Enillodd Y Sŵn, Greenham a Save the Cinema ddwy wobr yr un yng Ngwobrau BAFTA Cymru heno (nos Sul, Hydref 15).

Derbyniodd Y Sŵn wobrau am y Ffilm Nodwedd/Teledu a Golygu: Ffuglen gorau, a daeth Greenham i’r brig yn y categorïau Cyfres Ffeithiol a’r Golygu: Ffeithiol.

Mared Jarman enillodd y wobr Torri Trwodd Cymru eleni, gyda’i drama How This Blind Girl…, ac aeth y wobr Rhaglen Blant i Mabinogi-ogi.

Mae hi’n bwysig gallu dangos bod gwaith Cymraeg “cystal pob tamaid” â gwaith Saesneg, medd Cadeirydd y gwobrau wrth golwg360 yn y seremoni yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.

“Dw i’n meddwl bod hynny mor bwysig i ddangos bod y gwaith sy’n cael ei gomisiynu a’i gynhyrchu gan S4C lan yna gyda’r goreuon,” meddai Angharad Mair.

Lisa Jên yn dathlu ennill gwobr am y cyflwynydd gorau. Llun: Hoda Davaine/BAFTA/Getty Images i BAFTA

‘Lan gyda’r goreuon’

Alex Jones fu’n llywio’r noson, ac roedd yr enillwyr eraill yn cynnwys Lisa Jên, Y Byd ar Bedwar: Cost Cwpan y Byd Qatar, Luke Evans a Taron Egerton.

Rakie Ayola dderbyniodd Wobr Siân Phillips eleni, ynghyd â’r actores orau, a chyflwynodd Rhuanedd Richards y wobr Cyfraniad Arbennig i Hywel Gwynfryn.

Ffilm Y Sŵn oedd â’r nifer uchaf o enwebiadau heno, a dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru, fod yna gynyrchiadau Cymraeg sydd yn gallu sefyll ochr yn ochr gyda chynyrchiadau mawr sydd i’w gweld dros y byd.

“Mae hi’n awyrgylch wych yma heno, dw i’n meddwl y dylen ni yng Nghymru, rheiny ohonom ni sy’n hoffi gwylio rhaglenni yn yr iaith Gymraeg, fod yn ofnadwy o browd,” meddai Angharad Mair.

“Mae yna gynyrchiadau yn yr iaith Gymraeg yn gallu sefyll ochr yn ochr gyda chynyrchiadau mawr sy’n cael eu gweld dros y byd i gyd.

“Dw i’n meddwl bod hynny mor bwysig i ddangos bod y gwaith sy’n cael ei gomisiynu a’i gynhyrchu gan S4C lan yna gyda’r goreuon.

“Dw i yn meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n gallu dangos bod y gwaith sy’n cael ei wneud yn yr iaith Gymraeg cystal bob tamaid â gwaith sy’n cael ei wneud yn Saesneg.

“Mae’r byd darlledu wedi newid gymaint erbyn hyn, o’r blaen efallai y byddai pobol wedi gweld cynyrchiadau ar S4C wedyn daeth hi’n bosib i’w gweld nhw dros y Deyrnas Unedig i gyd, ond nawr drwy Netflix – pan rydych chi’n meddwl am gyfres fel Dal y Mellt sy’n uniaith Gymraeg ac i’w gweld dros y byd i gyd – mae hynny’n golygu bod yr iaith Gymraeg hefyd yn cael ei gweld dros y byd i gyd.

“All hynny ond bod yn beth da i ni yng Nghymru, ac i ni siaradwyr Cymraeg. Dw i’n teimlo’n browd iawn.”

Roger Williams, awdur Y Sŵn. Llun: Hoda Davaine/BAFTA/Getty Images i BAFTA

Enillwyr BAFTA Cymru 2023

ACTOR

GRAHAM LAND Dal Y Mellt – Vox Pictures / S4C

OWAIN ARTHUR The Lord Of The Rings: The Rings of Power – Amazon Studios / Amazon Prime Video

RHYS IFANS House of The Dragon – HBO / 1:26 Pictures / Bastard Sword / GRRM Productions / Sky Atlantic

* TARON EGERTON Black Bird – Apple Studios / Apple TV+

ACTORES

EIRY THOMAS Y Sŵn – Swnllyd

KATY WIX Big Boys – Roughcut TV / Channel 4

* RAKIE AYOLA The Pact – Little Door Productions / BBC One Wales

RUTH WILSON His Dark Materials – Bad Wolf / BBC iPlayer

CYMRU TORRI DRWODD

EMILY MORUS-JONES Diomysus: More than Monogamy – BBC Wales & Emily Morus-Jones Production / BBC Three

ISSA FARFOUR Wales this Week and Wales at Six – ITV Cymru Wales

* MARED JARMAN How This Blind Girl… – Boom Cymru / BBC Two

RHAGLEN BLANT

GWRACH Y RHIBYN – Boom Cymru / S4C

* MABINOGI-OGI – Boom Cymru / S4C

Y GOLEUDY – Boom Cymru / S4C

DYLUNIO GWISGOEDD

* JO THOMPSON Save the Cinema – Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema

SARAH YOUNG Willow – Lucasfilm Ltd. / Disney+

SIÂN JENKINS Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL

*CHLOE FAIRWEATHER Scouting for Girls: Fashion’s Darkest Secret – The Guardian / Wonderhood Studios / Sky Studios / Sky Documentaries

CLARE STURGES Charlie Mackesy: The boy, the Mole, the Fox, the Horse and Me – Embankment Films  / Apple TV+ / BBC Two

