Yn 1967, cafodd wal o elyniaeth ei chodi o gwmpas Israel. Roedd byddinoedd yr Aifft, Syria a gwlad yr Iorddonen yn dynn amdani’n cau. Casglodd Israel ei grym ynghyd, ei wasgu yn bêl, a thaflu’r bêl honno’n galed at y wal, gan lawn ddisgwyl i’r wal ei daflu’n ôl atyn nhw yn galed, galed; ond er mawr syndod i Israel – a phawb arall – syrthiodd y wal.
Ers, ac oherwydd, y Rhyfel Chwe Diwrnod, mae Israel wedi mynnu ymateb i bob wal newydd o elyniaeth, yn yr un ffordd yn union: casglu ei grym ynghyd, ei wasgu yn bêl, a thaflu’r bêl yn galed at y wal, gan lawn ddisgwyl i’r wal newydd hwnnw, beth bynnag bo’i natur a’i bensaer i syrthio fel wal Gamel Abdel Nasser (1918-1970) yn 1967. Ond, ni ddymchwelir rhagor y wal. Mae’r wal o elyniaeth yn ddiogel ar ei thraed, a pha faint bynnag y bêl o rym mae Israel yn ei thaflu at y wal, mae’r wal yn sefyll, ac yn bwrw’r bêl yn ôl yn galed, galed.
Ers 1967, un ateb fu gan Israel i’w thrafferthion: grym arfau. Mae’r sefyllfa gyfredol yn enghraifft arall o hyn; yn ôl yr IDF (Israel Defence Forces), cafodd 900 o Israeliaid eu lladd; yn ôl Gweinyddiaeth Iechyd Palestina, cafodd 687 o Balestiniaid eu lladd. Gyda hyn yn parhau, gan ddyfynnu o un o emynwyr mawr Bro Morgannwg (John Williams, 1728?-1806; CFf.347): Pa feddwl, pa ’madrodd, pa ddawn/Pa dafod all osod i ma’s faint y trychineb a ddaw. Daw i’r Dwyrain Canol uffern na welodd Dante (1265-1321) namyn cysgod o’i ffyrnigrwydd hi. Myn Israel mae grym, rhagor o rym, a rhagor eto fyth o rym yw’r ateb i letchwithdod Hamas; rhaid gwasgu Hamas yn ddarnau mewn dwrn!
Breuddwyd yw Hamas, breuddwyd sy’n codi o berfedd anobaith y Palestiniad. Amhosibl yw diffodd breuddwyd trwy rym arfau. Ni ellir gosod breuddwyd dan warchae, ni ellir bomio na saethu breuddwyd! Mae hyd yn oed yr UAV fwyaf soffistigedig yn methu lleoli a thargedu breuddwyd. Mae’r freuddwyd hon yn drech na’r IDF. Yr unig ffordd i ddiffodd breuddwyd, yw cynnig breuddwyd arall, breuddwyd dyfnach, amgenach. Yr unig ffordd i Israel oresgyn Hamas yw cytuno i dalaith annibynnol yn y Llain Orllewinol a Llain Gaza, a’i phrifddinas yn Nwyrain Jerwsalem.
Yn ei lyfr Death as a Way of Life: Dispatches from Jerusalem (Bloomsbury; 2003), mae David Grossman (g. 1954) yn adrodd hanes amdano, fel rhan o gwmni o Israeliaid a Phalestiniaid fu’n gweithio a chydweithio i geisio cymod rhwng eu pobol a’i gilydd yn y Dwyrain Canol; yn ymweld â Gogledd Iwerddon i drafod yno, gyda Phrotestaniaid a Chatholigion amlwg, y broses heddwch. Mae’r dyfyniad yn hir, ond gwerthfawr:
“At one point, an Israeli asked, How did you do it? How did you manage to extricate yourselves from hundreds of years of violence and hatred, and put yourselves on the track of dialogue? When did you understand that there was no other way?
David Ervine, a Protestant leader who had been caught in the past with a live bomb in his hands, looked at Martin McGuiness, a Catholic leader, a man whom had been his bitter enemy. “There was a moment,” he said, “when I simply understood that this war cannot be won.” McGuiness nodded.”
Mae mur o elyniaeth rhwng Israel a Phalesteina. Yn argraffedig arno mae’r gwirionedd “This war cannot be won” – mewn Hebraeg, Arabeg, ac Angau.