Mae’r Aelod Seneddol Lisa Cameron wedi cynrychioli etholaeth East Kilbride, Strathaven and Lesmahagow yn San Steffan dros yr wyth mlynedd ddiwethaf. Roedd ymhlith aelodau’r SNP enillodd 56 allan o 59 o seddau seneddol yr Alban yn etholiad 2015.

Yr wythnos yma, mewn tro annisgwyl i lawer, gadawodd yr SNP a chroesi’r llawr i ymuno â’r Torïaid. Ar yr olwg gyntaf, gallai hyn fod yn stori wleidyddol fawr, ac mae’n ddigon tebyg y byddai – o dan amgylchiadau arferol.

Fodd bynnag, gallwn fod yn sicr mai dyma fydd y lleiaf o bryderon yr arweinydd Humza Yousaf yn Aberdeen penwythnos yma. Ei ymateb cyntaf i’w hymadawiad oedd nad oedd yn meddwl bod Lisa Cameron erioed wedi credu mewn annibyniaeth i’r Alban. Mae’n ddigon posibl fod hyn yn wir, ac mae’n ymddangos hefyd ei bod ar fin colli enwebiad yr SNP fel ymgeisydd ar gyfer yr etholiad y flwyddyn nesaf.

Ergyd lawer mwy difrifol i Humza Yousaf oedd canlyniad is-etholiad Rutherglen and Hamilton West yr wythnos ddiwethaf. Roedd wedi bod yn amlwg ers tro y byddai’r SNP yn colli’r etholaeth i Lafur, ond ni ellir anwybyddu arwyddocâd graddau’r golled yno. Bu’n rhaid galw’r is-etholiad yn sgil ffolineb Margaret Ferrier, Aelod Seneddol yr SNP, i deithio ar drên yng nghanol y pandemig ar ôl profi’n bositif am Covid-19.

Wrth edrych yn ôl i etholiad 2015, mae llwyddiant yr SNP i ennill pob un ond tair o etholaethau’r Alban yn ymddangos yn fwyfwy syfrdanol. O weld cynifer o bobol oedd wedi codi o nunlle i ddod yn Aelodau Seneddol dros nos, byddai wedi bod yn rhesymol cael rhywfaint o amheuon a fyddai gan bob un ohonyn nhw’r gallu a’r ymrwymiad angenrheidiol.

I raddau helaeth, efallai nad y syndod mwyaf ydi bod ambell un wedi’u cael yn brin, ond yn hytrach eu bod wedi ffurfio grŵp mor effeithiol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mi fuon nhw’n ffodus o gael rhai unigolion disglair yn eu plith, gyda’r cyn-arweinydd Ian Blackford yn sicr ymysg sêr y senedd.

Eironi

Yr eironi mwyaf yng nghwymp yr SNP ydi nad o ganlyniad i unrhyw adar brith yn San Steffan y digwyddodd hyn, ond yn hytrach i broblemau llawer mwy sylfaenol ar frig y blaid yn yr Alban.

Er cystal arweinydd a phrif weinidog y bu Nicola Sturgeon ar lawer ystyr, mae’n dod yn fwyfwy amlwg iddi wneud ambell i gam gwag.

Sefyllfa hynod annoeth yn y lle cyntaf oedd i’w gŵr fod yn Brif Weithredwr yr SNP tra roedd hi’n arweinydd. Mewn cyfweliad yn ddiweddar, dywedodd ei rhagflaenydd Alex Salmond iddo ei chynghori’n gryf yn erbyn hyn, gan ychwanegu ei fod yn amau iddo ei thramgwyddo gryn dipyn wrth wneud hynny.

Mae’n ymddangos bod Nicola Sturgeon wedi mynnu disgyblaeth haearnaidd yn ei phlaid drwy gydol ei harweiniad. Efallai fod hyn yn angenrheidiol i raddau, ond eto mae peryglon amlwg wrth fygu annibyniaeth barn hefyd, gan y gall arwain at ddrwgdeimlad o dan yr wyneb. Roedd hefyd yn cyfrannu at wneud y blaid yn or-ddibynnol arni hi fel arweinydd, rhywbeth sy’n amlwg ym methiannau ei holynydd.

