Bydd gŵyl gafodd ei sefydlu ugain mlynedd yn ôl yn dychwelyd dros y penwythnos, a hynny am y tro cyntaf ers y pandemig Covid-19.

Mae un o sylfaenwyr Llanast Llanrwst yn rhagweld y bydd yr ŵyl yn fwy eleni nag y bu ers blynyddoedd, wedi i docynnau i un o’r gigs mawr gyda Candelas werthu mewn teir awr.

Mae artistiaid megis Meinir Gwilym, Dafydd Iwan, Hap a Damwain, Lastig Band, Mynadd a Tew Tew Tenau ymysg y rhai fydd yn canu yn y dref yn Sir Conwy rhwng nos Wener a nos Sadwrn (Rhagfyr 1 a 2).

Bydd Sesiwn Jamio o amgylch y dref ddydd Sul (Rhagfyr 3) hefyd, a bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal mewn sawl tafarn yn y dref, gyda pheth o’r arlwy am ddim.

‘Newid agweddau’

Pan gafodd Llanast Llanrwst ei chynnal am y tro cyntaf yn 2003, roedd Meirion Davies ymysg y trefnwyr.

“Roedden ni’n gwybod bod yna lot o wyliau dros yr haf, ond yn ei weld o’n mynd reit fflat, felly roedden ni’n awyddus i gael rhywbeth i godi ysbryd pobol,” meddai Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy.

“Ei fod o’n gwneud lles i economi Llanrwst, roedd hynna’n fwriad mawr gennym ni.

“I raddau, rydyn ni’n gweld ei fod o wedi newid agweddau pobol tuag at y Gymraeg, bod o’n gallu bod yn beth cadarnhaol a da, a gwneud pres hefyd.”

Menter Iaith Conwy oedd yn gyfrifol am drefnu’r ŵyl yn wreiddiol, ac roedd perfformiadau gan Meic Stevens, Iwcs, Meinir Gwilym, Alun Tan Lan, Anweledig, a Maharishi bryd hynny.

“Roedd gennym ni beth o’r enw Beirdd yn erbyn Rapwyr hefyd, ryw fath o dalwrn oedd o efo tîm o feirdd yn cystadlu yn erbyn tîm o rapwyr,” meddai Meirion Davies wedyn.

Bellach, mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan bwyllgor annibynnol, er eu bod nhw’n dal i gael rhywfaint o gymorth gan y Fenter Iaith.

‘Bwrlwm yn y dref’

Mae Meirion Davies yn rhagweld mai’r ddau gig mawr – Candelas a Dafydd Iwan – fydd uchafbwyntiau’r ŵyl, ond un elfen sy’n dychwelyd eleni yw’r sesiwn jamio.

“Dw i’n gobeithio y bydd yna fwrlwm yn y dref ddydd Sadwrn hefyd ac y bydd yna bethau ymlaen yn y tafarndai,” meddai.

“Roedd hynny’n ychydig bach o’r rheswm wnaethon ni ei alw fo’n Llanast Llanrwst, be’ oedden ni’n ei wneud, ar gyfer y dydd Sadwrn, oedd gwahodd ryw ugain a mwy o gerddorion a rhoi rhyddid y dref iddyn nhw.

“Roedden nhw’n mynd o amgylch y dref i dafarndai gwahanol ac yn jamio.

“Doeddech chi byth cweit yn gwybod beth oeddech chi’n mynd i’w gael.

“Felly, mae yna elfen o hynna wedi dod yn ôl eleni.

“Roedden ni’n cael pobol i wisgo fyny fel Rhys Gethin a Hywel Coetmor, sef dau o gadfridogion Owain Glyndŵr o’r ardal, wedyn roedden nhw’n rhoi Rhyddid y Dref i’r cerddorion. Ychydig bach o orchest!”

Bydd cyfle i blant gwrdd â Sion Corn mewn disgo yng Nghanolfan Glasdir fore dydd Sadwrn hefyd, ynghyd â Thaith Gerdded Natur ar gyfer siaradwyr newydd a siaradwyr rhugl dan arweiniad Cymdeithas Edward Llwyd.

‘Galw’ am yr ŵyl

Un o brif amcanion Llanast Llanrwst ydy darparu digwyddiadau a cherddoriaeth Gymraeg ar gyfer trigolion yr ardal, a chefnogi busnesau lleol a chynnwys y dref gyfan yn rhan o’r ŵyl a’r trefniadau.

“Mae o reit ryfedd, dydy o ddim yn teimlo fel ugain mlynedd,” meddai Meirion Davies.

“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhyfedd efo Covid, felly mae o’n neis ei gael o’n ôl.

“Eleni, dw i’n meddwl y bydd o’n fwy na mae o wedi bod ers dipyn. Roedd tocynnau Candelas wedi mynd o fewn tair awr, felly’n amlwg mae yna alw amdano fo.

“Aeth o lawr yn y bum mlynedd ddiwethaf oherwydd Covid, ar un adeg roedd gwestai yn llawn a phobol yn teithio fyny i Lanrwst.

“Ond fydd hynny bendant yn wir y penwythnos yma achos mae yna ddwy noson lawn.”