Mae siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng nghefn gwlad yn cael eu cosbi gan bolisi cynllunio Conwy, yn ôl cynghorydd pryderus.

Fe wnaeth Glynwen Davies, athrawes uwchradd ifanc, gyflwyno cais i Adran Gynllunio Conwy yn ceisio caniatâd i droi adeilad carreg presennol yn gartref newydd.

Daeth argymhelliad y dylai swyddogion cynllunio Conwy wrthod ei chynlluniau ar gyfer yr adeilad yn Fox Hall, Ffordd Gyffylog, Eglwysbach – ond cafodd y cyngor yma ei anwybyddu gan gynhgorwyr oedd wedi cymeradwyo’r cais.

Dywedodd Glynwen Davies ei bod hi’n ifanc ac yn sengl, ac roedd hi’n honni nad yw hi’n gallu fforddio prynu cartref – gan addo na fyddai’n ei werthu unwaith y câi cynllunio ei gytuno.

Fe wnaeth ei theulu, fu’n byw yn y pentref ers 75 mlynedd, roi’r tir iddi ar eu fferm, ac yn ôl y sôn roedd yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio fel tŷ yn y gorffennol.

‘Trin siaradwyr Cymraeg yn annheg’

Dywedodd swyddogion cynllunio y dylai gael ei wrthod, gan fod y tir mewn ardal wledig agored.

Fe wnaeth y Cynghorydd Trystan Lewis ddadlau bod trigolion Cymraeg sy’n byw yng nghefn gwlad yn cael eu trin yn annheg, gan awgrymu bod rhaid i bobol ifanc adael yr ardal lle cawson nhw eu magu gan nad ydyn nhw’n gallu fforddi cartrefi.

“Roedd gennym ni ymweliad â safle ddoe, ac roedd rhai o’m cyd-aelodau yno,” meddai.

“Fe welson ni droson ni ein hunain pa mor addas oedd y lle.

“Rydyn ni wedi clywed ei fod yn gartref teuluol ers rhai blynyddoedd.

“Mae e dafliad carreg o gartref Glynwen.

“Ga i’ch cyfeirio chi at Tan 6 yn Adran 16 (polisi cynllunio), sy’n cyfeirio at ailddefnyddio adeiladau’r fferm.

“Nid yn unig y bu hwn yn adeilad fferm, ond fe fu’n dŷ hefyd.

“Ac er y gallwch chi ddadlau’r naill ffordd neu’r llall ynghylch y sail ar gyfer hynny, mae’n amlwg ei bod yn breswylfa ar un adeg, ac y bu’n rhan o fferm a thir y teulu.

“Onid yw’n llawer brafiach addasu adeilad carreg, adeilad traddodiadol, yn hytrach nag adeiladu rhai newydd, a chael datblygiadau sy’n addas ar gyfer yr ardal ac sy’n hardd iawn?

“Gallai’r ymgeisydd yn hawdd iawn symud yn nes at ei gweithle, ond mae hi’n dewis byw yn yr ardal lle cafodd ei magu.

“Rydyn ni wedi clywed ei bod hi’n cymryd rhan mewn Clybiau Ffermwyr Ifanc, y Gymraeg, ac mae Tan 20 yn dod i mewn i hyn hefyd, ein bod ni’n hybu ac yn cefnogi’r Gymraeg.

“Felly byddwn i’n dadlau nad y cais sy’n ddiffygiol, ond yn hytrach y polisi, fel rydyn ni wedi’i weld lawer gwaith.

“Fel aelod o’r pwyllgor, byddaf yn galw ar yr angen i edrych ar y polisi oherwydd mae pobol Gymraeg sy’n byw yng nghefn gwlad yn cael eu cosbi, a dyna rydyn ni’n ei weld yma hefyd.”

‘Mae o eisoes yn edrych fel darpar gartref’

“Roeddwn i ar yr ymweliad â’r safle ddoe, ac yn fy marn i nid yw hyn yn troi’r adeilad yn breswylfa, ond yn hytrach yn troi adeilad yn ôl yn breswylfa,” meddai’r Cynghorydd Gwennol Ellis wedyn.

“Mae simne ar yr adeilad o hyd, hyd yn oed.

“Felly mae o eisoes yn edrych fel darpar gartref.

“Mae’r swyddogion yn dweud bod hwn yn gartref pris y farchnad.

“Wel, yn fy marn i, mae’n gartref am oes, ac fel mae’r ymgeisydd wedi dweud, does ganddi ddim bwriad i werthu’r cartref.”

Barn yr ymgeisydd

“Dw i’n berson ifanc sengl sydd wedi fy magu ac sydd wedi byw yn Eglwysbach gyda fy oes efo’r teulu,” meddai Glynwen Davies wrth annerch y pwyllgor.

“Bu fy nheulu’n byw yn Eglwysbach ers 75 mlynedd, a bûm i’n ddigon ffodus o dderbyn tir ganddyn nhw i adeiladu cartref i mi fy hun.

“Mae’r safle oddeutu 1.5km o’m cartref, felly mae’n lleoliad delfrydol i gefnogi fy rhieni yn y dyfodol, a pharhau i fyw yng nghefn gwlad.

“Athrawes ydw i sy’n gweithio mewn ysgol uwchradd Gymraeg ac yn fyfyrwraig ran amser ym Mhrifysgol Bangor, ac mae Eglwysbach yn lleoliad canolog iawn i deithio i’r ddwy ochr bob dydd.”