Roedd gweld pob masgot tîm pêl-droed Cymru’n gwisgo het bwced yr Urdd yn Wrecsam neithiwr (nos Fercher, Hydref 12) yn “arwydd pellach o gefnogaeth y Gymdeithas Bêl-droed i’r Urdd”, yn ôl y mudiad ieuenctid.

Hon oedd y gêm ryngwladol gyntaf i’w chynnal ar y Cae Ras ers 2019, wrth i Gymru guro Gibraltar o 4-0.

Dywed yr Urdd eu bod nhw’n rhannu’r un weledigaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, sef “sicrhau fod mwy o blant a phobol ifanc Cymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon”.

Cafodd y bartneriaeth rhyngddyn nhw ei sefydlu yn 2021, gyda’r bwriad o “gynnig profiadau unigryw i aelodau’r Urdd, a helpu i gynyddu’r gefnogaeth i dîm cenedlaethol Cymru”.

Yn rhan o’r bartneriaeth, roedd addewid i gynnal gwersylloedd pêl-droed haf yng nghanolfannau’r Urdd, a gwahodd chwaraewyr Cymru i sesiynau hyfforddi a sgyrsiau.

Hefyd yn rhan o’r bartneriaeth, mae’r Urdd wedi bod yn cydweithio er mwyn:

  • trefnu trafnidiaeth i ysgolion a chlybiau er mwyn cefnogi tîm merched Cymru yn eu gemau cartref
  • rhoi sylw i sêr timau merched a dynion Cymru ar ein cyfryngau cymdeithasol ac o fewn ein cylchgronau
  • helpu i gynnal sesiynau pêl-droed mewn ysgolion difreintiedig yn ystod rhai o gemau oddi cartref Cymru yn 2022 a 2023.

Mae’r hetiau bwced ar gael i’w prynu am £14 ar wefan yr Urdd, gyda hetiau bach yn addas i blant tair i chwech oed, a hetiau canolig ar gyfer plant dros chwech oed.

Buddugoliaeth gyfforddus i Gymru

4-0 dros Gibraltar ar y Cae Ras yn Wrecsam