Mae cyfranwyr wnaeth rannu eu profiad gydag ymchwiliad i ddiwylliant S4C wedi disgrifio arweinyddiaeth y cyn-Brif Weithredwr fel “unbenaethol yn creu diwylliant o ofn”.

Cafodd adroddiad Capital Law ar awyrgylch ac amgylchedd gwaith S4C ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 6), ar ôl i “bryderon difrifol” gael eu codi gan undeb BECTU fis Ebrill.

Mae’r adroddiad yn nodi bod 92 o wirfoddolwyr wedi cyfrannu at y broses o gasglu profiadau – 46 ohonyn nhw’n gweithio i S4C nawr a 14 yn gyn-weithwyr, a bod 29 wedi rhoi esiamplau honedig o “ymddygiad drwg” gan Siân Doyle, y cyn-Brif Weithredwr.

Rhwng y 29, derbyniodd Capital Law 101 o enghreifftiau’n ymwneud ag ymddygiad drwg, ac fe wnaethon nhw dderbyn 15 enghraifft gan eraill yn tystio i ymddygiad da honedig.

Mae’r adroddiad hefyd yn ymdrin â honiadau ynglŷn ag ymddygiad Llinos Griffin Williams, cyn-Brif Swyddog Cynnwys S4C, gafodd ei diswyddo ar ôl cael ei chyhuddo o “gamymddwyn difrifol” wedi digwyddiad mewn bar yn Naoned (Nantes) yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd.

Mae’r adroddiad yn nodi nad oes tystiolaeth ddogfennol i brofi nifer o’r enghreifftiau, na thystiolaeth gan fwy nag un tyst, ond fod yna “thema amlwg”.

‘Ymddwyn yn gamdriniol’

Fe wnaeth sawl un o’r cyfranwyr ddisgrifio sefyllfaoedd lle roedden nhw wedi gweld Siân Doyle yn ymddwyn yn gamdriniol wrth drafod staff S4C a’u gwaith.

Roedd yr esiamplau hynny’n cynnwys honiadau ei bod hi wedi gofyn “Pwy ff** ydy e/hi? Pwy sy’n gwylio’r rybish yma?” wrth gyfeirio at un rhaglen a’r cyflwynydd.

Yn ôl un cyfrannwr, mewn sgwrs am gydweithiwr fe ddywedodd Siân Doyle, “Mae hi’n ffy*** gone, dydy hi ddim yn dangos dim parch. Ga i wared arni hi fel yna.”

Dywedodd eraill fod y Prif Weithredwr yn eu hanwybyddu nhw yn y gwaith, a bod eraill yn teimlo bod rhaid iddyn nhw wneud beth oedd hi’n ei ddweud, boed nhw’n cytuno ai peidio.

‘Meicro-reoli’

O ran yr honiadau yn erbyn Llinos Griffin Williams, roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ymwneud â sut roedd hi’n ymdrin â chomisiynwyr S4C.

Fe wnaeth pum comisiynydd sôn am eu rhwystredigaeth fod penderfyniadau a chyfrifoldebau wedi cael eu cymryd oddi arnyn nhw, a’u canoli yn nwylo Llinos Griffin Williams, oedd yn eu tyb nhw yn meicro-reoli ac yn methu gwneud penderfyniadau amserol.

Roedd sôn hefyd fod cyfarfodydd yn cael eu gohirio’n gyson a bod diffyg cyfathrebu ynglŷn â phenderfyniadau pwysig.

Effaith ar staff

Wrth roi tystiolaeth i’r ymchwiliad, fe wnaeth deg o gyfranwyr ddechrau crïo, yn bennaf wrth drafod eu profiadau’n gweithio yn S4C.

Fe wnaeth unarddeg sôn am yr effaith negyddol roedden nhw’n teimlo gafodd yr amgylchedd gwaith ar eu hiechyd.

“Fe wnes i adael oherwydd doedden i ddim yn teimlo, am ba bynnag reswm, bod gen i ddewis ond gadael yr hyn oedd yn achosi’r sefyllfa,” meddai un.

“Roedd y Prif Weithredwr wedi rhoi fi mewn sefyllfa gas iawn, a sawl aelod arall o staff hefyd, oeddwn i’n ymwybodol ohonyn nhw.

“Ond roedd fy ffrindiau a fy nheulu’n poeni lot am fy iechyd meddwl ar y pryd.

“Roeddwn i’n crïo’n aml. Doeddwn i methu cysgu.

“Roedd yr awyrgylch yn y gwaith yn ystod yr ychydig fisoedd olaf o’m cyflogaeth gyda S4C yn anodd iawn, a doeddwn i ddim yn teimlo fel bod gen i ddewis ond gadael.”

