Darllenais yr e-bost drosodd a throsodd. O, am benbleth! Parti lansio llyfr, lle byddai pob math o bobol ddiwylliedig, ddylanwadol a chŵl ene’n ‘rhwydweithio’… ac yn yfed punch ac yn cael noson o hwyl a direidi! Ac, yn annisgwyl braidd, mi roeddwn i wedi cael gwahoddiad – y fath anrhydedd! Wrth gwrs ro’n i’n mo’yn mynd, ond…

Mae Noson Calan Gaeaf wastad yn lletchwith i mi, fel rhywun sy’n byw hefo cyflwr ‘arall’ (‘othered’); ac mae gen i ddau gyflwr sy’n berthnasol yma, a dweud y gwir.

Y blaengudyn gwyn

Mae gen i gyflwr genetig prin o’r enw Syndrom Waardenburg Math 1. Yn ogystal â cholli pigment yn fy nghochlea, sy’n achosi colli clyw, rwy’ wedi colli pigment yn fy ngwallt, croen a llygaid. Dechreuodd y golled fel blaengudyn gwyn wrth fy nhalcen, oedd yn gyferbyniad llwyr â fy ngwallt gwinau tywyll ar y pryd.

Dim ond llond llaw o gyflyrau sy’n achosi blaengudyn gwyn, ond mae Syndrom Waardenburg yn un ohonyn nhw. Yn anffodus, mae cyflyrau prin a’u symptomau’n achosi amheuaeth ac ofergoeliaeth.

Yn yr Oesoedd Canol, byddai blaengudyn gwyn yn cael ei ystyried yn dystiolaeth o fod yn wrach. Ac yn anffodus, er bod ein meddylfryd modern wedi gadael y math yma o nonsens yn y gorffennol, mae’r delweddau wedi aros hefo ni, ac yn amlwg mewn diwylliant poblogaidd.

Ystyriwch y wig ‘gwrach’ yma, un o’r sawl sydd ar gael i chi gael gwisgo fyny fel gwrach. Achos dyma sut mae gwrachod yn edrych, ynde?

Ac nid eich bai chi yw hi, gyda llaw, os mai dyma’r ddelwedd ddaw i’ch meddwl. Rydych chi wedi eich hyfforddi gan ffilmiau, llyfrau a’r delweddau o’ch cwmpas drwy gydol eich bywydau. Yn wir, taswn i ddim o deulu sydd â’r cyflwr, a’i fod arna i hefyd, mae’n debyg fyswn i ddim callach!

Y ‘Mallens’ a chanser yr ysgyfaint

Onid ‘Mallen Streak’ yw’r enw am y ffenomenon hyn? Wel ia, a daeth y label yma o gyfres o lyfrau am y teulu Mallen gan Catherine Cookson, a’r gyfres deledu wedi’i seilio arnyn nhw.

Mi roedd gan Sgweier Mallen flaengudyn gwyn, a hawdd oedd ’nabod unrhyw un o’i feibion, gan eu bod nhw hefyd yn cario’r marc, ac mae hyn yn arwydd o ddrygioni a melltith. Dywed Catherine Cookson: ‘Ddaeth dim byd da fyth o Mallen’.

Yn ddiddorol iawn, mi roedd ei ferch Barbara yn fyddar, a chawn glywed, ar ôl ei gweld yn gwneud dawns waltz hefo’i chariad cyfrinachol, Michael:

“Dydi hi ddim yn cario’r ‘Mallen streak’, ond mae hi’n sicr yn Mallen; Gwelais hynny ar unwaith, yn fyddar neu beidio. Rhaid i chi beidio â beio’r bachgen, Constance.”

(Tud. 64, The Mallen Girl)

Felly mae’n debyg fod Catherine Cookson wedi dod ar draws teulu hefo Syndrom Waardenburg, ac wedi sylwi ar y blaengudyn a’r byddardod, a’i gweld yn thema ddiddorol i’w chynnwys yn ei nofelau. Mae hyn yn ddigon teg, ond yn anffodus aeth hi hefo’r syniad hefyd fod blaengudyn yn arwydd o ddrygioni, gan barhau hefo’r agwedd ragfarnllyd ac ‘arallio’.

