Mae llawer o athrawon yn gadael y proffesiwn oherwydd diffyg hyfforddiant a chymorth i addysgu plant ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ôl Stuart Williams o undeb addysg NEU Cymru.
Daw ei sylwadau wedi i brotest gael ei chynnal ger y Senedd ddydd Gwener (Hydref 13) yn galw am ddiwygio’r Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol gafodd ei gyflwyno yn 2021.
Mae deiseb yn galw am fynediad cyfartal at addysg eisoes wedi denu dros 10,000 o lofnodion.
Yn ôl Stuart Williams, mae sawl un eisiau gweld gwell cefnogaeth i ysgolion a mwy o gydweithio rhwng y systemau addysg ac iechyd.
Mae baich gwaith uchel yn gyrru athrawon o’u swyddi ar hyn o bryd, meddai.
“Mae’r aelodau wedi dod ata i i ddweud eu bod nhw angen mwy o gefnogaeth o ran cyllid ac o ran hyfforddiant,” meddai wrth golwg360.
Baich gwaith “yn ormod”
Dywed Stuart Williams fod yn rhaid llunio Cynllun Datblygu Unigol ar gyfer pob plentyn, a’u bod nhw’n cymryd hyd at saith awr yr un i’w cwblhau.
“Tair awr ydi’r lleiaf sydd wedi ei dreulio ar un cynllun datblygu unigol,” meddai.
“Mae’r baich gwaith ynghlwm â gwneud y Cynlluniau Datblygu Unigol yn ofnadwy o uchel.
“Y mwyaf o amser maen nhw [athrawon] yn treulio’n gwneud y cynlluniau yma, llai o amser sydd ganddyn nhw i ddysgu ac i ddelio gyda materion eraill.
“Am fod y cynllun yn ddogfen gyfreithiol, mae’n rhaid iddyn nhw fod 100% yn gywir bob tro ac felly mae’n cymryd amser i’w cwblhau nhw.”
Yn ôl Stuart Williams, mae’r baich gwaith wedi dod yn ormod i rai athrawon.
“Rydw i’n gwybod bod yna nifer o athrawon wedi gadael y proffesiwn oherwydd y baich gwaith yma sydd ynghlwm ag anghenion dysgu ychwanegol,” meddai.
“Felly, nid yn unig eu bod nhw ddim yn cael gwneud eu gwaith yn iawn, ond mae rhai yn gadael hefyd oherwydd bod y gwaith yn ormod iddyn nhw.”
Diffyg hyfforddiant
Dywed Stuart Williams nad yw cael adnoddau arbenigol ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol yn drafferth, ac mai’r broblem yw nad oes digon o hyfforddiant na chymorth ar gyfer athrawon a staff pan mae’n dod at ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Er hynny, dywed nad oes ffigwr pendant o ran y cyllid ychwanegol sydd ei angen er mwyn ateb yr heriau.
“Os fasen ni’n gwybod yr ateb i faint o arian sydd angen ei wario, efallai fasen ni mewn safle gwell, ond dydyn ni ddim yn gwybod hynny,” meddai.
“Beth rydyn ni yn gwybod ydy eu bod nhw angen cyllido hyn lot gwell.
“Os nad ydi’r cyllid yma’n dod i mewn, rydyn ni’n mynd i fod yn yr un sefyllfa yn y dyfodol hefyd.
“Mae aelodau’r NEU yn gwneud popeth allan nhw i wneud yn siŵr bod plant yn cael yr addysg yna, ond allan nhw ddim ond gwneud hyn a hyn efo’r cyllid a’r gefnogaeth sydd ganddyn nhw ar y funud.”
Ysgolion arbennig
Mae llawer o’r ysgolion sy’n arbenigo mewn anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru yn llawn neu’n llenwi.
Ond dydy Stuart Williams ddim o reidrwydd yn credu mai agor rhagor o ysgolion yw’r ateb.
“Rydw i’n siŵr y buasai’r mwyafrif o rieni’n dweud y buasai’n well ganddyn nhw bod eu plant nhw yn y ffrwd ysgolion cyffredin yn hytrach nag ysgol arbennig,” meddai.
“Ond mae yna ddadl eu bod nhw angen mwy o ysgolion.
“Er hynny, rydw i’n siŵr bod y plant sydd heb anghenion ychwanegol dwys yn well mewn ysgol gyhoeddus lle maen nhw’n gallu cymysgu efo cyfoedion.
“Ond os ydy’r ysgolion [arbennig] yma yn llawn ac mae yna blant efo anghenion arbennig dwys sydd eu hangen nhw, yna mae’n syniad i ehangu’r ysgolion yma neu greu ysgolion newydd.”
Buddsoddi £20m
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd £20m yn cael ei fuddsoddi mewn anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys gwella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a phrynu offer newydd.
“Mae cyfiawnder a chynhwysiant yn ganolog i’n diwygiadau addysg sy’n ceisio gwella canlyniadau i bob disgybl,” meddai llefarydd.
Yn dilyn arolygiad o’r system newydd gafodd ei chyflwyno yn 2021, meddai’r Llywodraeth, mae’r meysydd oedd angen eu gwella wedi’u nodi, a byddan nhw’n derbyn y cymorth priodol.
“Rydym wedi buddsoddi £10m yn uniongyrchol mewn ysgolion eleni i’w galluogi i gynllunio a chefnogi’n well anghenion dysgwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol,” meddai.
“Byddwn yn parhau i adolygu addysg y proffesiwn Anghenion Dysgu Ychwanegol wrth i’r diwygiadau barhau.”