Does dim amheuaeth mai’r cam gwag mwyaf wnaeth Nicola Sturgeon oedd mynnu gwthio deddf ddadleuol ynghylch cydnabod rhywedd. Canlyniad anfwriadol y ddeddf oedd galluogi treisiwr i smalio bod yn ddynes a chael mynd i garchar merched. Mae deddf o’r fath mor amlwg ddiffygiol fel ei bod yn anochel o arwain at lanast gwleidyddol.

Er bod ei holynydd Humza Yousaf yn dilyn yr un trywydd, gall wynebu pwysau cynyddol o fewn yr SNP am newid cyfeiriad. Yn yr un modd, mae amheuon cynyddol am ddoethineb parhau’r cytundeb gyda’r Gwyrddion yn Llywodraeth yr Alban – plaid sy’n gyson wedi bod yn benderfynol o wthio mesurau amhoblaidd, fel y Ddeddf Cydnabod Rhywedd.

Byddai’r cytundeb rhwng y ddwy blaid wedi dod i ben pe bai Kate Forbes wedi cael ei hethol yn arweinydd, ac mae llawer yn amau bellach y byddai hi wedi bod yn well dewis fel arweinydd.

Cododd cwestiynau pellach am grebwyll gwleidyddol Plaid Werdd yr Alban yr wythnos yma, gydag ymateb cwbl anaddas gan un o’u Haelodau Seneddol, Maggie Chapman, i’r erchyllterau yn Israel, oedd i bob pwrpas yn gyfiawnhad o weithredoedd Hamas.

Anodd osgoi’r casgliad bod Plaid Werdd yr Alban yn rhoi mwy o bwyslais ar hyrwyddo achosion eithafol asgell chwith nag ar warchod yr amgylchedd.

Mae’n amlwg bellach fod Keir Starmer yn sylweddoli (yn gwbl gywir) mai gwenwyn gwleidyddol ydi gwleidyddiaeth Corbyn a’i debyg, ac efallai ei bod yn bryd i rai o’r pleidiau llai ddysgu gwersi tebyg.

Annibyniaeth

Er gwaethaf holl helyntion yr SNP, does dim arwydd o gwbl o ostyngiad cyfatebol yn y gefnogaeth i annibyniaeth i’r Alban dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Mae’n dal i fod wedi hofran ar ychydig llai na’r hanner.

Daw’n amlwg fod agweddau at annibyniaeth i’r Alban ac at yr SNP yn cael eu datgysylltu fwyfwy. Mae’n ymddangos bod niferoedd nid ansylweddol o genedlaetholwyr yr Alban yn colli ffydd yn yr SNP. Mae rhai yn amau ymrwymiad arweinwyr yr SNP i annibyniaeth, gyda’r wefan Wings over Scotland ymhlith y lleisiau mwyaf huawdl. Boed hyn yn deg neu beidio, o ystyried y blynyddoedd y mae wedi bod mewn grym, mae’n rhesymol gofyn pa weledigaeth sydd gan yr SNP ar gyfer cyflawni ei phrif nod cyfansoddiadol. Mae rhai cenedlaetholwyr yn cael eu denu at blaid Alex Salmond, Alba, er nad yw hon wedi llwyddo i wneud fawr o farc hyd yma.

Ar y llaw arall, mae arolygon yn awgrymu hefyd fod cyfran weddol sylweddol o gefnogwyr y Blaid Lafur yn yr Alban yn cefnogi annibyniaeth. Eto i gyd, ni ellir anwybyddu’r ffaith amlwg fod y pleidiau gwleidyddol Prydeinig yn yr Alban yn ymgyrchu ar sail cynnal y Deyrnas Unedig, a bod gogwyddau sylweddol o’r SNP at Lafur fel y gwelwyd yr wythnos ddiwethaf.

