Bydd Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd yn aros ar gau tan o leia’r flwyddyn newydd.
Roedd disgwyl y byddai’r adeilad wedi ailagor ddechrau mis Hydref yn wreiddiol, wedi iddo gau dros dro ar Fedi 7 oherwydd pryderon ynghylch RAAC.
Fodd bynnag, yn dilyn cyfamod fore heddiw (dydd Gwener, Hydref 13), daeth y penderfyniad fod “angen gwaith” ar y neuadd cyn ei hailagor.
Yn ôl datganiad gan Gyngor Caerdydd, mae’r arbenigwyr RAAC gafodd eu dewis gan Gyngor Caerdydd i gynnal y gwiriadau ychwanegol yn dod i ddiwedd eu harolygiadau.
Mae disgwyl y bydd eu canfyddiadau’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Cyngor lleol diwedd yr wythnos nesaf.
Cau tan y flwyddyn newydd
Bydd yr union waith sydd ei angen yn cael ei benderfynu yn sgil yr adroddiad, yn ôl Cyngor Caerdydd.
“Mae arwyddion cynnar wedi ei gwneud hi’n glir y bydd angen gwaith os yw’r Neuadd am ailagor,” meddai llefarydd.
“Bydd yr union waith sydd ei angen yn cael ei adolygu yng ngoleuni canfyddiadau’r adroddiad, ac yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys goblygiadau cost tymor byr a thymor hirach, pa mor hir y gallai ei gymryd i gyflawni gwaith adferol / dros dro, a pha mor hir y gallai’r gwaith adfer hwnnw bara cyn bod angen ailosod paneli RAAC yn y to yn llwyr.
“Rydym yn disgwyl i’r Cabinet wneud penderfyniad y mis hwn ar bob un o’r uchod.
“Fodd bynnag, o gofio y gallai gwaith adferol / dros dro gymryd sawl mis i’w roi ar waith, mae penderfyniad wedi’i wneud nawr i ymestyn y cyfnod y mae’n rhaid cau Neuadd Dewi Sant, sef tan y Flwyddyn Newydd o leiaf.”
Ymddiheuro i gwsmeriaid
Dywed y llefarydd eu bod yn “ymddiheuro” i gwsmeriaid Neuadd Dewi Sant fod rhagor o sioeau’n cael eu gohirio, ond eu bod nhw am “sicrhau’r holl ddeiliaid tocynnau y byddwn mewn cysylltiad i drafod dyddiadau newydd perfformiadau a/neu ddewisiadau amgen”.
Does dim angen i gwsmeriaid gysylltu â Neuadd Dewi Sant, oherwydd byddan nhw’n cysylltu’n uniongyrchol â’r holl ddeiliaid tocynnau ynghylch yr opsiynau sydd ar gael ar ôl siarad â hyrwyddwr y sioeau sydd wedi’u heffeithio.
“Byddem yn ddiolchgar pe gallai cwsmeriaid roi’r amser i staff Neuadd Dewi Sant ymgymryd â’r gwaith hwn fel y gallwn ddod yn ôl atynt cyn gynted â phosibl am docynnau a brynwyd a digwyddiadau a ohiriwyd,” meddai.
“Rydym yn gwybod bod hyn yn achosi llawer o anghyfleustra a siom, a hoffem ymddiheuro eto i’n holl gwsmeriaid, ond mae diogelwch cynulleidfaoedd, staff, artistiaid, gwirfoddolwyr a phawb yn y lleoliad yn hollbwysig, ac mae’n ofynnol i’r Cyngor weithredu mewn ymateb i ganllawiau diweddaraf Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chyngor arbenigol.”
Dyfodol y neuadd
Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi crybwyll yr angen am fuddsoddiad yn Neuadd Dewi Sant er mwyn sicrhau ei dyfodol hirdymor.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n parhau i weithio i drosglwyddo’r neuadd i’r Academy Music Group (AMG), a’u bod nhw wedi’u hysbysu o’r camau y byddan nhw’n eu cymryd i ddiogelu’r neuadd.
“Cyn cymryd drosodd y cyfrifoldeb o weithredu Neuadd Dewi Sant, roedd AMG eisoes wedi cynnal ei arolygiadau ei hun ac mae ganddo gynlluniau ar waith i wneud gwaith adfer sydd ei angen yn y tymor canolig i’r tymor hir,” meddai.