Mae S4C yn “symud ymlaen” ar ôl “problem ddifrifol”, yn ôl Rhodri Williams, cadeirydd Bwrdd y sianel.
Aeth gerbron pwyllgor seneddol yn San Steffan heddiw (dydd Mercher, Ionawr 10) i roi tystiolaeth am yr helynt arweiniodd at ddiswyddo’r Prif Weithredwr Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams, y Prif Swyddog Cynnwys.
Dywedodd iddo fethu â sicrhau diwylliant cynhwysol o fewn y sianel, a hynny’n un o’i amcanion pan gafodd ei ethol yn gadeirydd yn 2020.
Ychwanegodd fod “pob penderfyniad pwysig” gafodd ei wneud yn dilynt adroddiad Capital Law ynghylch diwylliant S4C wedi cael eu gwneud yn “unfrydol”, gan wadu mai fe oedd wedi gwneud y penderfyniadau allweddol, gan gynnwys y penderfyniad i ddiswyddo Siân Doyle.
Dywedodd hefyd nad yw e wedi cyfarfod â Lucy Frazer, Ysgrifennydd Diwylliant y Deyrnas Unedig, ers iddi gael ei phenodi i’r swydd fis Chwefror diwethaf.
Wrth iddo yntau roi tystiolaeth, dywedodd yr aelod anweithredol Chris Jones ei fod yn fodlon â’r modd y cafodd Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams eu diswyddo, er bod y ddwy yn honni adeg cyhoeddi adroddiad Capital Law nad oedden nhw wedi gweld y ddogfen cyn iddi gael ei chyhoeddi.
Fe wnaeth Rhodri Williams wadu awgrym Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, y gellid fod wedi oedi cyn cyhoeddi’r adroddiad er mwyn i’r ddwy weld ei gynnwys, a hynny am nad oedd y naill na’r llall bellach yn gweithio i’r sianel erbyn i’r adroddiad weld golau dydd.
Mae Rhodri Williams hefyd wedi awgrymu ei fod yn barod i barhau’n gadeirydd, ac mai’r flaenoriaeth erbyn hyn yw ailadeiladu ar gyfer y dyfodol ar ôl i ddiwylliant S4C newid er gwell yn ddiweddar.