Mae Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) wedi datgan y bydd Christopher Barron yn camu i swydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Do ym mis Ionawr.

Bydd yn olynu Aidan Lang, sy’n ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl pedair blynedd yn y swydd, ac ar ôl gyrfa o 40 mlynedd i gyd yn y byd opera.

Mae gan Christopher Barron brofiad helaeth o ran rheoli ac arwain.

Bu’n Rheolwr Cyffredinol Gŵyl Ryngwladol Caeredin ar ddechrau ei yrfa, ac yna cafodd nifer o swyddi arwyddocaol ym myd y celfyddydau, gan gynnwys Prif Weithredwr Birmingham Royal Ballet, Prif Weithredwr Scottish Opera a Scottish Ballet, a Chyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr Brighton Dome and Festival.

Bydd y cwmni yn chwilio am olynydd parhaol i Aidan Lang yn y flwyddyn newydd, gyda Christopher Barron yn aros yn y swydd yn ystod y broses recriwtio.

‘Wrth fy modd’

Dywed Christopher Barron ei fod wedi dilyn ac edmygu gwaith Opera Cenedlaethol Cymru ar hyd ei yrfa, byth ers iddo fod yn gwylio amryw o’u cynyrchiadau pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.

“Dw i wrth fy modd cael ymuno â’r tîm ar yr adeg bwysig hon i WNO,” meddai.

“Fy mhrif flaenoriaeth fydd gwarchod y Cwmni, cynllunio ei ddyfodol a pharhau i gyflawni rhagoriaeth artistig ym mhopeth a gyflwyna gan gynnwys y rhaglen eang yn y gymuned.”

Mae Yvette Vaughan-Jones, cadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru, wedi ei groesawu i’r swydd.

“Mae’n bleser gennyf groesawu Christopher i WNO ac yr wyf yn falch o’r profiad a ddaw i’r Cwmni drwy ei waith yn y sector ehangach ym Mhrydain ac yn rhyngwladol,” meddai.

“Mae’n gyfnod pwysig i ni a ninnau angen sicrhau ein bod yn parhau i gynnig bywiogrwydd artistig, sefydlogrwydd ariannol a chydraddoldeb cyfle ym mhob agwedd ar ein gwaith, ond yn anad dim, cynnal sefydlogrwydd o fewn y Cwmni.

“Bydd sgiliau a phrofiad helaeth Christopher yn ystod y cyfnod hwn yn rhoi’r sefydlogrwydd hwn i ni a’r gallu i ni sicrhau parhad ein gwaith, gan gynnig profiadau eithriadol ar y llwyfan yn ein cyngherddau a’n cynyrchiadau, a thrwy ein prosiectau a’n gwaith yn y cymunedau yr ydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Taith newydd

Bydd Opera Cenedlaethol Cymru ar daith yn y flwyddyn newydd, gyda ‘Dathliad Fiennaidd’ yn ymweld ag Abertawe, Cernyw, y Drenewydd, Bangor, Aberhonddu, Southampton, Caerdydd a Thyddewi rhwng Ionawr 4-20.

Yn ymuno â’r Arweinydd David Adams fydd dau Artist Cyswllt y cwmni, y fezzo-soprano Beca Davies o Gaerfyrddin a’r soprano Emily Christina Loftus o ogledd Lloegr.