“Welwn ni fyth mo’i debyg eto,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wrth ymateb i farwolaeth y canwr Shane McGowan.
Bu farw prif leisydd The Pogues yn 65 oed yn dilyn salwch hir.
Ymhlith caneuon mwyaf adnabyddus y band mae’r ffefryn Nadoligaidd Fairytale of New York ac A Pair of Brown Eyes.
Fe fu’n brwydro ers blynyddoedd yn erbyn alcoholiaeth a chyffuriau.
Wrth dalu teyrnged iddo, postiodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd neges ar X (Twitter gynt) yn yr iaith Wyddeleg.
“Ni bheidh do leitheid arist ann,” meddai, sy’n golygu ‘Welwn ni fyth mo’i debyg eto’, gan ychwanegu yn Gymraeg, “Heddwch i ti, Shane McGowan.”
Mae Kevin Brennan, Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Caerdydd, hefyd wedi talu teyrnged iddo, gan ei alw’n “athrylith o gyfansoddwr caneuon”.
“Sinead yn gyntaf, a nawr Shane,” meddai.
“Rydyn ni ar ein colled.”
Bywyd a gyrfa
Yn enedigol o Gaint, roedd Shane McGowan yn fab i fewnfudwyr o Iwerddon.
Bu’n brif leisydd The Pogues rhwng 1982 a 2014, pan ddaeth y band i ben ar ôl cyhoeddi saith albwm.
Fe gydweithiodd y band â’r ddiweddar Kirsty McColl ar Fairytale of New York, gyrhaeddodd rif dau yn siartiau’r Deyrnas Unedig.
Derbyniodd McGowan Wobr Cyfraniad Oes yn Nulyn yn 2018, a chafodd rhaglen ddogfen am ei fywyd a’i yrfa, Crock of Gold: A Few Rounds with Shane McGowan ei chyhoeddi ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Roedd yn ffrind agos i’r ddiweddar Sinéad O’Connor, y gantores Wyddelig fu farw’n gynharach eleni.