Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr rygbi Cymru, wedi cyhoeddi chwe newid i’r tîm fydd yn herio’r Ariannin yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd ym Marseille ddydd Sadwrn (Hydref 14, 4 o’r gloch).

Bydd 14 o’r chwaraewyr heriodd Awstralia a Ffiji yn chwarae.

Mae’r cefnwr Liam Williams a’r maswr Dan Biggar yn holliach, tra bod y blaenasgellwr Aaron Wainwright yn symud i safle’r wythwr yn lle Taulupe Faletau, sydd allan o’r twrnament ar ôl torri’i fraich.

Daw Tommy Reffell i mewn i gwblhau’r rheng ôl, gyda Jac Morgan yn symud i ochr arall y sgrym.

Mae’r capten Dewi Lake wedi’i enwi ar y fainc, gyda Ryan Elias wedi’i ddewis yn safle’r bachwr, gyda Gareth Thomas a Tomas Francis yn cwblhau’r rheng flaen.

Adam Beard a Will Rowlands fydd yn chwarae yn yr ail reng.

Does dim lle i Gareth Anscombe o ganlyniad i anaf i’w goes, a bydd Biggar yn chwarae ochr yn ochr â’r mewnwr Gareth Davies.

Bydd y canolwr George North yn creu hanes drwy fod y Cymro cyntaf erioed i chwarae pedair gwaith yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi’r Byd, gyda Nick Tompkins yn bartner iddo fe yn y canol am y pedwerydd tro yn Ffrainc.

Josh Adams a Louis Rees-Zammit fydd ar y naill asgell a’r llall.

‘Adeiladu ar y momentwm’

Mae Warren Gatland yn awyddus i Gymru adeiladu ar y momentwm sydd ganddyn nhw hyd yn hyn.

“Roedd gennym ni’r nod o gyrraedd rownd yr wyth olaf, ac rydyn ni wedi cyflawni hynny,” meddai.

“Nawr, mae’n fater o adeiladu ar y momentwm hwnnw.

“Mae’n destun cyffro cyrraedd rowndiau ola’r twrnament, ac rydyn ni’n barod ar gyfer her rownd yr wyth olaf.

“Mae ein holl baratoadau wedi canolbwyntio ar gyrraedd y fan yma, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle.

“Rydyn ni’n disgwyl her anodd eto y penwythnos hon yn erbyn tîm corfforol yr Ariannin.

“Dydyn ni ddim wedi cael y perfformiad perffaith eto, ond rydyn ni wedi dangos ein bod ni’n dîm anodd i’n curo.

“Mae llawer mwy o dwf yn y garfan hon – gyda’i gilydd ac yn unigol – ac allwn ni ddim aros i fynd allan yno ym Marseille ddydd Sadwrn.”

Tîm Cymru

15. L Williams, 14. L Rees-Zammit, 13. G North, 12. N Tompkins, 11. J Adams, 10. D Biggar, 9. G Davies; 1. G Thomas, 2. R Elias, 3. T Francis, 4. W Rowlands, 5. A Beard, 6. J Morgan (capten), 7. T Reffell, 8. A Wainwright

Eilyddion

16. D Lake, 17. C Domachowski, 18. D Lewis, 19. D Jenkins, 20. C Tshiunza, 21. T Williams, 22. S Costelow, 23. R Dyer