Mae’r sioe lwyddiannus Everybody’s Talking About Jamie ar daith, ar ôl tair blynedd yn y West End a’i throi yn ffilm gan stiwdio Amazon.

Mae’r sioe yn seiliedig ar stori wir, am fachgen oedd yn hoffi gwisgo dillad merched ac a gafodd ei rwystro gan ei ysgol rhag gwisgo mewn drag i’r prom.

Bu Beca Brown o Gaernarfon, sydd yn Aelod Plaid Cymru o Gabinet Addysg Cyngor Gwynedd, yn gwylio’r sioe yn Venue Cymru, Llandudno nos Fawrth (Tachwedd 28).

“Pan oedden nhw’n ffrydio’r sioe o Lundain i theatrau, mi wnes i weld hi yn y Galeri (Caernarfon),” meddai wrth golwg360.

“Wedyn o’n i wedi’i mwynhau ac yn amlwg ro’n i eisiau’r cyfle i’w gweld hi yn y cnawd.

“Mae hi’n sioe fendigedig, wedi’i seilio o gwmpas pobol ifanc. Plant ysgol ydi rhan fwyaf y cymeriadau ac mae lot o ddiwylliant pobol ifanc ynddo fo, ac mae asbri pobol ifanc yn dod drwodd yn y sioe.

“Roedd yna berfformiadau anhygoel gan gast gymharol ifanc.

“Mae’r caneuon yn dda. Mae yna lot yn y sioe, mae yna haenau o ystyr.

“Mae pawb yn meddwl amdani hi fel sioe am hogyn ifanc hoyw sydd eisiau bod yn artist drag, a dyna ydi hi.

“Ond beth sydd gennych chi hefyd ydi mam sengl, teulu dosbarth gweithiol, a’r tad wedi troi’i gefn ar yr hogyn, achos roedd o eisiau ‘hogyn go iawn’. Mae’r fam wedi bustachu i’w fagu, i drio bod yn fam ac yn dad i’r hogyn.

“Mae gennych chi’r gân ‘He’s My Boy’ ynglŷn â phan mai eich hogyn chi ydi’ch byd chi, ac yna mae o’n tyfu ac yn mynd – poen mam sengl sydd wedi rhoi’r oll i’w mab.

“Mae yna lot ynddo fo a wnaiff daro tant gwahanol bobol.

“Fel rhywun sydd wedi magu plant heb fewnbwn eu tad, roedd hwnna yn fy nghyffwrdd i yn fawr iawn.”

Beth yw’r negeseuon eraill yn y sioe felly?

“Mae yna neges gref iawn o ran parch, a pharchu amrywiaeth,” meddai Beca Brown.

“Mae Jamie yn cael ei fwlio yn yr ysgol, ac mae’r cymeriad Dean, sy’n hogyn digon annymunol, yn bwlio a bod yn gas efo Jamie am ei fod yn hoyw ac yn leicio gwisgo dillad merched.

“Ond un arall sydd yn cael ei fwlio gan Dean ydi ffrind gorau Jamie, sef hogan o’r enw Pritti, sydd, ar yr olwg gynta’, yn hollol wahanol i Jamie. Hogan academaidd iawn, yn gwisgo hijab, a sbectol, a dim colur.

“Y neges ydi, p’un a ydych chi eisio bod yn artist drag neu yn hogan sydd yn leicio Maths, mae rhydd i bawb fod yn beth bynnag maen nhw eisiau bod.

“Mae yna negeseuon pwysig ofnadwy ynglŷn â pharchu gwahaniaeth a thrafod ynglŷn ag ennyn cyd-ddealltwriaeth.

“Ro’n i mor falch gweld bod yna lawer o ysgolion yn mynd â’u plant i’w weld o.

“Yn amlwg, yn y job dw i’n ei wneud rŵan yn edrych ar ôl addysg ar Gabinet Cyngor Gwynedd, dw i’n ymwybodol o fwlio a’r heriau sydd yna i blant sydd yn cael eu gweld yn wahanol am ba bynnag reswm, ac yn sicr bwlio ar sail rhywedd a rhywioldeb, ac ar sail hil.

“Mae o’n ofnadwy o bwysig bod plant yn gweld y sioe yma.”

Sut all sioe gerdd fel yma newid agweddau?

“Mi wnaiff o wneud i bobol ifanc feddwl a herio’u cysyniadau am bobol ifanc maen nhw’n meddwl sydd yn wahanol iddyn nhw’u hunain,” meddai Beca Brown.

“Mae’r busnes bwlio ar sail hil a rhywioldeb a rhywedd wedi cael ei normaleiddio am fod yna bobol ddylanwadol iawn yn ei wneud o.

“Mae ganddon ni bobol mewn llywodraeth sydd yn dweud pethau ofnadwy am bobol o hil wahanol ac am ffoaduriaid.

“Mae ganddon ni bobol fel Andrew Tate – mae agweddau fel yma o gwmpas toxic masculitinity wedi cael cyfle i wreiddio yn anffodus, ac mae plant yn dilyn.

“Nid pob plentyn wrth gwrs, mae ganddon ni blant cwbl fendigedig allan yna, sydd yn gwneud gwaith arbennig yn herio ac yn taclo’r problemau yma.

“Ro’n i wrth fy modd yn gweld bod ysgolion Brynrefail a Dyffryn Conwy ac ysgolion eraill wedi mynd â’u plant i’w gweld hi.

“Mae sioeau fel yma yn mynd llaw yn llaw â’r gwaith da mae’n hysgolion ni’n ei wneud ynglŷn ag amrywiaeth a gwrth-fwlio.”

Beth yw eich barn ar safbwyntiau – chwyrn, yn aml – y rheiny sy’n credu nad yw perfformiadau artistiaid drag yn ddeunydd addas i blant?

“Mae drag a diwylliant drag wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd lawer. Mwya’ sydyn, mae yna garfan, yr asgell dde, wedi penderfynu bod yna broblem efo hynna. Mae o’n hollol hurt,” meddai Beca Brown.

“Mae Drag Queen Storytime wedi cael adwaith negyddol gan y garfan fechan yma – rhaid cofio mai carfan fechan ydyn nhw. Maen nhw’n gallu bod yn garfan swnllyd.

“Mi gawson ni broblemau yng Ngwynedd pan ddaeth Mama G i’n llyfrgelloedd ni i ddarllen straeon i blant ynglŷn ag amrywiaeth a chynhwysiant. Mi gawson ni ychydig bach o broblem. Ond problem fach; mae’r bobol yma yn y lleiafrif.

“Dw i wedi gweld pobol yn cwyno… Maen nhw’n dweud y bydd y sioe yn indocdrineiddio, y bydd hogiau bach yn mynd i weld y sioe yma i gyd eisio mynd i’r ysgol mewn ffrog y diwrnod wedyn. Dw i yn methu deall yr agwedd yna a bod yn onest.

“Fyddwn i’n tybio mai ychydig iawn o bobol sy’n gweiddi ynglŷn â’r sioe yma sydd wedi bod yn ei gweld hi.

“Mae yna bob math o negeseuon pwysig ynddi hi, nid jyst am yr hawl i fod yn artist drag ond am yr hawl i fod yn hogan fach mewn sbectol ac sydd yn leicio gwisgo colur ac sy’n leicio Maths hefyd.

“Mae yna negeseuon am fod yn chi’ch hun, ac am fod yn garedig i bobol eraill.”

  • Mae Everybody’s Talking About Jamie yn Venue Cymru, Llandudno hyd at ddydd Sadwrn, Rhagfyr 2