DYLAN WYN RICHARDS Greenham – Tinopolis / S4C

GRUFFYDD SION REES Stori’r Iaith – Rondo Media / S4C

CYFARWYDDWR: FFUGLEN

SABELLA EKLÖF Industry – Bad Wolf / BBC iPlayer

LEE HAVEN JONES Y Sŵn – Swnllyd

RICHARD STODDARD Brassic – Calamity Films / Sky Max

* SALLY EL HOSAINI The Swimmers – Working Title / Netflix

GOLYGU: FFEITHIOL

GWYN JONES Italia 90 – Four Weeks that Changed the World – Blast! Films / Sky Documentaries

JOHN GILLANDERS & DAFYDD HUNT Stori’r Iaith – Rondo Media / S4C

* RHYS AP RHOBERT Greenham – Tinopolis  / S4C

SION AARON Chris a’r Afal Mawr – Cwmni Da / S4C

GOLYGU: FFUGLEN

DAFYDD HUNT Yr Amgueddfa – Boom Cymru / S4C

JOHANNES HUBRICH The Lazarus Project – Urban Myth Films / Sky Max

*KEVIN JONES Y Sŵn – Swnllyd

MALI EVANS Y Golau / The Light in the Hall – Triongl / Duchess Street / S4C

RHAGLEN ADLONIANT

CHRIS A’R AFAL MAWR – Cwmni Da / S4C

GOGGLEBOCS CYMRU – Cwmni Da / Chwarel / S4C

*LUKE EVANS: SHOWTIME! – Afanti / BBC Two

STEREOPHONICS LIVE IN CARDIFF: WE’LL KEEP A WELCOME – BBC Studios / Steroephonics / Aldgate Pictures / BBC One

CYFRES FFEITHIOL

A SPECIAL SCHOOL – Slam Media / BBC One Wales

*GREENHAM – Tinopolis / S4CSTORI’R IAITH – Rondo Media / S4C

THE DISAPPEARANCE OF APRIL JONES – Blast! Films / Channel 4

FFILM NODWEDD/DELEDU

DONNA – Truth Department / Films de Force Majeure

FIVE DATES – Wales Interactive / Good Gate Media

*Y SŴN – Swnllyd

NEWYDDION, MATERION CYFOES A PHYNCIOL

BBC WALES INVESTIGATES; WELSH RUGBY UNDER THE SPOTLIGHT – BBC Cymru Wales / BBC One wales

COUNTY LINES – ITV Cymru Wales / S4C

LLOFRUDDIAETH LOGAN MWANGI – Multistory Media Cymru / ITV Studios / S4C

*Y BYD AR BEDWAR: COST CWPAN Y BYD QATAR – ITV Cymru Wales / S4C

FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL

CHRISTIAN CARGILL Heart Valley – The New Yorker / Dalmatian Films / BBC Two Wales

PAUL JOSEPH DAVIES Greenham – Tinopolis / S4C

*SAM JORDAN-RICHARDSON Our Lives – Born Deaf, Raised Hearing – On Par Productions / BBC One

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN

*BJØRN BRATBERG The Feast / Gwledd – Sgrech

BRYAN GAVIGAN Y Sŵn – Swnllyd

DAVID JOHNSON His Dark Materials – Bad Wold /BBC iPlayer

SERGIO DELGADO The Pact – Little Door Productions / BBC One Wales

CYFLWYNYDD

CHRIS ROBERTS Chris a’r Afal Mawr – Cwmni Da / S4C

EMMA WALFORD & TRYSTAN ELLIS-MORRIS Prosiect Pum Mil – Boom Cymru / S4C

*LISA JÊN Stori’r laith – Rondo Media / S4C

SEAN FLETCHER Stori’r Iaith – Rondo Media / S4C

DYLUNIO CYNHYRCHIAD

DAFYDD SHURMER Y Sŵn – Swnllyd

DANIEL TAYLOR Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

JOEL COLLINS His Dark Materials – Bad Wolf / BBC iPlayer

*JONATHAN HOULDING Save the Cinema – Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema

FFILM FER

CARDIFF – The Festivals Company

*HEART VALLEY – The New Yorker / Dalmatian Films / BBC Two Wales

INNER POLAR BEAR – Gritty Realism Productions

NANT – Strike Pictures – Channel 4 Streaming

RHAGLEN DDOGFEN SENGL

BLOOD, SWEAT AND CHEER – Little Bird Films / BBC Three

*BROTHERS IN DANCE : ANTHONY AND KEL MATSENA – BBC Studios / BBC Two Wales

JASON AND CLARA – IN MEMORY OF MAUDIE – ITV Cymru Wales / ITV1

SPIKE MILLIGAN: THE UNSEEN ARCHIVE – Yeti / Sky Arts

SAIN

SOUND TEAM Industry – Bad Wolf / BBC iPlayer

SOUND TEAM The Feast / Gwledd – Sgrech

*SOUND TEAM The Rising – Sky Studios / De Mensen / Sky Max

DRAMA DELEDU

CASUALTY – BBC Studios / BBC On

*THE LAZARUS PROJECT – Urban Myth Films / Sky Max

PERSONA – Cwmni Da / S4C

AWDUR

JOE BARTON The Lazarus Project – Urban Myth Films / Sky Max

PETE MCTIGHE The Pact – Little Door Productions / BBC One

ROGER WILLIAMS Y Sŵn – Swnllyd

*RUSSELL T DAVIES Nolly – Quay Street Productions / ITVX