Daeth y dystiolaeth fwyaf damniol a diweddar o stigma a stereoteipio’r blaengudyn gwyn mewn hysbyseb gan Lywodraeth yr Alban am ganser yr ysgyfaint, lle aethon nhw un cam ymhellach a dangos rhywun hefo blaengudyn gwyn fel ymgorfforiad o ganser yr ysgyfaint!

Gwraig Frankenstein

Mae’r blaengudyn yn gymaint rhan o’r feddylfryd fodern fel arwydd o ddrygioni fel ei bod hi’n anodd gwybod sut i’w dileu. Ac mae’n gymaint rhan o’r ddelwedd o wrachod a gwisgoedd ffansi Calan Gaeaf fel y penderfynais beidio â mynd i barti lansio’r llyfr.

Wedi’r cyfan, dim ond un o’r wigs gwrachod uchod fysa raid i mi ei weld er mwyn teimlo’n sâl i’m stumog. Ia, gwell aros adref, yn saff o’r math yna o ragfarn anffodus. A dyna wnes i, ac mi wnaeth yr adeg anghynnes o’r flwyddyn basio heb brofiadau triggering

Ond ryw ddiwrnod yn ddiweddarach, roeddwn yn pori drwy wefan golwg360, a gwelais un o fy nghyd-anghenfilod; golygfa o’r ffilm ‘The Bride of Frankenstein’ (1935), fel delwedd i gyd-fynd ag erthygl am ffilmiau arswyd.

A dene fo, roeddwn yn teimlo fel anghenfil unwaith eto, achos dyna mae ein delwedd gorfforol ni yn ei olygu mewn ffilmiau a thu hwnt – pobol annaturiol yn llawn drygioni! Mae’n digon i wylltio rhywun…

Gweddill fy ‘marciau anghenfil’

Erbyn hyn, wrth gwrs, rwy’n edrych yn dra gwahanol, gan fy mod wedi colli llawer iawn mwy o bigment yn fy ngwallt, croen a llygaid. Ond dwi’n dal i gario’r genyn am y blaengudyn ac mae’r atgofion teuluol, a’r teimlad o berthyn i’r ddelwedd, yn sownd yn fy psyche am byth.

Ymhellach, mae fy nelwedd ‘liwcistaidd’ bresennol yr un mor ‘arall’, a dweud y gwir. Mae thema’r ‘albino drygionus’ yn un gyffredin mewn diwylliant poblogaidd, ac yn deillio o ofergoeledd y gorffennol, sydd dal yn siapio canfyddiadau modern.

Mae’r ffilm ddiweddar Can you see us ar Netflix wedi’i seilio ar fywyd go iawn John Chiti a’i brofiadau o fyw hefo’r cyflwr ‘Albiniaeth’ yng nghyd-destun Zambia. Rhybudd: mae yna sawl thema drallodus iawn yn cael eu trin yn y ffilm bwysig yma.

Ac na, does gen i mo’r cyflwr ‘Albiniaeth’, ond mi rydw i nawr yn welw iawn hefo gwallt gwyn, ac mae pobol yn aml yn drysu rhwng y cyflyrau, gan fod y ddelwedd gorfforol yn debyg, yn y bôn. Felly mi rydw i’n uniaethu rywfaint â’r cyflwr hwn.

Ac mae delwedd y wrach, mewn gwirionedd, yn cwmpasu fy liwcistiaeth, ac hefyd ffenomen ‘heterochromia iridis, sef llygaid o wahanol liw sydd yn nodweddiadol o Syndrom Waardenburg Math 1.

