Bydd cadeirydd S4C yn mynd gerbron pwyllgor seneddol yn San Steffan yr wythnos nesaf, ar ôl i adroddiad ar amgylchedd gwaith y sianel gael ei gyhoeddi.
Bydd Rhodri Williams a Chris Jones, Aelod Anweithredol o Fwrdd S4C, yn rhan o wrandawiad atebolrwydd y Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Mawrth (Rhagfyr 12) “i archwilio trefniadau llywodraethiant y sefydliad a gweithrediad ei fwrdd unedol”.
Daw hyn ar ôl i adroddiad ganfod fod rhai wnaeth rhannu eu profiadau gydag ymchwiliad i ddiwylliant S4C ddisgrifio arweinyddiaeth Siân Doyle, y cyn-Brif Weithredwr sydd wedi’i diswyddo, fel “unbenaethol yn creu diwylliant o ofn”.
Daeth adroddiad y cwmni Capital Law yn dilyn “pryderon difrifol” gan undeb BECTU fis Ebrill eleni.
Mae’r adroddiad yn nodi bod 92 o wirfoddolwyr wedi cyfrannu at y broses o gasglu profiadau – 46 ohonyn nhw’n gweithio i S4C nawr a 14 yn gyn-weithwyr, a bod 29 wedi rhoi esiamplau honedig o “ymddygiad drwg” gan Siân Doyle.
Rhwng y 29, derbyniodd Capital Law 101 o enghreifftiau’n ymwneud ag ymddygiad drwg, ac fe wnaethon nhw dderbyn pymtheg enghraifft gan eraill yn tystio i ymddygiad da honedig.
Mae’r adroddiad hefyd yn ymdrin â honiadau ynglŷn ag ymddygiad Llinos Griffin Williams, cyn-Brif Swyddog Cynnwys S4C, gafodd ei diswyddo ar ôl cael ei chyhuddo o “gamymddwyn difrifol” wedi digwyddiad mewn bar yn Naoned (Nantes) yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd.
Mae’r adroddiad yn nodi nad oes tystiolaeth ddogfennol i brofi nifer o’r enghreifftiau, na thystiolaeth gan fwy nag un tyst, ond fod yna “thema amlwg”.
Ynghyd â hynny, mae’r adroddiad yn ymdrin â rhai cwynion sydd wedi cael eu codi ynglŷn â Rhodri Williams, cadeirydd S4C, a honiadau gan rai unigolion ei fod wedi cynyddu’r pwysau arnyn nhw drwy effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd gwaith yn S4C.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Siân Doyle alw am ymchwilio i weithredoedd Rhodri Williams cyn iddo gael ei benodi am dymor arall yn y rôl.
S4C wedi ymddiheuro
Wrth ymateb i’r adroddiad, mae Awdurdod S4C wedi “ymddiheuro’n ddiffuant” i’r rhai sydd wedi dioddef “ymddygiad annerbyniol” yn y gweithle.
“Roedd y cyfranogwyr yn cydnabod bod angen newid yn S4C a bod y Tîm Rheoli yn awyddus i gyflawni gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol y sianel,” meddai’r datganiad.
“Ymddengys, fodd bynnag, fod y ffordd y cafodd hyn ei rannu gan rai gyda staff a’r dull o reoli newid ar draws y sefydliad yn ansensitif.
“Roedd hyn yn aml yn arwain at wrthdaro ac ansicrwydd yn hytrach na chreadigrwydd a thrawsnewid cadarnhaol, cynhwysol.
“Mae’n amlwg bod llawer o staff S4C wedi bod yn anhapus yn y gwaith ac nad oedd yn ymddangos bod gan ein sefydliad arferion gwaith priodol ar waith i allu ymdrin yn agored ac yn briodol â phryderon staff.
“Rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn BECTU ar ran aelodau staff, a ofynnodd i ni weithredu unwaith yr oedd yn amlwg na chyflawnwyd cynnydd digonol yn uniongyrchol gydag uwch reolwyr. Edrychwn ymlaen at drafodaethau parhaus gyda chydweithwyr am y cymorth sydd ei angen yn y gweithle.
“Mae Awdurdod S4C wedi ymrwymo i sicrhau bod S4C yn fan lle mae ein cydweithwyr yn hapus ac yn ddiogel – lle maen nhw’n teimlo y gallant berfformio ar eu gorau a ffynnu. Rydym yn cydnabod bod angen gwaith sylweddol i roi ffyrdd newydd o weithio ar waith a fydd yn caniatáu i S4C adeiladu dyfodol cadarnhaol gyda gweithlu creadigol a chefnogol.
“I wneud hynny, mae angen i ni adfer hyder ac ymddiriedaeth ymhlith ein staff, sydd â rhan mor allweddol i’w chwarae yn llwyddiant y sefydliad yn y dyfodol. Yn hanfodol i’r llwyddiant hwnnw mae arweinyddiaeth sy’n canolbwyntio ar gydweithio a chyfathrebu.
“Fel Awdurdod, gwnaethom benderfynu y byddai hyn yn gofyn am arweinyddiaeth newydd yn S4C, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach cyn bo hir am y broses honno.”