Mae golwr 17 oed yr Elyrch yn torri gwallt pan nad yw’n chwarae ar y cae i Glwb Pêl-droed Abertawe.

Ac yntau’n aelod o Academi’r clwb, mae Kit Margetson yn cwblhau tystysgrif Lefel 2 fel darpar-farbwr yn Gent’s of Mumbles yn y Mwmbwls ar gyrion y ddinas, gan weithio yno un diwrnod yr wythnos ar ôl llofnodi cytundeb tair blynedd proffesiynol gyda’r clwb.

Mae hyn yn rhan o raglen sgiliau bywyd ac addysg yr Elyrch, sy’n chwarae rhan hanfodol yn natblygiad chwaraewyr ifainc y clwb wrth iddyn nhw fwrw eu prentisiaeth gan ennill cymwysterau BTEC a thystysgrif hyfforddi UEFA.

Caiff y cwrs trin gwallt ei gynnig ar y cyd â Choleg Gŵyr Abertawe, ac mae Kit Margetson wedi cael y cyfle i ddysgu sut i dorri gwallt a barf dynion gan ddefnyddio technegau syml.

Fel rhan o’r cymhwyster BTEC, mae nifer o chwaraewyr eraill hefyd yn dysgu sut i dorri gwallt, ac mae eraill wedi penderfynu dilyn cyrsiau i’w helpu i fod yn blwmwr neu’n adeiladwr.

‘Datblygu sgiliau mewn meysydd eraill’

Mae Kit Margetson, mab yr hyfforddwr Martyn Margetson, yn cydnabod pwysigrwydd dysgu sgiliau tu allan i’r byd pêl-droed hefyd.

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni fel chwaraewyr, yn enwedig ar y lefel yma, yn gweithio’n galed y tu allan i ymarferion i ddatblygu sgiliau mewn meysydd eraill, oherwydd dydy pêl-droed ddim yn gweithio i bawb,” meddai.

“Dw i wedi ceisio mynd i mewn i fod yn farbwr ers sbel, a nawr mae’n rywbeth dw i’n edrych ymlaen ato ar fy niwrnodau i ffwrdd o’r ymarferion.

“Mae’n rywbeth gwahanol i’w wneud ochr yn ochr â’m gyrfa chwaraeon, a dw i’n hoffi’r cyferbyniad.

“Yn amlwg, yn y byd pêl-droed mae gennych chi amserlen i’w dilyn, felly mae cael gwneud rhywbeth gwahanol ac unigryw yn hwyl, ond hefyd yn ddefnyddiol iawn.

“Dw i wedi bod yn defnyddio fy sgiliau yn Gent’s of Mumbles yn Abertawe.

“Diolch enfawr i Luke [Brown] a Matthew [East] – sy’n berchen y siop – am adael i fi gael profiad gwerthfawr o weithio mewn siop barbwr.

“Dw i wedi treulio llawer o amser yn eu gwylio nhw ac yn dysgu ganddyn nhw, ac maen nhw hyd yn oed wedi gadael i fi dorri eu gwallt nhw!”

Y cymhwyster

Yn ôl Kit Margetson, y tu hwnt i ddysgu sut i dorri gwallt, mae’n cael y cyfle i ddysgu sgiliau eraill i’w helpu yn ei fywyd.

“Yn ystod y cwrs, byddwn i’n mynd i Goleg Gŵyr unwaith neu ddwy bob wythnos, lle byddwn i hefyd yn dysgu am arferion iechyd a diogelwch, a hyrwyddo.

“Roedd llawer o fodiwlau yn y cwrs, felly mae’r cymhwyster yn cwmpasu ystod eang o waith barbwr.

“Ar hyn o bryd, dw i wir yn mwynhau gwneud rhywbeth newydd, a dw i eisiau parhau i adeiladu ar hynny a gwella eto.”

Torri gwallt y tîm dan 18

Y tu allan i’r ymarferion a’r gampfa, mae Kit Margetson wedi bod yn torri gwallt ei gyd-chwaraewyr yn nhîm dan 18 yr Elyrch.

“Dw i wedi torri gwallt ambell un o’r bois ar deithiau oddi cartref – maen nhw wedi bod yn ddewr!” meddai.

“Diolch enfawr i staff yr Academi hefyd.

“Maen nhw wedi fy helpu i gael ar y cwrs, a hefyd wedi fy ngwthio i ar hyd y ffordd tra fy mod i’n ennill fy nghymhwyster.”