Mae adroddiadau bod un o benaethiaid S4C wedi gadael y cwmni, yn dilyn honiadau ei bod hi wedi ymddwyn yn amhriodol ac wedi “gwneud sylwadau anaddas” tuag at aelodau’r cwmni cynhyrchu Whisper.

Cwmni annibynnol yw Whisper, sy’n cynhyrchu rhaglenni Cwpan Rygbi’r Byd y sianel eleni.

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei phenodi’n Brif Swyddog Cynnwys y sianel fis Ebrill y llynedd, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Cynnwys cwmni Wildflame.

Yn ôl adroddiadau, roedd Llinos Griffin-Williams yn Naoned yn rhinwedd ei swydd, ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Georgia yr wythnos ddiwethaf.

Mae honiadau y bu dadlau rhyngddi hi ac aelodau o’r cwmni Whisper mewn gig, a bu i’r ddadlau barhau mewn bar arall.

Mae honiadau ei bod hi wedi ymosod yn eiriol ar Mike Phillips, sy’n aelod o dîm sylwebu S4C, gan feirniadu safon ei Gymraeg.

Honiadau o fwlio

Fe fu honiadau o fwlio yn S4C ers tro.

Does dim dyddiad ar gyfer cyhoeddi adroddiad i’r mater hwnnw ar hyn o bryd.

Dywedodd Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C, fod “y term bwlio yn cael ei rannu’n rhy hawdd”.

“Mae Llinos Griffin-Williams wedi gadael ei rôl fel Prif Swyddog Cynnwys S4C ar ôl ei diswyddiad yn dilyn honiadau am gamymddwyn difrifol,” meddai llefarydd ar ran S4C.

“Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar y mater.”

‘Siom’

Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y sefyllfa’n un “siomedig”.

“Mae’r honiadau hyn yn destun pryder mawr, yn enwedig o ystyried yr honiadau blaenorol yn erbyn y darlledwr sydd wedi cael effaith ar enw da’r darlledwr Cymraeg,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant y blaid.

“Gyda chwmni cyfreithiol allannol annibynnol eisoes yn ymchwilio i honiadau blaenorol, mae’n destun siom fod honiadau newydd wedi dod i’r fei.

“Mae’n hanfodol bod staff ar bob lefel yn dod ymlaen ar yr adeg hon i rannu eu profiadau, a bod S4C yn ymgysylltu’n llawn â’r ymchwiliad.”