Mae’r cylchgrawn Planet: The Welsh Internationalist wedi dweud eu bod yn “ystyried yr holl opsiynau” ar ôl colli eu grant gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Dywedodd Bwrdd Planet mewn datganiad ar eu gwefan y bydd rhagor o gyhoeddiadau yn cael eu gwneud maes o law.

Mae golygydd y cylchgrawn, Emily Trahair, yn dweud y bydd y rhifyn nesaf ym mis Chwefror yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer.

Cylchgrawn sy’n cael ei gyhoeddi bob chwarter yw Planet, sy’n ymdrin â’r celfyddydau, chwaraeon, diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt, o safbwynt Cymreig.

Cyhoeddiadau pellach maes o law

Sefydlwyd Planet fel cylchgrawn a gyhoeddwyd bob yn ail fis, gan Ned Thomas, a fu hefyd yn olygydd cyntaf y cylchgrawn, a chyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym mis Awst 1970.

Y Cyngor Llyfrau, yn hytrach na Chyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi ariannu’r cylchgrawn ers 2009.

Mewn neges ar eu gwefan, dywedodd cylchgrawn Planet: “Mae’r Cyngor Llyfrau wedi penderfynu peidio â pharhau gyda’i grant i Planet.

“Mae’r bwrdd yn ystyried ei opsiynau ar hyn o bryd.

“Bydd cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud maes o law a chyhoeddir rhifyn Chwefror o Planet yn ôl yr amserlen sydd wedi’i drefnu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Llyfrau Cymru nad ydyn nhw gallu gwneud sylwadau “ar broses sy’n dal i fynd rhagddi”.

‘Penderfyniad brawychus’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 5), dywedodd yr awdur a’r cyfrannwr i’r cylchgrawn, Mike Parker, fod y newyddion yn “syfrdanol”.

“Mae gan Planet bresenoldeb ac enw da sy’n mynd ymhell y tu hwnt i Gymru, ac mae e wedi ers i Ned Thomas ei sefydlu yn 1970,” meddai ar wefan X.

Ychwanegodd bod rhoi’r gorau i ariannu’r cylchgrawn “yn arwydd brawychus o flaenoriaethau a gwerthoedd y rhai sy’n gyfrifol am ein cenedl sy’n esblygu.”

“Penderfyniad brawychus,” ychwanegodd un arall ar X.

“Mae Planet yn gyhoeddiad gwych.

“Pob amser yn ddeniadol, yn ddiddorol, ac wedi’i llunio gydag ystyriaeth a chariad.

“Gobeithio y bydd rhywbeth yn cael ei wneud. Ymlaen.”

Mae’r wefan a’r ap sy’n hyrwyddo celfyddydau yng Nghymru, AM, wedi ymateb gan annog pobol i ddangos cefnogaeth drwy danysgrifio i’r cylchgrawn.

“Mae hon yn ergyd enfawr (ac anghredadwy) i ddiwylliant, sgwrs a democratiaeth Cymru.

“Tra bod Planet yn ystyried eu camau nesaf, gadewch i ni ddangos ein cefnogaeth trwy danysgrifio.”

‘Dirwyiad graddol a phoenus’

Yn gynharach eleni, cynigodd cyd-sylfaenydd a golygydd gweithredol Wales Arts Review, Gary Raymond, ateb i’r model ariannu ar gyfer cylchgronau Saesneg yng Nghymru, a gofynnodd i Gyngor Llyfrau Cymru ystyried dyfodol newydd i gylchgronau yng Nghymru.

Dywedodd bod dyfodol cylchgronau Saesneg yng Nghymru yn “llwm”.

“Mae’r cyllid sydd ar gael ar gyfer pob cylchgrawn Saesneg yn £180,000 y flwyddyn. (Aeth cylchgronau Cymraeg drwy’r broses hon y llynedd ac roedd ganddyn nhw bot cyfatebol o £379,164 – ie, rydych chi wedi darllen hynny’n gywir – os hoffech chi weld mwy o wybodaeth am sut mae’r Cyngor Llyfrau yn plymio’r arian rhwng ieithoedd, gallwch ddarllen mwy ar dudalen 29 o’u Cynllun Gweithredol 2022/23).

“Nid yw’r swm hwnnw ar gyfer cylchgronau Saesneg wedi newid mewn pum mlynedd, sy’n golygu bod toriad o 24% mewn termau real mewn arian ar gael oherwydd chwyddiant.

“Yr hyn y mae Cyngor Llyfrau Cymru yn ei gynnig yn ei fodel ariannu yw dirywiad graddol a phoenus cyfnodolion diwylliannol Saesneg Cymru.

“Mae hynny’n golygu bod angen rhywfaint o feddwl radical, pragmatig i wrthwynebu hyn.”

‘Proses dendro gystadleuol’

“Mae’r Grant Cyfnodolion Diwylliannol Saesneg yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol ac fe’i dyfernir fel cyllid newydd, annibynnol bob pedair blynedd yn dilyn proses dendro gystadleuol agored,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Llyfrau Cymru.

“Mae’r grantiau yn cael eu dyfarnu gan banel annibynnol yn dilyn proses o ymgeisio a chyfweld trylwyr.

“Cynhaliwyd y cyfweliadau ar gyfer masnachfraint 2024–28 ym mis Tachwedd.

“Mae’r ymgeiswyr wedi cael gwybod yn ysgrifenedig am benderfyniadau’r panel a disgwyliwn i’r broses ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn.

“Tan hynny, ni allwn wneud sylwadau ar broses sy’n dal i fynd rhagddi, nac ar gyhoeddiadau neu geisiadau unigol.”