Mae tîm rygbi Cymru allan o Gwpan y Byd ar ôl colli o 29-17 yn erbyn yr Ariannin yn y Stade Velodrome ym Marseille.
Mae’n debygol mai hon oedd gêm ola’r maswr Dan Biggar yng nghrys coch Cymru, ac yntau wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol ar ôl y twrnament.
Roedd hi’n ymdrech arwrol gan y crysau cochion, ond roedd yr Archentwyr yn rhy gorfforol gryf yn y pen draw, a disgyblaeth hefyd wedi cyfrannu at y golled.
Bydd yr Ariannin nawr yn herio naill ai Iwerddon neu Seland Newydd yn y rownd gyn-derfynol wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd honno am y pedwerydd tro ers troad y ganrif.
Hanner cyntaf
Ar ôl pwyso ar Gymru yn ystod pum munud agoriadol y gêm, enillodd yr Archentwyr gic gosb wrth i’r crysau cochion gamsefyll, ond methodd Emiliano Boffelli â chic at y gôl o’r ystlys.
Daeth cyfnod o drin a thrafod gan yr Ariannin i ben wedyn â sgrym i Gymru yn hanner eu gwrthwynebwyr ar ôl iddyn nhw golli cryn diriogaeth wrth daflu’r bêl ymysg ei gilydd yn ddi-gyfeiriad.
Fe wnaeth yr olwyr fanteisio ar y camgymeriad wrth ledu’r bêl cyn i George North a Gareth Davies fylch i roi’r bêl yn nwylo Dan Biggar, lwyddodd i groesi o dan y pyst am drosgais.
Ar ôl i’r dyfarnwr Jaco Peyper adael y cae ag anaf i’w goes, ailddechreuodd y gêm gyda Karl Dickson wrth y llyw ond parhau i gamsefyll wnaeth yr Ariannin o hyd, ac ychwanegodd Biggar driphwynt arall ar ôl ugain munud i ymestyn mantais Cymru i 10-0.
Ond daeth methiant cynta’r maswr ar ôl 28 munud, wrth i Gymru ennill cic gosb eto fyth am gamsefyll, gyda Biggar yn tynnu ei gic heibio’r postyn.
Ychwanegodd yr Ariannin eu pwyntiau cyntaf ar ôl i’r prop Gareth Thomas fod yn camsefyll, a daeth y triphwynt oddi ar droed Boffelli i’w gwneud hi’n 10-3, ac ar ôl trosedd gan Josh Adams ddechreuodd ffrwgwd, ychwanegodd Boffelli driphwynt arall i’w gwneud hi’n 10-6 ar yr egwyl wrth i’r asgellwr osgoi’r cerdyn melyn.
Ail hanner
Yn sgil colli pum lein yn yr hanner cyntaf, daeth y cyd-gapten Dewi Lake i’r cae yn lle’r bachwr Ryan Elias ar gyfer yr ail hanner.
Roedd yr Ariannin yn ôl o fewn un pwynt o fewn pedair munud, wrth i Gymru gael eu cosbi yn ardal y dacl, a Boffeli yn ychwanegu’r triphwynt, ac ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm – o 12-10 – pan giciodd yr asgellwr gic gosb yn gywir o’i hanner ei hun.
Ond roedd Cymru’n ôl ar y blaen ar ôl chwarter awr gynta’r ail hanner, wrth i Tomos Williams fylchu a chroesi o’r 22, a Biggar yn ychwanegu’r ddau bwynt.
Trosedd – ond dim cerdyn
Roedd Guido Petti yn ffodus na chafodd e o leiaf gerdyn melyn ar ôl awr, pan hyrddiodd e Nick Tompkins â’i ysgwydd i’w ben, ond eglurodd y dyfarnwr nad yw pob ergyd i’r pen yn drosedd.
Ond o dan yr hen reolau, mae’n debygol y byddai’r clo wedi gweld cerdyn coch.
Daeth pymtheg dyn yr Ariannin yn gyfartal o fewn dim o dro, wrth i’r eilydd o brop Joel Sclavi hyrddio drosodd am gais, ac fe roddodd trosiad Boffelli ei dîm ar y blaen o 19-17 gyda deng munud yn weddill.
Ar ôl i Rio Dyer a Louis Rees-Zammit gyfuno, ceisiodd Rees-Zammit groesi yn y gornel ond cafodd ei hyrddio dros yr ystlys.
Roedd torcalon pellach i Gymru ar ôl 76 munud, pan rhyngipiodd Nicolas Sanchez y bêl ar ôl i’r eilydd Sam Costelow fethu â chanfod Tomos Williams ar ei ysgwydd, a Boffelli yn trosi unwaith eto cyn ychwanegu cig gosb ar y chwiban olaf i adael Dan Biggar yn ei ddagrau ar y fainc.