“Os yw cymunedau’n marw, mae’r iaith yn marw hefyd”, yn ôl cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith, wrth iddo esbonio wrth golwg360 pam ei fod yn dymuno ymgymryd â’r rôl.
Cafodd Joseff Gnagbo, wnaeth ffoi i Gymru o’r Côte d’Ivoire yng ngorllewin Affrica, ei ethol yn gadeirydd ar y mudiad iaith yn eu cyfarfod cyffredinol yng Nghaernarfon dros y penwythnos.
Symudodd i Gymru yn 2018, gan ddysgu Cymraeg, ac mae wedi bod yn weithgar â Chymdeithas yr Iaith ers sawl blwyddyn.
Cyn cael ei benodi’n gadeirydd, gan olynu Robat Idris, roedd yn swyddog rhyngwladol i’r mudiad.
‘Addysg Gymraeg i bawb’
Addysg Gymraeg a’r Ddeddf Eiddo yw’r prif ymgyrchoedd mae’r cadeirydd newydd, sy’n byw yn Nhredelerch ger Caerdydd, yn edrych ymlaen at fynd i’r afael â nhw.
“Mae gwaith pwysig dros y Gymraeg wedi cael ei wneud yn barod, a dw i’n edrych ymlaen at adeiladu ar hynny – dyna’r bwriad,” meddai Joseff Gnagbo wrth golwg360.
“Mae tua 80% o blant yn gadael yr ysgol yn methu siarad Cymraeg yn rhugl a hyderus ac, ar gyfer oedolion, mae’n anodd i oedolion ddysgu Cymraeg achos mae llawer gyda nhw i’w wneud yn barod – gofalu am y plant a gweithio.
“Y peth gorau ydy gwneud yn siŵr bod addysg Gymraeg i bawb, 100% i bob plentyn.”
Cyn Covid, roedd Joseff Gnagbo yn cynnal gwersi Cymraeg i geiswyr lloches, ac mae wedi bod yn addysgu’r iaith mewn ysgolion yng Nghasnewydd a Chaerdydd hefyd.
“Fel rhywun sy’n dysgu Cymraeg i bobol yn ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd, dw i’n teimlo’n gryf y dylai pawb o bob cefndir gael mynediad at y Gymraeg,” meddai.
“Mae’r Gymdeithas yn cynnig ateb pwysig yn hynny o beth yn ei hymgyrch dros addysg Gymraeg i bawb.”
‘Asgwrn cefn yr iaith’
Yn 2010, roedd y Côte d’Ivoire yng nghanol chwyldro milwrol, ac roedd Joseff Gnagbo yn un o’r rhai oedd yn gwrthwynebu’r llywodraeth newydd.
Recordiodd e gân rap yn galw ar bobol i wrthsefyll y chwyldro, ond daeth yn darged i filwyr arfog yn fuan, a bu’n rhaid iddo ffoi i Foroco heb ei deulu.
Ceisiodd am loches yng ngwledydd Prydain yn 2017, ac mae’n byw yng Nghymru ers dros bum mlynedd.
Bellach, mae ei ddau blentyn yn byw yng Nghaerdydd hefyd.
“Dw i’n falch iawn ac yn gyffrous hefyd, ac yn hapus iawn i gael fy mhenodi’n gadeirydd,” meddai wedyn am ei rôl newydd.
“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda swyddogion profiadol, achos mae gan Gymdeithas yr Iaith swyddogion profiadol a brwdfrydig iawn.
“Dw i’n teimlo’r pwysau, cyfrifoldeb mawr ar fy ysgwyddau!
“Bydd heriau gwleidyddol, dw i’n credu.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn deddfu yn y cyfeiriad cywir, ond gawn ni weld – mae gwaith i’w wneud.
“Mae cymunedau lleol yn bwysig i fi, felly fy mwriad cyntaf ydy bod yn agos at gymunedau lleol Cymreig, achos nhw yw asgwrn cefn yr iaith a’r diwylliant.
“Y broblem ar hyn o bryd yw bod llawer iawn o bobol methu fforddio tai yn eu cymunedau lleol, yn chwilio am waith ac felly mae’n rhaid iddyn nhw adael cymunedau.
“Os yw cymunedau’n marw, mae’r iaith yn marw hefyd. Maen nhw’n hollbwysig.”