Gallai miloedd o bobol yn y gorllewin ei chael hi’n anodd mynd i apwyntiadau meddygol, mynd i siopa neu i’r gwaith pan fydd gwasanaeth bws gwledig yn dod i ben ddiwedd y mis, yn ôl cynghorwyr pryderus yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r gwasanaeth Bwcabus yn gweithredu llwybrau sefydlog a theithiau wedi’u harchebu yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, ac mae wedi tyfu ers ei lansio yng Ngheredigion yn 2009.
Ond mae disgwyl iddo ddod i ben ar Hydref 31, gyda Llywodraeth Cymru’n dweud na allai barhau â’u cefnogaeth ariannol i’r gwasanaeth gan nad oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi disodli arian trafnidiaeth wledig oedd yn arfer cael ei ddarparu gan yr Undeb Ewropeaidd.
Fe wnaeth cynghorwyr ar draws y siambr annog ailfeddwl yn ystod cynnig ar y Bwcabus mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor, gan ddweud y byddai trigolion yn cael eu hynysu.
Fe wnaeth y Cynghorydd Rob James, arweinydd y Grŵp Llafur, ddisgrifio trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin fel “gwarth”, gan fynnu bod camau’n cael eu cymryd.
“Os ydyn ni am gyflwyno polisïau fel y [terfyn] 20m.y.a. sydd, gadewch i ni fod yn onest, yn ceisio gorfodi pobol allan o’u ceir, mae angen opsiwn amgen,” meddai.
“A does yna’r un ar hyn o bryd.”
Dywedodd y Cynghorydd Rob James ei fod yn gwerthfawrogi bod Llywodraeth CYmru wedi dweud eu bod nhw’n wynebu toriadau real o £900m yn 2023-24.
Galwodd ar yr holl bleidiau i “ddod ynghyd a gweiddi’n groch”, gan ychwanegu bod “angen arnom yr hawl i deithio”.
‘Modd i fyw’
Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan y Cynghorydd Linda Evans, dirprwy arweinydd Plaid Cymru, a’i chyd-aelod o’r Cabinet, y Cynghorydd Edward Thomas (Annibynnol).
Galwodd ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu penderfyniad cyllido o ran Bwcabus ac, yn y cyfamser, cynnal y gwasanaeth hyd nes bod opsiwn amgen yn weithredol.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans nad oes yna wasanaethau trafnidiaeth gwledig eraill ar gael ar hyn o bryd yn y tair sir, a bod Bwcabus yn llwyddo.
“Mae’n dorcalonnus ac yn bryder mawr i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ein cymunedau gwledig,” meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans ei bod hi’n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru’n chwilio am wasanaeth i’w ddisodli, ond nad oedd hi wedi clywed unrhyw beth pendant.
Fe wnaeth y Cynghorydd Annibynnol John James ddisgrifio Bwcabus fel modd i fyw i’r henod a phobol fregus.
“Does dim pwrpas cael trwydded ar gyfer y bws os nad oes gennych chi fws,” meddai.
Rhwystr i iechyd da
Dywedodd Hefin Jones, cynghorydd Plaid Cymru, ei fod e wedi mynychu digwyddiad iechyd ar Hydref 12, lle’r oedd gweithiwr y Groes Goch yn dweud bod mynediad at drafnidiaeth yn un o’r rhwystrau mwyaf – os nad yr un mwyaf – i iechyd da mewn ardaloedd gwledig.
Dywedodd y Cynghorydd Ken Howell, sydd hefyd yn cynrychioli Plaid Cymru, fod dynes oedrannus sy’n byw yng Nghwmhiraeth – llecyn yng ngogledd y sir – wedi dweud wrtho bod y Bwcabus “wedi agor y byd iddi”.
Dywedodd y Cynghorydd Shelly Godfrey-Coles, sy’n gynghorydd Llafur, fod niferoedd teithwyr bws wedi gostwng tipyn ers cyn Covid, a bod Cymru ar ei cholled o beidio â derbyn arian HS2 gan San Steffan ac yn sgil Brexit.
“Mae angen i ni annog pobol yn ôl ar y bws,” meddai.
“All hyn ddim cael ei ddefnyddio fel chwip arall i guro Llywodraeth Cymru.”
‘Rhagrith’
Dywedodd y Cynghorydd Tina Higgins, cyd-aelod Llafur, ei bod hi’n rhagrithiol fod cynghorwyr yn rhoi’r holl fai ar Fae Caerdydd, ac y dylai’r Cyngor ystyried cynyddu eu cyfraniad i’r Bwcabus.
“Allwn ni gynnig rhagor o gyllid, neu ydyn ni am fod yn negyddol yn ei gylch e?” gofynnodd.
Dywedodd Darren Price, arweinydd y Cyngor sy’n cynrychioli Plaid Cymru, fod yna sgôp i Lywodraeth Cymru arallgyfeirio arian sy’n cael ei arbed drwy dorri prosiectau adeiladu ffyrdd newydd tuag at drafnidiaeth gyhoeddus ond nad oedd hynny wedi digwydd, yn ei farn e.
“Dydyn ni ddim fel pe baen ni’n cael unrhyw beth yn nhermau trafnidiaeth gyhoeddus – mewn gwirionedd, rydym fel pe baen ni’n mynd am yn ôl,” meddai.
Wrth ddirwyn y ddadl i ben, dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, oedd wedi cyflwyno’r cynnig, fod y Cyngor wedi cyfrannu oddeutu £100,000 tuag at gostau rhedeg blynyddol y Bwcabus gwerth £700,000 a’r tro diwethaf iddi wneud ymholiadau, roedd niferoedd teithwyr oddeutu 30,000 y flwyddyn, o gymharu â 40,000 cyn Covid.
“Arian bach iawn, iawn sy’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei ddarparu er mwyn cadw at eu polisi eu hunain eu bod nhw’n gwarchod trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig,” meddai.
Ar wahân i lond dwrn o rai wnaeth ymatal, fe wnaeth cynghorwyr gefnogi’r cynnig.
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Er gwaethaf addewidion na fyddai Cymru’n colli ceiniog ar ôl Brexit, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu â disodli arian ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth wledig oedd yn cael eu cefnogi’n flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Yn anffodus, dydyn ni ddim felly yn gallu parhau i gefnogi’r gwasanaeth Bwcabus.
“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn newyddion siomedig i’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, fodd bynnag rydyn ni’n cydweithio â Thrafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a Chymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol Cymru i archwilio opsiynau amgen.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd eu bod nhw wedi darparu cefnogaeth hanfodol i’r diwydiant bysiau drwy gydol Covid, ac wedi cyhoeddi £46m ym mis Mai i gefnogi gweithredwyr ac i warchod rhwydwaith Traws Cymru.