“Mae honiadau parhaus yn y cyfryngau sy’n ymwneud ag S4C yn peri pryder, yn fwy felly o ystyried pa mor bwysig yw llwyddiant y sianel i’r Gymraeg a Chymru fel gwlad.”
Dyna sylw Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd a chadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd mewn datganiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Tachwedd 30).
Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r Prif Weithredwr Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys y sianel, wedi’u diswyddo gan Awdurdod S4C.
Mae Siân Doyle wedi anfon llythyr at Lucy Frazer, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, yn gofyn iddi ymchwilio i weithredoedd Rhodri Williams, cadeirydd S4C, cyn iddo fe gael ei benodi am dymor arall yn y swydd.
Dywed ei bod hi wedi rhoi gwybod i’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon “droeon” fod ganddi bryderon, ond ei bod hi wedi cael gwybod mai mater mewnol i S4C oedd hynny.
Gofynnodd a fydden nhw wedi ymateb yn yr un modd pe bai’r un sefyllfa wedi codi yn Lloegr gyda Channel 4.
Mae honiadau bod Llinos Griffin-Williams wedi ymddwyn yn amhriodol ac wedi “gwneud sylwadau anaddas” tuag at aelodau’r cwmni cynhyrchu Whisper, tra bod Siân Doyle wedi’i diswyddo wrth i Awdurdod S4C ddweud eu bod nhw “wedi ystyried y dystiolaeth” ddaeth i law yn sgil “ymarfer canfod ffeithiau” gan gwmni Capital Law i amgylchedd gwaith S4C.
Dywedon nhw fod “pryderon difrifol” gan BECTU fis Ebrill eleni, a bod “y dystiolaeth a welsom yn adlewyrchu barn a phrofiadau 96 o bobol sy’n staff presennol neu gyn-aelodau o staff S4C neu’n bartneriaid”.
“Roedd natur a difrifoldeb y dystiolaeth a rannwyd yn peri gofid mawr,” meddai’r Awdurdod.
“Yn ddi-os, mae wedi bod yn gyfnod heriol i lawer o unigolion.
“Fel Aelodau o’r Awdurdod, hoffem ymddiheuro am y straen a’r gofid a achosir gan yr ymddygiadau a brofwyd yn y gweithle.”
‘Awyddus i glywed gan Fwrdd S4C’
Dywed Delyth Jewell fod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn awyddus i glywed gan Fwrdd S4C “cyn gynted â phosibl”.
“Mae honiadau parhaus yn y cyfryngau sy’n ymwneud ag S4C yn peri pryder, yn fwy felly o ystyried pa mor bwysig yw llwyddiant y sianel i’r Gymraeg a Chymru fel gwlad,” meddai.
“O ystyried lefel y dyfalu, mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed gan Fwrdd S4C cyn gynted â phosibl.
“Gydag ymadawiad y Prif Weithredwr ac ymchwiliad mewnol parhaus, nid yw’n bosibl cymryd tystiolaeth ar hyn o bryd.
“Cyn gynted ag y bydd wedi cwblhau ei hymchwiliad, mae’r Pwyllgor yn disgwyl y bydd S4C yn cyhoeddi’r adroddiad yn llawn, yn amodol ar ddiogelu enwau’r rhai sydd wedi rhoi tystiolaeth.
“O ystyried y gallai’r adroddiad gynnwys agweddau allai beri loes i’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y broses ymchwilio, mae’r Pwyllgor hefyd yn disgwyl y bydd S4C yn cymryd camau i roi rhybudd ymlaen llaw cyn ei gyhoeddi er mwyn diogelu lles staff presennol a chyn-aelodau o staff.
“Pan fydd yr adroddiad ar gael i’r cyhoedd, bydd y Pwyllgor yn gofyn i gynrychiolwyr ddod i’r Senedd ac ateb cwestiynau.”
Dywed llefarydd ar ran S4C nad oes ganddyn nhw ddim byd i’w ychwanegu at eu datganiad.