Yn ôl yn yr ‘80au, daeth teulu newydd i fyw yn y tŷ drws nesaf i ni yn ardal Erddig, Wrecsam – y teulu Subacchi.

Un o Dalybont, Ceredigion oedd Linda, a chanddi Gymraeg hyfryd yr ardal honno. Cafodd David ei fagu yn Aberystwyth, gyda’i neiniau a’i deidiau ar ddwy ochr ei deulu wedi dod i Gymru o’r Eidal. Roedd David wedi dysgu’r Gymraeg, ac roedd yn rhugl.

Roedd gan y cwpwl dri o blant – Gina, Matthew ac Alicia. Mi wnaeth y plant fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg y fro, gan gynnwys yr un ysgol uwchradd â mi, sef Ysgol Morgan Llwyd.

Mae hi’n rhyfedd meddwl rŵan fod David a finnau wedi bod yn gymdogion am flynyddoedd, oherwydd erbyn hyn mi rydyn ni’n dau yn feirdd ac yn rhan o’r sîn lenyddol yn Wrecsam – rhywbeth na fyddwn wedi’i ddarogan bryd hynny.

Elvis, canu a guitarhenge!

Dwi ddim cweit yn siŵr sut ddes i ar draws Elvis am y tro cyntaf, ond mi roeddwn yn ffan enfawr ohono… yn wir, mi roedd yn un o fy ffrindiau anweledig! Eniwe, daeth i’r amlwg fod David hefyd yn ffan ac mi ges i fenthyg pentwr o recordiau ganddo ar un adeg.

Mae David hefyd yn canu ac yn chwarae’r gitâr – ac yn ddiweddar wrth berfformio cerdd, mi wnaeth o adrodd hanes o chwarae’r gitâr a chanu i’w wraig pan oedden nhw’n canlyn fel pobol ifanc, ac yna heddiw hefyd. Does dim modd gwneud cyfiawnder â’r gerdd yma, ond roedd yn neges hyfryd.

Nid yw’n syndod, efallai, clywed am fardd yn canu a chwarae gitâr, ond dwi’n cofio synnu wrth i Linda ddangos i mi un diwrnod ei gasgliad o gitarau! Roedd stafell gyfan yn y tŷ wedi’i neilltuo i’r casgliad, a phob un yn gorffwys ar stand unigol – guitarhenge!

Gwaith a chymuned

Gwas sifil oedd David wrth ei waith bob dydd, ond mi roedd hefyd yn gwneud llawer iawn o waith gwirfoddol yn y gymuned, gan gynnwys bod yn un o lywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd am 30 mlynedd.

Mi roedd yn frwd dros y Gymraeg yn yr ardal, ac wedi bod yn Llywydd Clwb Cinio Meibion Maelor ddwywaith.

Dros y blynyddoedd, rwy’ wedi ei weld yn perfformio yn y Gymraeg a Saesneg, ar blatfformau dwyieithog, ac heb os mi wnaeth hyn argraff arna i fel siaradwr Cymraeg yn Wrecsam, ac fel darpar awdures a bardd.

Seren y Saith a thu hwnt

O’r 2000au cynnar ymlaen, mi roeddwn i a David yn rhan o’r sîn lenyddol yn Wrecsam, ac mi wnaethon ni’n dau ddarllen ein cerddi yn y noson meic agored ‘Viva Voce’ gyntaf pan agorodd y Saith Seren yn 2012.

Fel yr ysgrifennais yn fy ngholofn yn Y Clawdd bryd hynny, David oedd ‘Man of the match’ y noson honno, hefo’r gerdd hon wnaeth ennyn murmur o edmygedd ar draws y dafarn:

SAITH SEREN

Mi welais saith seren

Uwchben y ‘dref drist’

Saith seren fy arwydd

Saith seren fy ngolau gwyrdd

Ac mi glywais saith seren

Yn y Maelor ac yn y Rhos

Yn canu yn y Cae Ras

Yn gweiddi yn y Parc

Saith seren fy ngobaith

Saith seren fy nhyst

Saith seren yn sibrwd

Yr iaith Gymraeg yn fy nghlust.

Wel, mi roedd hi’n amlwg ar y pryd fod David yn seren lenyddol, ac yn wir aeth yn ei flaen i gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, First Cut, y flwyddyn honno, a thair cyfrol cyfrwng Saesneg arall dros y blynyddoedd nesaf.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi 2017, cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth Gymraeg trwy Wasg Caer (Cestrian Press), sef Eglwys Yng Nghremona, gan dynnu ychydig ar ei dreftadaeth Eidalaidd.

Cyfrannu at y gymuned lenyddol yn Wrecsam

Felly mae David yn seren lenyddol heb os, a hynny yn ddwy- neu’n dairieithog. Ond ar ben hynny, mae ei waith yn arloesol ac yn mynd i’r afael â phynciau pwysig a heriol.

Yn ddiweddar, mewn ymryson, mi wnaeth o berfformio’i gerdd ‘Remember’, sy’n sôn am y rhagfarn wnaeth ei daid ei hwynebu fel Eidalwr yng Nghymru yn yr Ail Ryfel Byd. Mi wnaeth hyn mewn ffordd andros o gynnil, ac eto mi wnaeth effeithio arnaf gan aros yn fy nghof.

Mae David, felly, yn llais pwysig o ran y drafodaeth gyfoes am yr hyn yw Cymreictod a phrofiadau pobol â threftadaeth gymysg.

Hefyd, yn ddiweddar, buon ni ar banel gyda’n gilydd yn cyflwyno llenorion lleol a pherthnasol. Roedd David wedi dewis cyflwyno Bobi Jones (Robert Maynard Jones), llenor enwog wnaeth ddysgu Cymraeg a llenydda a barddoni yn yn yr iaith wedyn.

Felly, fel un sydd wedi dysgu Cymraeg i lefel andros o uchel, ac sy’n gwerthfawrogi’r her o fynd ati wedyn i lenydda yn yr iaith, mae David hefyd yn dod â phersbectif difyr i’r mater hwn, ac i’r llenyddiaeth berthnasol.

Mae David hefyd yn berson hyfryd a hael, ac mae’n un o fy arwyr llenyddol.