Mi fydd pennod arbennig o gyfres coginio newydd Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd ymysg y wledd o raglenni sy’n ffurfio arlwy Nadolig S4C eleni.
Yn awdur coginio a chyflwynydd, mae’n briod ag Aaron Ramsey, capten tîm pêl-droed Cymru, ac mae ganddyn nhw dri o blant.
“I fi, does dim byd yn well dros y Nadolig na’r teulu i gyd yn dod draw a mwynhau bwyd arbennig yr Ŵyl rownd y bwrdd,” meddai.
“Rwy’n edrych mlaen at ddathlu gyda Aaron a’r teulu adre eleni, ac yn gyffrous am roi croeso i gynulleidfa S4C i’r gegin i weld hoff ryseitiau Nadoligaidd fel parseli feta a mêl, treiffl tiramisu ac wrth gwrs mins peis!
“Dewch draw ar Ragfyr 20 – wela’i chi yna!”
Carol yr Ŵyl, a mwy
Hefyd ar frig yr amserlen mae Carol yr Ŵyl 2023.
Bydd Mared Williams ac Elidyr Glyn yn cyfweld â chyfansoddwyr y deg carol wreiddiol sy’n cystadlu i ennill y teitl eleni, a chlywed y corau ysgolion cynradd fydd yn eu perfformio.
Yn codi’r galon fydd O’r Diwedd, rhaglen llawn sgetsys crafog, doniol a dychanol, gyda chymeriadau cryf, digri ac adloniannol wedi’i hysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn.
A daw’r gyfres ddrama swreal newydd Pren ar y Bryn i ben ar noswyl Nadolig, gyda phennod olaf ddramatig.
Ar Noson Nadolig, mi fydd cyfle i weld Wil ac Aeron yn gwireddu breuddwyd eu plentyndod i ddod yn gowbois ar un o ranches mwyaf yr Unol Daleithiau, yn Wil ac Aeron: Cowbois Tecsas.
A bydd rhai o enwogion Cymru, gan gynnwys yr actorion Richard Harrington, Rebecca Trehearn a Richard Elis a’r athletwraig Non Evans, yn galw yn y Gwesty Aduniad am y Nadolig.
Mi fydd dwy pennod arbennig o Noson Lawen dros yr Ŵyl; un yn dilyn hanes ‘Dolig Rownd a Rownd a’r llall yn cofio’r cerddor Alun ‘Sbardun’ Huws.
Mi fydd y gyfres reality Priodas Pum Mil yn dychwelyd gyda phennod arbennig i ddathlu’r Ŵyl, ac mewn pennod Nadoligaidd o’r gyfres lwyddiannus Gogglebocs, cawn gyfle i wylio enwogion yn ogystal â’r teuluoedd cyfarwydd yn rhoi’r byd yn ei le ar eu soffas.
Am chwa o awyr iach ar ddydd Calan, mi fydd John Hartson, Glyn Wise, Mared Williams a Lisa Angharad yn camu i’w hesgidiau cerdded ar gyfer pennod arbennig o Am Dro.
Ac ar ben hynny oll, mi fydd penodau Nadolig o ffefrynnau S4C, gan gynnwys Pobol y Cwm, Y Fets, Cefn Gwlad, Deian a Loli a llawer mwy.