Mae pryderon wedi’u codi y gallai’r terfynau cyflymder 20m.y.a. newydd gynyddu costau cludiant ysgol Cyngor Wrecsam yn uwch fyth.

Mae’r awdurdod eisoes yn wynebu gorwariant o £1.7m ar gludiant ysgol, ar ben y £5.6m gafodd ei neilltuo yn y gyllideb ar gyfer hynny.

Fe wnaeth Phil Wynn, Cynghorydd Annibynnol Brynyffynnon, roi diweddariad ynghylch y sefyllfa yng nghyfarfod pwyllgor craffu dysgu gydol oes y Cyngor.

Ond cafodd pryderon ar ran contractiwr cludiant ysgol eu codi gan Stella Matthews, Cynghorydd Llafur Pant a dirprwy gadeirydd y pwyllgor, y gallai’r terfyn cyflymder diofyn newydd o 20m.y.a. wthio costau’n uwch ar gyfer gweithredwyr trafnidiaeth, fydd wedyn yn eu tro yn cael eu trosglwyddo i’r Cyngor pan gaiff cytundebau eu haildrafod.

“Yn dilyn mater 20m.y.a., casglu’r cerbyd, mynd i’r ysgol, ac yna mynd i’r fan lle mae’r plant yn cael eu gollwng – yn y gorffennol, roedd yn cymryd dwy awr,” meddai.

“Bellach, mae’n cymryd dwy awr a hanner, felly bydd hynny’n cynyddu ei gostau staffio fydd yn amlwg yn cael eu trosglwyddo i ni mewn cytundebau.

“A fu unrhyw ystyriaeth o hyn?”

Y terfyn cyflymder newydd

Wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, fe fu’r terfyn cyflymder 20m.y.a. diofyn mewn grym ers canol mis Medi.

Dywedodd Rachel Penman, Pennaeth Strategaeth Gwasanaethau’r Cyngor, y dywedwyd wrth weithredwyr am gofnodi a chadw tystiolaeth o effaith y terfyn cyflymder newydd ar eu gwasanaeth, fel bod modd i’r Cyngor ei fonitro ac edrych arno wrth fynd yn eu blaenau.

“I mi, y ddau beth sy’n gyrru [y gorwariant] hynny yw y bu pwysau chwyddiant sylweddol ar y cytundebau sydd wedi’u rhoi, boed y rheiny’n dacsis neu’n yrwyr bysiau,” meddai’r Cynghorydd Phil Wynn wrth roi diweddariad i gynghorwyr.

“Yn amlwg, mae yna newid hefyd yn y ddeinameg fod yna fwy o ddisgyblion ag anghenion cymhleth a chanddyn nhw anghenion dysgu ychwanegol sydd angen pecyn trafnidiaeth sy’n dueddol o fod yn anghymesur o ddrud, ond ein dyletswydd ni ydy cael y plant hynny i’r ysgol.”

Ychwanegodd y bu anhawster wrth recriwtio tywyswyr ysgol, ond fod swyddi gwag bellach wedi’u llenwi.

“Yn bersonol, fedra i ddim gweld cyfanswm gwirioneddol y gwariant ar gludiant ysgol yn gostwng yn y dyfodol rhagweladwy, oni bai bod yna newid sylweddol yng nghost tanwydd,” meddai.

Y gyllideb

Gofynnodd y Cynghorydd Phil Wynn am gael adolygu’r gyllideb cyn 2024-25.

Wrth gadeirio’r cyfarfod, gofynnodd Carrie Harper, Cynghorydd Plaid Cymru dros Queensway, ynghylch gwelliannau i fonitro cyllidebau.

Eglurodd swyddogion fod y ffordd y caiff cytundebau eu caffael bellach yn llawer haws ei monitro.

Y llynedd, roedd rhagfynegiadau’n seiliedig ar wariant tanwydd hyd at y pwynt hwnnw ac wedi’u rhagfynegi i fyny, ond newidiodd y ffigurau hynny’n sylweddol yn ystod y flwyddyn.

Mae’r Cyngor bellach wedi cyflwyno ‘system bwrcasu ddeinamig’ fel bod modd monitro gwerth cytundebau, cyfraddau dyddiol a niferoedd disgyblion.

Ychwanegodd swyddogion fod yna brinder gyrwyr tacsis a bysiau i weithredu’r ddarpariaeth.

Cafodd argymhellion eu cytuno gan gynghorwyr er mwyn dod â mater costau cludiant ysgol yn ôl i’r pwyllgor ym mis Mai neu Fehefin.

Bydd hyn yn cynnwys adborth ar unrhyw gynnydd mewn costau sy’n cael ei achosi gan gyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn 20m.y.a.