Ystyriwch y wrach yn y ffilm Robin Hood Prince of Thieves (1991). Yna, edrychwch ar lun Nain Llanrwst, sef nain fy nhad:

Er bod fy llygaid i wedi dechrau’n frown ill dwy, ac nawr yn ryw farmor o wyrdd a brown, maen nhw wedi newid yn ystod fy mywyd, a finnau wedi gorfod rhoi’r gorau i’r obsesiwn amdanyn nhw a threulio oriau yn sgleinio torch o bob ongl i’w gwirio nhw. Yn wir, erbyn hyn, dwi’n ddigon hapus i gofleidio llygaid fel rhai Nain Llanrwst, os caf fy mendithio â nhw. Unigrywiaeth!

Ond i roi’r nodweddion anghenfilaidd yn eu cyd-destun, ystyriwch Gellert Grindelwald o’r ffilm Fantastic Beasts: The Crimes of Grindelwald (2018), gyda’r ddelwedd wedi ei chreu’n rhannol gan yr actor Johnny Depp, sydd â hanes o’r math yma o ‘arallio’ hefo’r blaengudyn gwyn. Dyma i chi gymeriad sy’n cyfuno nodweddion Syndrom Waardenburg ac albiniaeth!

Ar ben nodweddion Syndrom Waardenburg Math 1, mae gen i hanes o drawiadau… sydd, wrth gwrs, yn cael eu cysylltu â gwrachod a meddiant.

Ailddyfeisio’r prif gymeriad

Rwy’ wedi gwneud fy ngorau trwy sawl cyfrwng i weithredu yn erbyn y rhagfarn hyn, ac i drio helpu i chwalu rhai o’r anwireddau.

Pan welais i hysbyseb Llywodraeth yr Alban, wnes i fideo ohonof fy hun yn ei dadansoddi.

Sgwennais stori i gylchgrawn Cip am Glesni, ‘Y dywysoges arian’, yn seiliedig ar fy mhrofiadau i. Ac mae fy nghyfrol Trawiad|Seizure (2023) yn cynnwys cerddi sy’n trafod delweddau o drawiadau a’r cysylltiad hefo meddiant yn y ffilm The Pale Blue Eye (2022).

Rwy’ hefyd wedi sgwennu erthygl academaidd am y cyflwr, ac wedi sgwennu yn ymfalchïo mewn cymeriadau megis Elsa, sy’n mynd yn groes i’r duedd ragfarnllyd.

Ond mae yna lawer iawn mwy o waith i’w wneud i ddileu’r ablaeth a rhagfarn rhemp sydd wrth wraidd yr holl gymeriadau anabl ac ‘arall’ sydd yn dal i fod yn rhan o’r feddylfryd fodern.

Yn ddigon ‘smala, rwy’ wedi cael y fraint o fod yn rhan o’r garfan ar gyfer y rhaglen ‘‘Ailddyfeisio’r prif gymeriad’ gyda Llenyddiaeth Cymru. Rydym eisoes wedi cael pedwar gweithdy dros Zoom, dan arweiniad y dramodydd ac awdur o fri rhyngwladol, Kaite O’Reilly.

Byddaf yn treulio’r ‘Dolig, felly, yn hel syniadau ac yn ceisio sgwennu mewn pob math o gyfryngau, i geisio mynd i’r afael â’r broblem, ac yn creu storïau a chymeriadau sydd yn groes i’r thema ragfarnllyd, megis yr ‘albino drygionus’ a’r blaengudyn llawn drygioni.

Yn y flwyddyn newydd, byddwn ni i gyd yn cael sesiynau un-i-un gyda Kaite i drafod ein gwaith creadigol unigol, ac yn cael arweiniad ar ein camau nesaf, boed hynny’n theatr, nofelau, neu farddoniaeth.

Mae yna her o’m blaen, ond mae yna deimlad erbyn hyn ei bod yn bosib cyfrannu rhywbeth positif, ac y gwelwn newid yn y feddylfryd fodern ynglŷn â chyflyrau fel y rhai sydd gen i.