Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyndyn i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Phrif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystod y pandemig, yn ôl yr ymchwiliad i’r pandemig Covid-19.

Daw hyn wedi i Andrew O’Connor, Cwnsler yr Ymchwiliad, gwestiynu’r Athro Alisa Henderson am gyfres o lythyrau gafodd eu rhannu yn nyddiau cynnar y pandemig.

Yn ôl adroddiadau, bu i’r Prif Weinidogion Mark Drakeford, Nicola Sturgeon ac Arlene Foster ysgrifennu at Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, ym mis Ebrill 2020 yn gofyn am gael chwarae rhan yn yr adolygiad o fesurau’r cyfnod clo.

Gofynnodd Mark Drakeford am “ddull tryloyw a chydweithredol o rannu a chynhyrchu opsiynau dadansoddi”.

Roedd Prif Weinidog Cymru hefyd wedi ysgrifennu at y cyn-Aelod Cabinet Michael Gove yn gofyn am “rythm cyson” i’r cyfarfodydd rhwng San Steffan a’r llywodraethau datganoledig.

Yn ei lythyr, nododd ei fod e am weld system lle byddai swyddogion yn cyfarfod yn gynnar yn yr wythnos, bod cyfarfod gyda Michael Gove yn cael ei gynnal yng nghanol yr wythnos, a chyfarfod COBRA o uwch-weinidogion a swyddogion wedyn ar ddiwedd yr wythnos.

‘Dogfen ryfeddol’

Wrth drafod cynnwys y llythyrau, dywedodd yr Athro Alisa Henderson mai “dyma’r ddogfen fwyaf rhyfeddol i mi ei darllen ers nifer o flynyddoedd”.

Dywed fod “y ffaith fod y gweinyddiaethau datganoledig yn ‘agored’ i benderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel petai’r ffaith eu bod yn yr ystafell ac yn gwrando ar yr hyn yr oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i’w wneud yn ymrwymiad digonol o ran cysylltiadau rhynglywodraethol” wedi sefyll allan.

“I mi, mae’n edrych fel bod safbwyntiau ar gysylltiadau rhynglywodraethol a sut y dylid integreiddio’r gweinyddiaethau datganoledig o fewn ymateb Deyrnas Unedig gyfan nad oedden nhw wedi’u llywio, o reidrwydd, gan yr hyn fyddai’n gallu ymateb orau i ddigwyddiad epidemiolegol,” meddai.

‘Tensiyau yn y canol’

Dywed yr Athro Alisa Henderson ei bod hi’n ymddangos bod “tensiynau” rhwng yr egwyddorion gafodd eu nodi yn y cynllun gweithredu a safbwyntiau Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ac Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a Rhif 10 Downing Street.

“Mae tensiwn yn y canol o ran sut y dylid darparu ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig,” meddai.

Fe fu galwadau ers tro i gynnal ymchwiliad yn edrych yn benodol ar ymateb Cymru i’r pandemig, ond dywedodd Mark Drakeford ei fod yn bwysig ystyried yr ymateb o Gymru o fewn cyd-destun y Deyrnas Unedig ehangach.

Bydd y mater o gysylltiadau rhynglywodraethol yn cael eu trafod ymhellach yn hwyrach o yn ystod yr ymchwiliad.