Roedd y profiad o gyflwyno rhaglen ddogfen arbennig i S4C, fydd yn cael ei darlledu ar Ddiwrnod AIDS y Byd heno (nos Wener, Rhagfyr 1), fel dod allan eilwaith fel person hoyw i Stifyn Parry, meddai.
Yn Paid â Dweud Hoyw, bydd yn trafod pennod cythryblus yn hanes diweddar gwledydd Prydain.
Cymal 28 yw pwnc y rhaglen, sef cyfraith oedd mewn grym rhwng 1988 a 2003 yn gwahardd sefydliadau cyhoeddus rhag addysgu plant a phobol ifanc am unrhyw beth yn ymwneud â’r gymuned hoyw, lesbiaidd, cyfunrywiol, trawsryweddol, cwiar a mwy (LHDTC+).
Adeg cyflwyno Cymal 28, roedd Llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher mewn grym yn San Steffan, ac roedd AIDS yn hawlio sylw’r papurau newydd.
“Dwi wedi cyfaddef pethau yn y rhaglen yma dw i erioed wedi’u cyfaddef o’r blaen, oherwydd doeddwn i ddim yn barod i rannu neu doeddwn i ddim yn ymwybodol,” meddai Stifyn Parry.
“Er enghraifft, dw i wedi rhannu’r ffaith tra roeddwn i ar Les Misérables yn y West End, roeddwn i’n cael HIV tests ac oedd neb yn gwybod hynny… achos roedd pobol â chymaint o ragfarn.
“Tra’n aros am y canlyniadau, roeddwn i’n canu ‘Empty Chairs at Empty Tables’ – roedd yr emosiwn yn real.”
Brookside
Christopher Duncan oedd y cymeriad bortreadodd Stifyn Parry yn y gyfres sebon boblogaidd Brookside ar Channel 4 – cymeriad oedd yn un hanner o’r berthynas hoyw agored gyntaf ar deledu Prydeinig.
Er bod Stifyn Parry ei hun yn hoyw, doedd e heb ‘ddod allan’ i unrhyw un bryd hynny.
“Mae pobol wedi cymryd yn ganiataol ’mod i wedi dod allan o’r groth all singing all dancing, ond na, dim felly oedd hi,” meddai.
“Doedd genna’i ddim hyder, ddim eisiau i bobol fod yn erbyn fi a phobol yn fy marnu i.”
Roedd protest enfawr yn Manceinion i wrthwynebu Cymal 28 ar Chwefror 20, 1988, gyda Stifyn Parry ar flaen yr orymdaith yn dal baner ac yn annerch y dorf.
“Dim ymgyrchydd oeddwn i, actor oedd yn digwydd chwarae rhan cymeriad hoyw yn Brookside… ond doedd dim byd gwell gen i na bod ar flaen y gâd – whatever gâd that was – efo Ian McKellen a Michael Cashman… a chael miloedd o bobol yn ymateb, roeddwn i’n teimlo’r un fath â’r Pâb!”
John Sam Jones
Ymysg y rheiny mae Stifyn Parry yn sgwrsio â nhw yn y rhaglen mae John Sam Jones, yr awdur ac ymgyrchydd dros hawliau hoyw.
Mae’n trafod yr adeg yn ei fywyd pan gyflwynodd ei hun i seiciatrydd yn Ysbyty Dinbych, er mwyn ceisio ‘gwella’ rhag bod yn hoyw.
Roedd y driniaeth gafodd e yno’n cynnwys gwisgo breichled oedd yn rhoi sioc drydanol iddo fe.
“Roeddwn i wedi amsugno’r holl negyddiaeth ynglŷn â bod yn hoyw…,” meddai.
“Os fedra i gael y driniaeth yma… fydd mam a dad byth yn gorfod gwybod ’mod i wedi bod yn hoyw a thynnu gwarth ar y teulu.”
Ei weinidog roddodd yr hyder iddo i geisio ailafael yn ei fywyd, yn dilyn cyfnod mor isel arweiniodd at ymgais i geisio lladd ei hun.
“Dywedodd y gweinidog wrtha’ i, ‘Os dyna mae Duw wedi dy alw i fod, mae’n rhaid i ti fod y dyn hoyw gorau y medri di’.
“A dyna oedd sail ailadeiladu fy mywyd.”
Cusan hoyw
Mae ugain mlynedd ers diddymu Cymal 28, a chymaint mwy o flynyddoedd ers cusan hoyw Stifyn Parry ar y teledu – cusan ar foch arweiniodd at nifer o gwynion.
Yn y rhaglen, mae’n edrych ar sefyllfa pobol hoyw mewn cymdeithas heddiw hefyd, ac mae cysgod Cymal 28 yn parhau gyda nifer yn ofni ‘dod allan’ o hyd.
Roedd dod allan, i Stifyn Parry, yn golygu peidio byw celwydd.
“Cyn i mi ddod allan, roedd hi’n erbyn y gyfraith – ddylwn i fod wedi ‘nghanslo,” meddai.
“Dyna ‘nghryfder – does yna neb ar wyneb y ddaear yma yn mynd i ‘nghanslo i.
“Yr unig beth wnes i oedd gwrando a derbyn a chyhoeddi fi fy hun.”
- Paid â Dweud Hoyw (Rondo Media), nos Wener, Rhagfyr 1, 9 o’r gloch, ar alw ar S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill