Roedd “S4C yn gorfod gwneud penderfyniad” i ddiswyddo Llinos Griffin-Williams, yn ôl cyn-Brif Weithredwr y sianel.
Fe fu Arwel Ellis Owen yn siarad â rhaglen Newyddion S4C, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y cyn-Brif Swyddog Cynnwys wedi gadael ei swydd yn dilyn honiadau o gamymddwyn difrifol yn Naoned yn Llydaw.
Yn ôl adroddiadau, roedd hi wedi “gwneud sylwadau anaddas” tuag at aelodau’r cwmni cynhyrchu annibynnol Whisper, sy’n cynhyrchu rhaglenni Cwpan Rygbi’r Byd y sianel eleni.
Cafodd Llinos Griffin-Williams ei phenodi’n Brif Swyddog Cynnwys y sianel fis Ebrill y llynedd, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Cynnwys cwmni Wildflame.
Yn ôl adroddiadau, roedd Llinos Griffin-Williams yn Naoned yn rhinwedd ei swydd, ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Georgia yr wythnos ddiwethaf.
Mae honiadau y bu dadlau rhyngddi hi ac aelodau o’r cwmni Whisper mewn gig, a bu i’r ddadlau barhau mewn bar arall.
Mae honiadau ei bod hi wedi ymosod yn eiriol ar Mike Phillips, sy’n aelod o dîm sylwebu S4C, gan feirniadu safon ei Gymraeg.
‘Colli enw da’
“Dw i’n credu roedd S4C yn gorfod gwneud penderfyniad fel hyn unwaith roedd y peth wedi dod allan, ynte yn gyhoeddus neu gan gwynion gan yr unigolyn neu y cwmnïau cynhyrchu,” meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C rhwng 2010 a 2012.
“Mae rhaid i gyrff darlledu, neu unrhyw gorff cyhoeddus, gadw at y rheolau ac os oes yna gamymddwyn yn digwydd, yna mae rhaid iddyn nhw gamu i fewn a sicrhau nad ydy hynny ddim yn rhan o holl ddiwylliant y corff.
“Buan iawn mae cyrff cyhoeddus yn cael enw drwg neu yn colli enw da. Dros nos bron.
“A dyna pam mae’r Cod Ymarfer yn ei le, i sicrhau bod unigolion sydd â phŵer, bod yna hefyd gyfrifoldeb i fod yn deg ac yn rhesymol ac yn agored.”
“Mae Llinos Griffin-Williams wedi gadael ei rôl fel Prif Swyddog Cynnwys S4C ar ôl ei diswyddiad yn dilyn honiadau am gamymddwyn difrifol,” meddai llefarydd ar ran S4C.
“Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar y mater.”
E-bost
Yn y cyfamser, mae adroddiadau bod staff S4C wedi derbyn e-bost yn dweud bod Siân Doyle, Prif Weithredwr y sianel, i ffwrdd o’i gwaith oherwydd salwch ar hyn o bryd.
Yn ôl y neges, bydd Geraint Evans, y Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi, ac Elin Morris, y Prif Swyddog Gweithredu, yn rhannu ei chyfrifoldebau.
Mae’r staff wedi cael cais i beidio â chysylltu â Siân Doyle.