Mae’n sicr yn codi’r cwestiwn o faint o wir ymrwymiad at achos annibyniaeth i’r Alban sydd gan y canrannau gweddol uchel sy’n mynegi cefnogaeth i’r nod. Os mai dyma fyddai’r amcan gwleidyddol pwysicaf yn eu golwg, mae’n amheus a fydden nhw’n cefnu i’r graddau maen nhw ar brif blaid genedlaethol y wlad.

Beth am Gymru?

Yng Nghymru, ni chafodd yr ymchwydd mawr yng nghefnogaeth yr SNP ei adlewyrchu o gwbl yn y gefnogaeth i Blaid Cymru, sydd wedi aros yn gyson isel dros yr un cyfnod.

Mae ganddi’r cysur felly nad ydi cwymp yr SNP – sy’n ymddangos yn anochel bellach – yn debygol o effeithio arni hi.

Un peth sy’n gyffredin rhwng Cymru a’r Alban, er hynny, ydi’r diffyg cysylltiad rhwng y gefnogaeth i annibyniaeth ar y naill law a’r gefnogaeth i’r pleidiau cenedlaethol ar y llaw arall.

Yma yng Nghymru, mae arolygon barn wedi dangos cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth, ond dim cynnydd cyfatebol yn y gefnogaeth i Blaid Cymru.

Unwaith eto, rhaid codi’r cwestiwn am gryfder teimladau’r rheini sy’n ymateb yn gadarnhaol i arolygon barn ar bwnc annibyniaeth. Yn wir, mae lle i amau arwyddocâd arolygon o’r fath gan mai gofyn cwestiynau maen nhw am fwriadau pleidleisio pobol mewn refferendwm cwbl ddychmygol am annibyniaeth. Does dim unrhyw ragolygon y bydd refferendwm o’r fath yn cael ei gynnal fyth.

Beth bynnag am hynny, mae’n glir fod YesCymru yn sylweddoli nad oes gan Blaid Cymru obaith o allu cyflawni annibyniaeth i Gymru ar ei phen ei hun.

Diddorol yw’r ffordd mae’r mudiad yn ymateb i’r gwirionedd amlwg hwn trwy ei gynlluniau i sefydlu canghennau o Yes Cymru ym mhob un o’r prif bleidiau yng Nghymru. Mae YesCymru yn honni bod digon o gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru hyd yn oed o blith y Torïaid i gynnal grŵp o’r fath. Mae’n wir, wrth gwrs, y gall fod digon o bobol geidwadol eu gwleidyddiaeth yn cefnogi nod o’r fath, er ei bod yn amheus faint o’r bobol hyn sy’n aelodau o’r Blaid Dorïaidd.

Mae agwedd amlbleidiol YesCymru yn sicr yn arwydd o bragmatiaeth ddoeth ar eu rhan. Ar y llaw arall, er mwyn symud yn nes at eu nod, mi fydd angen iddyn nhw ddylanwadu ar bolisïau rhai o’r prif bleidiau hyn. A does dim gobaith o gwbl i ddim un o’r pleidiau sy’n gweithredu ar lefel Prydain gyfan arddel annibyniaeth lwyr i Gymru (beth bynnag fyddai hynny’n ei olygu).

Yr her fydd canfod pa raddau o annibyniaeth y bydd y pleidiau hyn yn barod i’w arddel a gweithredu arno. Gall hyn ofyn am fwy o barodrwydd o ran YesCymru i ymgyrchu ar symud Cymru ymlaen fesul camau bach. Gall ralïau annibyniaeth fod yn ddigwyddiadau poblogaidd ymysg y cadwedig rai, ond dim ond trwy ymrwymiadau cadarn gan bleidiau gwleidyddol mae sicrhau newid ymarferol.