Mae’n rhaid gosod targed pendant ar gyfer annibyniaeth yng Nghymru, yn ôl Prif Weithredwr YesCymru, sy’n dweud nad yw’n credu y bydd y wlad yn cael mwy o degwch o dan Lywodraeth Lafur yn San Steffan.
Dywed Gwern Gwynfil fod YesCymru mewn trafodaethau ynghylch pennu dyddiad targed ar gyfer annibyniaeth i Gymru, a bod disgwyl y bydd yn cael ei gyhoeddi ymhen ychydig wythnosau.
“Mwy na thebyg, fydd o’n ddyddiad gyda rhyw fath o arwyddocâd hanesyddol,” meddai wrth golwg360.
“Mae yna lot o ddyddiadau posib yn dod o fewn y deg i bymtheg mlynedd nesaf.
“Mae yna nifer o ddyddiadau gydag arwyddocâd cryf iawn yn dod, ac rydw i’n credu y dylen ni ddewis un o rheiny a dweud, ‘Reit, rhaid i Gymru anelu i gael annibyniaeth cyn y dyddiad yma.”
Daw ei sylwadau wedi i Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ddweud nad yw am osod amserlen ar gyfer y targed.
Roedd ei ragflaenydd Adam Price wedi addo refferendwm o fewn pum mlynedd pe bai’r blaid yn dod i rym.
“Fi’n deall pam bod Rhun wedi gwneud y penderfyniad yna, ond rydw i’n anghytuno gydag e,” meddai Gwern Gwynfil.
“Beth yw’r pwynt o aros? Dyw refferendwm ddim yr unig ffordd o gyrraedd annibyniaeth, ac mae yna ddadl dros sicrhau yn gyntaf bod cefnogaeth frwd.
“Mae’r gefnogaeth yn tyfu, ac mae’n tyfu’n gyson yng Nghymru, ond o’n safbwynt i rydw i yn credu bod angen i ni bennu dyddiad cryf a phenodol fel targed i ennill ein hannibyniaeth.”
Lluosogrwydd y lleisiau
Dros yr wythnosau nesaf, bydd YesCymru yn anelu i roi llais i ragor o bobol o fewn y ddadl annibyniaeth.
Bydd pum grŵp gwleidyddol gwahanol yn cael eu lansio o dan YesCymru, gyda’r nod o roi llais i bobol ag amryw o weledigaethau gwahanol ar gyfer Cymru annibynnol, megis y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr.
Sialens arall yw apelio at y rheiny sydd ddim yn siarad yr iaith, ond dywed Gwern Gwynfil fod hynny’n rywbeth sy’n hawdd mynd i’r afael ag e drwy drafod.
“Mae’r data yn dangos yn glir bod pobol sy’n siarad Cymraeg yn llawer mwy tebygol o gefnogi annibyniaeth yn reddfol na phobol di-Gymraeg yng Nghymru,” meddai.
“Mae yna lot o resymau am hynna, ond beth sy’n ddiddorol iawn o fewn yr un data yw fod o ddim yn anodd iawn i oresgyn hynny fel her pan wyt ti’n siarad gyda nhw ac yn dechrau trafod annibyniaeth.
“Mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol mai peth arall sy’n ddiddorol iawn yw faint o bobol sy’n symud o Loegr i Gymru sy’n dod i annibyniaeth yn gyflym tu hwnt, oherwydd eu bod nhw’n gweld yn gyflym iawn yr annhegwch yn y driniaeth mae Cymru’n cael.”
Heriau ar y gweill i Lywodraeth Cymru
Dydy Gwern Gwynfil ddim yn hyderus y byddai Cymru’n cael mwy o degwch o dan Lywodraeth Lafur yn San Steffan nag y mae’n ei gael ar hyn o bryd.
“Mae’r Blaid Lafur yn mynd i – mwy na thebyg – allu ennill yr etholiad cyffredinol nesaf ar lefel y Deyrnas Unedig flwyddyn nesaf, ac mae’r Llywodraeth Lafur newydd yn Llundain yn mynd i ddweud ‘Na, dydyn ni ddim yn mynd i drin Cymru’n deg chwaith,” meddai.
“Bydd yn heriol iawn i’r Blaid Lafur yng Nghymru, achos maen nhw’n pinio eu hunain i Blaid Lafur y Deyrnas Unedig, a phan mae Plaid Lafur y Deyrnas Unedig yn eu gadael nhw i lawr, mae’r hollt yna sydd o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru jest yn mynd i gael ei amlygu fwy.
“Mae hynny’n reswm arall rydw i’n teimlo bod yn rhaid i ni gael y grwpiau gwleidyddol yma o fewn y mudiad annibyniaeth, er mwyn rhoi llais i’r wleidyddiaeth yna o blaid annibyniaeth a llais clir, a llais swnllyd hefyd gobeithio.”