn San Steffan, wedi ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd iddo fe.
“Mae ymgais 16 mlynedd Noel Thomas, cyn-Gynghorydd Plaid Cymru, wedi cael canlyniadau enfawr iddo fo a’i deulu,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mi wynebodd o ei garcharu, mynd yn fethdal, a cholli ei gartref.
“Mae’n disgrifio’r naw mis dreuliodd o dan glo fel ‘uffern ar y ddaear’.
“Mae hanes Noel wedi cael canlyniadau eang drwy ogledd-orllewin Cymru.
“Dw i’n gwybod rŵan am bobol sydd ddim am weithio ar gownteri Swyddfa’r Post.
“Mae hyn wedi golygu bod cymunedau sydd wedi colli Swyddfa’r Post.
“Nid dim ond unigolion sydd wedi diodde’r boen hon, ond mae cymunedau wedi colli gwasanaethau hanfodol hefyd.”
Gofynnodd pa asesiad effaith sydd wedi’i gynnal gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’r sgandal, yn enwedig ar gymunedau, a chymunedau gwledig.
Ymddiheurodd Kevin Hollinrake, gan ddweud bod Swyddfa’r Post “wedi colli ei henw da”, a bod gwneud Swyddfa’r Post yn “ddichonadwy yn ariannol” yn allweddol er mwyn sicrhau “darpariaeth addas”.