Mae’r diwydiant twristiaeth yn y canolbarth yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau fyddai’n cefnogi ac yn hybu twristiaeth yn yr ardal.

Daw galwadau grŵp Twristiaeth Gogledd Cymru ar ôl iddyn nhw gwrdd ag arweinwyr Plaid Cymru ddechrau’r wythnos.

Mae angen gwrando ar lais y sector yn y canolbarth, medd Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor, sy’n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd yn y Senedd ac yn San Steffan.

Yn sgil y cyfarfod, gafodd ei drefnu gan Dwristiaeth Gogledd Cymru, mae Mabon ap Gwynfor wedi addo gofyn i Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru, gwrdd â’r grŵp i glywed am yr heriau sy’n eu hwynebu.

Tai fforddiadwy a threthi

Roedd yr heriau gafodd eu crybwyll yn y cyfarfod yn cynnwys effaith trethi a rheolau trwyddedu newydd Llywodraeth Cymru ar lety hunanarlwyo, ynghyd â’r argyfwng costau byw a threth dwristiaeth arfaethedig.

Bu trafod hefyd am yr angen am dai fforddiadwy i ganiatáu i bobol leol barhau i fyw yn eu cymunedau.

Dywed Rowland Rees-Evans, cadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru, ei bod hi’n braf eistedd a thrafod penderfyniadau Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n gwybod bod yna ambell newid mawr ar droed y bydd rhaid i ni ymdopi â nhw yn y misoedd nesaf,” meddai.

Roedd y cyfarfod yng Ngwesty Trefeiddian yn Aberdyfi yn cynnwys siaradwyr o Bortmeirion, The Old Vicarage yng Nghorris, a Phlas Talgarth ym Mhennal.

‘Pwysigrwydd busnesau teuluol’

Wedi’r digwyddiad, dywedodd Mabon ap Gwynfor ei fod yn gyfarfod “defnyddiol” a’i bod hi’n dda magu perthynas â phobol sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth.

“Ynghyd â hynny, mae’r cyfarfod wedi amlygu pwysigrwydd busnesau unigol a’r sector i gyd i’n cymunedau, economi a diwylliant,” meddai.

“Dw i’n edrych ymlaen at ddatblygu’r berthynas i gynrychioli barn Twristiaeth Canolbarth Cymru yn y Senedd ac mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni angen sicrhau bod y sector dwristiaeth yng nghanolbarth Cymru’n cael y buddsoddiad a’r sylw mae’n ei haeddu ac mae gennym ni gynnig twristaidd gwych yma – y gorau yn y byd, dw i’n meddwl.”

Fe wnaeth y cyfarfod wella’u dealltwriaeth o ran busnesau twristaidd teuluol yr ardal, yr heriau maen nhw’n haeddu a’r cyfleoedd all y diwydiant eu cynnig i Gymru “cyn belled bod eu llais yn cael ei glywed a’u profiad yn cael ei gynnwys yn neddfwriaethau’r dyfodol”, meddai Liz Saville Roberts.