Mae tîm pêl-droed Cymru wedi trechu Gibraltar o 4-0 ar y Cae Ras yn Wrecsam – eu gêm gyntaf yno ers 2019.

Sgoriodd Kieffer Moore ddwy gôl, gyda’r goliau eraill yn dod gan Ben Davies a Nathan Broadhead.

Creodd Dan James ddwy gôl, gyda Broadhead yn creu un a Charlie Savage hefyd yn creu un.

Daeth y goliau i gyd yn yr hanner cyntaf.

Enillodd Regan Poole, Joe Low, Charlie Savage a Liam Cullen eu capiau cyntaf dros Gymru, wrth i Rob Page enwi tîm di-brofiad wrth lygadu’r gêm fawr yn erbyn Croatia yng Nghaerdydd nos Sul.

Doedd y capten Aaron Ramsey ddim ar gael oherwydd anaf, a chafodd Cymru eu harwain gan Ben Davies yn ei absenoldeb. Roedd Brennan Johnson allan ag anaf hefyd.

Mae Gibraltar bellach wedi colli eu deuddeg gêm ddiwethaf oddi cartref.

Ar y cyfan, daeth Cymru drwy’r gêm heb anafiadau allweddol, er i Wes Burns ddod oddi ar y cae yn yr hanner cyntaf ag amheuon ei fod e wedi datgymalu ei ysgwydd.

Yn dilyn y gêm, daeth cadarnhad y bydd Charlie Savage a Joe Low yn aros gyda’r brif garfan, yn hytrach nag ymuno â’r garfan dan 21.