‘Digwyddiad iechyd difrifol’

Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ddiwrnod staff ym mis Chwefror eleni, pan wnaeth gweithiwr ddioddef “digwyddiad iechyd difrifol”.

Cododd y digwyddiad gan ddeunaw o gyfranwyr, ac roedd pump ohonyn nhw yno ar y pryd.

Yn ôl y gweithiwr aeth yn sâl, bu trafod rhwng y Prif Weithredwr ac uwch aelodau eraill o’r staff am y newidiadau oedd eu hangen yn S4C, oedd yn cynnwys newid staff “nad oedd werth poeni amdanyn nhw”.

Yn ôl y gweithiwr, fe wnaeth Siân Doyle awgrymu nad oedd gan lot o’r staff y sgiliau a’r wybodaeth i gyfiawnhau eu bod nhw yn eu swyddi, a disgrifiodd o bosib colli “o leiaf 50 ohonyn nhw”.

Dywedodd y tyst ei bod hi wedi herio hyn, ei bod hi’n gofidio’n fawr, a’i bod hi’n credu bod y sefyllfa wedi cyfrannu at waethygu ei hiechyd y diwrnod hwnnw – digwyddiad y bu’n rhaid iddi dderbyn triniaeth ato yn yr ysbyty.

Ynghyd â hynny, mae’r adroddiad yn ymdrin â rhai cwynion sydd wedi cael eu codi ynglŷn â Rhodri Williams, cadeirydd S4C, a honiadau gan rai unigolion ei fod wedi cynyddu’r pwysau arnyn nhw drwy effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd gwaith yn S4C.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Siân Doyle alw am ymchwilio i weithredoedd Rhodri Williams cyn iddo gael ei benodi am dymor arall yn y rôl.

‘Ymddiheuro’n ddiffuant’

Wrth ymateb i’r adroddiad, mae Awdurdod S4C wedi “ymddiheuro’n ddiffuant” i’r rhai sydd wedi dioddef “ymddygiad annerbyniol” yn y gweithle.

“Roedd y cyfranogwyr yn cydnabod bod angen newid yn S4C a bod y Tîm Rheoli yn awyddus i gyflawni gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol y sianel,” meddai’r datganiad.

“Ymddengys, fodd bynnag, fod y ffordd y cafodd hyn ei rannu gan rai gyda staff a’r dull o reoli newid ar draws y sefydliad yn ansensitif.

“Roedd hyn yn aml yn arwain at wrthdaro ac ansicrwydd yn hytrach na chreadigrwydd a thrawsnewid cadarnhaol, cynhwysol.

“Mae’n amlwg bod llawer o staff S4C wedi bod yn anhapus yn y gwaith ac nad oedd yn ymddangos bod gan ein sefydliad arferion gwaith priodol ar waith i allu ymdrin yn agored ac yn briodol â phryderon staff.

“Rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn BECTU ar ran aelodau staff, a ofynnodd i ni weithredu unwaith yr oedd yn amlwg na chyflawnwyd cynnydd digonol yn uniongyrchol gydag uwch reolwyr. Edrychwn ymlaen at drafodaethau parhaus gyda chydweithwyr am y cymorth sydd ei angen yn y gweithle.

“Mae Awdurdod S4C wedi ymrwymo i sicrhau bod S4C yn fan lle mae ein cydweithwyr yn hapus ac yn ddiogel – lle maen nhw’n teimlo y gallant berfformio ar eu gorau a ffynnu. Rydym yn cydnabod bod angen gwaith sylweddol i roi ffyrdd newydd o weithio ar waith a fydd yn caniatáu i S4C adeiladu dyfodol cadarnhaol gyda gweithlu creadigol a chefnogol.

“I wneud hynny, mae angen i ni adfer hyder ac ymddiriedaeth ymhlith ein staff, sydd â rhan mor allweddol i’w chwarae yn llwyddiant y sefydliad yn y dyfodol. Yn hanfodol i’r llwyddiant hwnnw mae arweinyddiaeth sy’n canolbwyntio ar gydweithio a chyfathrebu.

“Fel Awdurdod, gwnaethom benderfynu y byddai hyn yn gofyn am arweinyddiaeth newydd yn S4C, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach cyn bo hir am y broses honno.

“Mae llawer o waith i’w wneud i fynd i’r afael yn llawn â’r holl faterion a godwyd gan y dystiolaeth a dderbyniwyd.

“Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr, gan gynnwys y Timau Rheoli a Thrawsnewid a’r Fforwm Staff a sefydlwyd yn ddiweddar, i annog trafodaeth agored a rhannu syniadau ar ffyrdd gwell o weithio.

“Mae’r tîm arweinyddiaeth dros dro eisoes wedi gwneud newidiadau cadarnhaol i alluogi cyfathrebu gwell a mwy agored o fewn y sefydliad ac rydym yn ddiolchgar iddynt am eu gwaith ar yr adeg hon.

“Byddant yn parhau i sicrhau bod gennym gefnogaeth mewn lle i staff dros yr wythnosau nesaf.

“Rydym wedi bod yn sensitif i wrthdaro buddiannau posibl ar gyfer y Cadeirydd.

“Adolygwyd y materion hyn gan Aelodau’r Awdurdod, yn annibynnol ar y Cadeirydd, a gwnaethom ymdrin â hwy yn unol â hynny.

“Cytunwyd nad oeddent yn teilyngu unrhyw gamau pellach ac na fyddent yn atal y Cadeirydd rhag cymryd rhan yn yr adolygiad parhaus. Mae pob penderfyniad sy’n deillio o’r broses hon wedi bod yn unfrydol.

“Rydym wedi ymdrechu i roi lles staff S4C wrth galon ein penderfyniadau drwy gydol y broses hon. Mae wedi bod yn fater cymhleth ac anodd ei lywio gyda phenderfyniadau anodd yn seiliedig ar faterion cyfreithiol cymhleth.

“Cymerwyd gofal i gyfyngu ar ddatganiadau cyhoeddus a allai arwain at wrthdaro pellach, a bydd angen inni barhau i ystyried yn ofalus pa wybodaeth y gellir ei rhannu wrth ymateb i gwestiynau pellach.

“Byddwn, wrth gwrs, yn darparu cymaint o wybodaeth â phosibl am y broses fel rhan o graffu parhaus Awdurdod S4C. Rydym wedi rhannu’r adroddiad hwn ag Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at graffu seneddol maes o law.

“Yn y cyfamser, hoffem ddiolch i’n cydweithwyr a’n partneriaid am eu cefnogaeth barhaus i S4C. Edrychwn ymlaen at barhau i chwarae rhan hanfodol wrth gomisiynu cynnwys arloesol, hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant a thyfu cynulleidfaoedd ar gyfer cynnwys sydd wedi’i wneud yng Nghymru.”

‘Ailadeiladu ffydd ac ymddiriedaeth’

Mae Gwyn Williams, cyn-Gyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol S4C, wedi ymateb i’r adroddiad sydd, meddai, “yn rhoi’r cyfle i bobol weld yr hyn mae staff, a chyn-staff S4C, wedi gorfod dioddef dros y deunaw mis diwethaf” a hynny “er bod yr adroddiad ei hun yn nodi bod yr angen am gyfrinachedd wedi golygu bod llawer o’r dystiolaeth wedi’i distyllu a’i aralleirio”.

“Ar ôl chwe mis o ymchwiliad poenus mae’n amser i’r sianel nawr ddechrau ailadeiladu ffydd ac ymddiriedaeth; ymysg staff, y sector gynhyrchu, partneriaid, rhanddeiliaid a gwylwyr,” meddai.

“I ddechrau ar hynny, mae’n rhaid i’r Cadeirydd a’r Bwrdd ystyried beth allen nhw fod wedi gwneud i osgoi’r fath llanastr, sut allen nhw fod wedi delio gyda’r sefyllfa’n gyflymach, a sut maen nhw am osgoi’r fath sefyllfa rhag codi eto.”

Dywed S4C na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach.

‘Ysgytwol’

Mae angen i adroddiad “ysgytwol” S4C fod yn “drobwynt”, yn ôl Heledd Fychan, llefarydd diwylliant Plaid Cymru, sy’n dweud bod pobol Cymru’n “haeddu sicrwydd” fod y sianel yn cymryd eu rôl unigryw fel darlledwr cyhoeddus o ddifri.

“Hoffwn ganmol staff S4C a siaradodd yn erbyn ymddygiad gwael o dan amgylchiadau eithriadol o anodd,” meddai.

“Mae S4C yn sefydliad cenedlaethol sy’n rhan annatod o’n diwylliant ac economi greadigol Cymru, ac rydym yn haeddu sicrwydd bod y sianel yn cymryd eu rôl unigryw fel darlledwr cyhoeddus o ddifri.

“Edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag S4C yn ystod craffu seneddol yn y Senedd ac yn San Steffan i geisio sicrwydd bod y camau priodol yn cael eu cymryd i adfer hyder yn ein sianel.”